Gallai cyffuriau cyffredin atal bron i filiwn o achosion osteoarthritis
3 Ionawr 2018
Mae’n bosibl bod cyffuriau sydd wedi’u llunio i drin afiechydon y system nerfol ganolog yn gallu cael eu defnyddio i atal datblygiad arthritis sy’n datblygu o ganlyniad i anaf. Gallai hynny arbed ychydig dros hanner biliwn o bunnoedd y flwyddyn i’r GIG.
Canfu Dr Deborah Mason a Dr Cleo Bonnet ym Mrifysgol Caerdydd y gallai un chwistrelliad o gyffur gwrthgyffylsiwn cyffredin, yn dilyn anaf, leddfu poen a chwyddo’n fwy nag unrhyw therapi cymeradwy eraill a gostwng i raddau helaeth y llid, a dinistriad yr asgwrn a’r cartilag, sy’n arwain at osteoarthritis.
Yn ôl Dr Deborah Mason o Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd a Chanolfan Biofecaneg a Biobeirianneg Ymchwil Arthritis y DU: “Mae osteoarthritis yn effeithio ar tua 8.5 miliwn o bobl yn y DU ac mae tua 1 miliwn o’r achosion hynny’n cael eu hachosi gan anaf...”
Mae osteoarthritis – y math mwyaf cyffredin o glefyd y cymalau – yn achosi poen ac anabledd. Ar hyn o bryd, nis oes unrhyw driniaeth addasu clefyd ar gyfer y cyflwr – sydd fel arfer yn cael ei ddiagnosio yn dilyn dirywiad y cymalau – pan fo’r clefyd wrth gam datblygedig. Mewn llawer o gleifion, gall osteoarthritis fod wedi dechrau flynyddoedd yn gynharach a hynny, weithiau, o ganlyniad i anaf i’w cymal.
Mae anaf i gymal yn arwain at osteoarthritis mewn dros 50% o gleifion, fel arfer tua 5-15 mlynedd ar ôl yr anaf, pan mai’r unig driniaeth yw lleddfu symptomau poen a llid gan ddefnyddio cyffuriau gwrthlidiol nad ydynt yn cynwys steroids (NSAIDs) neu elfen lladd poen, fel parasetamol.
Yn ôl yr Athro Mason: “Daeth i’r amlwg i ni fod cyffuriau a ddatblygwyd ar gyfer anhwylderau'r system nerfol ganolog yn gallu atal rhyddhau'r cemegyn sy’n gysylltiedig â llid cronig, ac y gallai atal y poen a’r dirywiad sy’n gallu achosi osteoarthritis flynyddoedd yn ddiweddarach.”
Roedd yr ymchwilwyr eisoes yn gwybod y rhyddheir moleciwl o'r enw glwtamad i’r cymal ar grynodiadau uchel iawn mewn arthritis – ac yn ystod trawma i’r cymalau – gan sbarduno ei gelloedd i ryddhau cemegyn sy’n gysylltiedg â llid. Roedd eu profion yn y labordy yn dangos y gallai'r broses hon gael ei rhwystro gan y cyffur NBQX a oedd yn atal celloedd rhag adweithio i glwtamad a rhyddhau’r cemegau sy'n achosi llid, sy’n peri dirywiad y cymalau.
Ar hyn o bryd, mae’r ymchwil wrth gam cyn-glinigol ac nid yw wedi’i brofi ar bobl ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae’r dosbarth hwn o gyffuriau wedi’i brofi gyda phobl ar gyfer epilepsi, sy’n golygu y dylai rhoi pwrpas newydd iddyn nhw er mwyn atal osteoarthritis fod yn llwybr diogel a chyflym tuag at dreialon clinigol.
Cafodd yr ymchwil ei hariannu gan Arthritis Research UK a’r Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC).