Darlithwyr ar daith
15 Rhagfyr 2017
Yn ystod y mis diwethaf mae darlithwyr Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, wedi bod yn teithio o amgylch Cymru yn cynnal Dosbarthiadau Meistr i fyfyrwyr chweched dosbarth.
Dyma’r ail dro yn olynol i’r Ysgol redeg y Dosbarthiadau Meistr. Bwriad y dosbarthiadau yw cynorthwyo a chefnogi disgyblion blwyddyn 12 a 13 sy’n astudio’r Gymraeg gyda gweithdai iaith a llenyddiaeth yn seiliedig ar gynnwys y cwricwlwm.
Cynhaliwyd sesiynau yn ystod mis Tachwedd o dan arweiniad Dr Angharad Naylor, Tiwtor Derbyn Ysgol y Gymraeg.
Roedd y digwyddiad cyntaf yn Ysgol Bro Teifi ar 8 Tachwedd. Bu Dr Naylor a Dr Llion Pryderi Roberts yn trafod gramadeg a dehongli barddoniaeth gyda chriw o ddisgyblion o ysgolion y dalgylch. Cynhaliodd Dr Siwan Rosser weithdy i flwyddyn 13 ar ddadansoddi testun anghyfarwydd a bu Dr Naylor wrthi’n trafod Dafydd ap Gwilym gyda’r disgyblion hyn.
Ysgol David Hughes oedd lleoliad yr ail ddigwyddiad ar 10 Tachwedd gyda disgyblion o ysgolion lleol. Cafwyd gweithdy gramadeg gyda Dr Iwan Wyn Rees a gweithdy barddoniaeth ddifyr gyda’r bardd Karen Owen. Cafodd blwyddyn 13 weithdy ar ddadansoddi testun gyda Dr Lisa Sheppard a gweithdy ar chwedl Branwen gyda’r Athro Sioned Davies.
Meddai Dr Naylor: “Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n manteisio ar gyfleoedd i gynorthwyo disgyblion sy’n astudio’r Gymraeg. Mae’r Dosbarthiadau Meistr yn cynnig cyfleoedd gwych i ddisgyblion o wahanol ysgolion ddod at ei gilydd i astudio ac i wrando ar syniadau a chynghorion defnyddiol a fydd o gymorth iddynt gyda’r cwrs Lefel A. Mae’r gweithdai hefyd yn rhoi cyfle i staff rannu eu harbenigedd ac ymchwil diweddar mewn gwahanol feysydd ac i hyrwyddo’r Gymraeg fel pwnc yn y gobaith y bydd y disgyblion yma yn parhau i astudio’r Gymraeg yn y dyfodol.
“Mae yna gyfleoedd cyffrous i fyfyrwyr sy’n dewis dilyn gradd yn y Gymraeg ac mae’r galw am raddedigion y Gymraeg yn cynyddu. Trwy astudio’r Gymraeg yn y brifysgol caiff myfyrwyr gyfle i ddilyn rhaglen amrywiol a chyfoes sydd yn cyfuno gwahanol feysydd megis cynllunio ieithyddol, cyfieithu, hunaniaeth, diwylliant a llenyddiaeth.”
Bu Dr Naylor hefyd ar ymweliad ag Ysgol Gyfun Ystalyfera-Bro Dur ac Ysgol Gyfun Bryntawe yn ystod mis Tachwedd ac mae’n edrych ymlaen at gwrdd â rhagor o ddisgyblion yn ystod y flwyddyn newydd.
Ychwanegodd Dr Naylor: “Mae’r staff i gyd yn mwynhau’r cyfle i fynd ar daith. Mae wedi bod yn hyfryd cydweithio â’r disgyblion, gweld eu brwdfrydedd yn yr ystafell ddosbarth, a’u cynorthwyo â’u hastudiaethau.”
Mae’r daith yn parhau yn yr wythnosau nesaf wrth i’r darlithwyr gynnal Dosbarthiadau Meistr yn Ysgol y Strade (19 Rhagfyr 2017) ac Ysgol Plasmawr (20 Rhagfyr).
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Cadi Thomas.