Astudiaeth newydd ym Mhrifysgol Caerdydd yn argymell bod angen i'r heddlu ganolbwyntio ar y 24 awr cyntaf yn dilyn digwyddiad terfysgol er mwyn lleihau casineb ar-lein.
22 Mai 2015
Gallai ymyrraeth gan yr heddlu ymhen y 24 awr cyntaf yn dilyn digwyddiad terfysgol fod yn hollbwysig er mwyn lleihau casineb ar-lein a'i atal rhag lledaenu, yn ôl astudiaeth newydd gan wyddonwyr cymdeithasol a chyfrifiadureg Prifysgol Caerdydd
Defnyddiodd yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn y British Journal of Criminology ddwy flynedd union ers llofruddiaeth Lee Rigby, Ddata Mawr i fesur yr ymateb ar-lein i lofruddiaeth y Ffiwsilwr yn 2013. Dangosodd y data fod gan gasineb ar-lein 'hanner-bywyd' sy'n peri goblygiadau arwyddocaol ar gyfer ymyriadau gan yr heddlu a pholisi mewn achosion o derfysgaeth.
Daeth i'r amlwg mai yn ystod y 24 awr cyntaf yn dilyn yr ymosodiad y daeth y casineb ar-lein i'w anterth, cyn lleihau'n gyflym yn ystod y cyfnod dadansoddi 15 diwrnod o hyd. Felly, roedd yn awgrymu bod angen i'r heddlu ganolbwyntio ar ymyrryd yn ystod y cyfnod cychwynnol hwn er mwyn mynd i'r afael â'r frwydr yn erbyn casineb ar-lein.
Cynhaliwyd y prosiect drwy ddefnyddio meddalwedd Arsyllfa Cyfryngau Cymdeithasol Ar-lein ar y Cyd (COSMOS) a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae'r ymchwil newydd yn canolbwyntio'n benodol ar y casineb hiliol a chrefyddol sy'n cael ei gyflwyno a'i ledaenu ar-lein, a'r gwrthdaro ar Twitter rhwng yr heddlu a grwpiau gwleidyddol asgell dde yn ystod y 36 awr cyntaf ar ôl yr ymosodiad.
Dangosodd yr ymchwil fod negeseuon trydar gan yr heddlu a'r cyfryngau tua phum gwaith yn fwy tebygol o gael eu hail-drydar o gymharu â'r holl negeseuon trydar eraill gan ddefnyddwyr eraill yn dilyn yr ymosodiad.
Mae'n awgrymu ymhellach fod amlygrwydd gwybodaeth draddodiadol gan y cyfryngau a'r heddlu mewn cyfryngau cymdeithasol yn sianel effeithiol yn ôl pob golwg sy'n ymateb i sïon, dyfalu a chasineb.
Cyhoeddwyd yr erthygl yn y British Journal of Criminology ac mae'n adeiladu ar waith ymchwil blaenorol gan Dr Matthew Williams, Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, a Dr Pete Burnap, Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd, a ddangosodd fod negeseuon trydar cadarnhaol yn fwy tebygol o gael eu hail-drydar na'r rhai negyddol yn dilyn yr ymosodiad.
Meddai Dr Matthew Williams: "Mae'r patrwm hwn yn adlewyrchu achosion o gasineb ar-lein yn dilyn digwyddiadau tebyg, fel y bomiau ym Madrid a Bali. Daethom i'r casgliad fod gan gasineb ar-lein 'hanner-bywyd' yn dilyn troseddau sydd o ddiddordeb cenedlaethol. Gellir dadlau mai'r negeseuon gan y cyfryngau a'r heddlu ar Twitter ar ôl y digwyddiad sy'n gyfrifol am y gostyngiad cyflym mewn casineb gan eu bod yn tawelu'r dyfroedd ac yn cael eu defnyddio gan ddefnyddwyr Twitter sy'n ymateb i gamddefnyddwyr.
"O ystyried yr ymateb diweddar ym maes cyfiawnder troseddol i gasineb ar-lein, mae gan ein canfyddiadau nifer o oblygiadau posibl o ran gweithrediadau a pholisïau. Mae 'hanner-bywyd' casineb ar-lein a'r ffordd y mae'n lleihau'n gyflym yn awgrymu bod angen i'r heddlu ganolbwyntio ar ymyrryd yn ystod y cyfnod cychwynnol hwn fel bod y casineb yn lleihau hyd yn oed yn gyflymach. Ar ben hynny, mae'n awgrymu bod amlygrwydd gwybodaeth draddodiadol gan y cyfryngau a'r heddlu mewn cyfryngau cymdeithasol yn gyfryngau effeithiol yn ôl pob golwg sy'n ymateb i sïon, dyfalu a chasineb.
Meddai Dr Pete Burnap: "Mae gallu arsylwi cyfran helaeth o'r boblogaeth fwy neu lai ar y pryd drwy rwydweithiau cyfryngau cymdeithasol, yn galluogi'r rhai sy'n gyfrifol am ddiogelwch y cyhoedd i edrych ar ymateb cymdeithasol torfol. Mae tystiolaeth o'n hymchwil yn dangos bod casineb ar-lein yn gallu bod yn rhan o ymateb cymdeithasol ynghylch digwyddiad terfysgol. Felly, gall y technolegau hyn fod yn systemau rhybuddio cynnar sy'n amlygu achosion cynyddol o gamymddwyn y tu hwnt i'r digwyddiad o dan sylw."
"Mae natur gymharol fach ond parhaus y negeseuon trydar llawn casineb yn awgrymu mai prin yw'r nifer sy'n eu cymeradwyo. Fodd bynnag, mae'r rhai sy'n eu cefnogi yn deillio o grŵp craidd o ddefnyddwyr Twitter sy'n chwilio am negeseuon ei gilydd dros amser. Felly, nid yw casineb ar-lein ar Twitter yn cael ei ledaenu, ac mae'n annhebygol y bydd yn ehangu'n eang y tu hwnt i grwpiau o'r fath."
Dangosodd yr ymchwil hefyd bod grwpiau gwleidyddol ac unigolion asgell dde yn bachu ar y cyfle'n gyflym i ddefnyddio'r ymosodiad i hyrwyddo eu hachos, a'u bod yn fwy tebygol o drydar negeseuon sy'n cynnwys casineb crefyddol a hiliol ar-lein. Roedd negeseuon trydar gan y grwpiau a'r unigolion hyn yn fwy tebygol o oroesi (eu hail-drydar dros gyfnodau hwy) yn ystod y 36 awr cyntaf yn dilyn y digwyddiad, ond roeddent yn llai tebygol o gael eu hail-drydar gan nifer helaeth o ddefnyddwyr Twitter.
Mae gan y Coleg Plismona 6,000 o swyddogion ar Gwrs Hyfforddiant Prif-ffrydio Troseddau Ar-lein ar hyn o bryd sy'n trin a thrafod casineb ac aflonyddu ar-lein.
Gallwch lawrlwytho fersiwn cyn-argraffu o'r papur yma