Creu Senedd sy'n gweithio i Gymru
14 Rhagfyr 2017
Yn ôl casgliad adroddiad dan arweiniad arbenigwr Prifysgol, mae angen rhagor o ACau i ddal Llywodraeth Cymru i gyfrif a chyflawni ar ran pobl Cymru.
Bu'r Athro Laura McAllister o Ganolfan Llywodraethiant Cymru'n cadeirio grŵp annibynnol o arbenigwyr etholiadol a seneddol i ystyried ac argymell newidiadau a fydd yn creu senedd sy'n gweithio i Gymru.
Cynrychiolaeth effeithiol
“Mae ein hargymhellion wedi'u cynllunio i sicrhau bod gan y Cynulliad y nifer o Aelodau sydd eu hangen i gynrychioli'r bobl a'r cymunedau mae'n eu gwasanaethu'n effeithiol, gan ddal Llywodraeth Cymru i gyfrif a bod yn senedd sy'n gweithio'n wirioneddol i Gymru nawr ac yn y dyfodol," yn ôl yr Athro McAllister.
“Yn 1999, ychydig iawn o gyfle oedd gan Aelodau Cynulliad i effeithio ar fywydau pob dydd pobl Cymru. Heddiw, maen nhw’n gyfrifol am gyllideb o £15bn, gan greu cyfraith yng Nghymru mewn llu o feysydd pwysig fel iechyd ac addysg, a gallan nhw hefyd newid y trethi a dalwn.
“Dim ond chwe deg o Aelodau sydd yn y sefydliad o hyd, a gyda'i bwerau cynyddol i effeithio ar fywydau pobl, nid oes ganddo'r capasiti angenrheidiol.
“Mae hyn yn bwysig. Mae'r Cynulliad a'i Aelodau'n cael effaith real, uniongyrchol a chadarnhaol ar fywydau pob un ohonom ni yng Nghymru. Mae galw am ragor o wleidyddion yn amhoblogaidd; ond rhaid i ni adrodd fel y gwelwn ni'r dystiolaeth.
“Wrth i'w bwerau gynyddu, barn y Panel yw na all y Cynulliad barhau fel y mae heb beryglu ei allu i gyflawni'n effeithiol i bobl Cymru. Ceir achos cryf dros gynyddu ei faint i o leiaf 80, a gorau oll yn agosach at 90 o Aelodau...”
Mae adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad yn argymell bod angen rhwng 20 a 30 o Aelodau ychwanegol wedi'u hethol drwy system etholiadol fwy cyfrannol gydag atebolrwydd i'r etholwyr ac amrywiaeth yn greiddiol.
Mae hefyd yn argymell gostwng yr oed pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol i gynnwys pobl un ar bymtheg a dwy ar bymtheg oed.
“Dim digon o bwêr ac wedi’i or-ymestyn”
Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru: "Yn 2015, casgliad Comisiwn y Cynulliad oedd nad oedd gan y Cynulliad Cenedlaethol, gyda 60 o Aelodau'n unig, ddigon o nerth a'i fod yn cael ei or-ymestyn.
“Nid nhw oedd y cyntaf i wneud hynny o bell ffordd. Ers dros ddegawd, mae comisiynau annibynnol â'r dasg i edrych ar gapasiti'r Cynulliad wedi dod i'r un casgliad. Ni chaiff y diffyg capasiti hwn ei ddatrys heb weithredu'n feiddgar, ac ni allwn ni fforddio ei anwybyddu bellach.
“Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno dadansoddiad annibynnol, ystyriol o'r dystiolaeth a datrysiadau posibl i greu senedd fwy cynaliadwy fydd yn gwasanaethu pobl Cymru ymhell i'r dyfodol.
“Rwyf i'n ddiolchgar i aelodau'r Panel am eu hamser, i'r Athro McAllister am ei harweinyddiaeth, ac i'r Panel am gyflwyno cyfraniad mor drylwyr, ar sail tystiolaeth, i ddemocratiaeth yng Nghymru.
“Bydd Comisiwn y Cynulliad yn ystyried y cynigion yn fanwl dros y misoedd nesaf ac yn ymgysylltu â phobl ar draws y wlad a'r sbectrwm gwleidyddol.
“Gobeithio y gallwn ddod o hyd i gonsensws eang ar gyfer newid a chyflenwi deddfwrfa gryfach, fwy cynhwysol sy'n edrych i'r dyfodol ac a fydd yn gweithio i Gymru am flynyddoedd lawer.”