Cyn-gyfarwyddwr Ymchwil Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau yn ymuno â Phrifysgol Caerdydd
13 Rhagfyr 2017
Mae'r Athro Mark Llewellyn, cyn-gyfarwyddwr Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) wedi dechrau rôl newydd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yn rhan o rôl ddeuol fydd yn dechrau ar 4 Rhagfyr 2017, bydd yr Athro Llewellyn yn Arwain Maes Ariannu Ymchwil yng Ngholeg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol yn y Brifysgol. Bydd hefyd yn Athro Llenyddiaeth Saesneg yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth.
Yn ei rôl gyda’r Coleg, bydd yn sbarduno grantiau allanol gan Gynghorau Ymchwil y DU, elusennau ac Ymddiriedolaethau, ynghyd â chyfleoedd ariannu Ewropeaidd, ac yn cynghori ar y broses. Fel Athro Llenyddiaeth Saesneg, bydd yr Athro Llewellyn yn darparu addysgu dan arweiniad ymchwil ar draws ystod o fodiwlau, yn ogystal ag arwain ar strategaeth Arian Ymchwil yn yr Ysgol.
Dywedodd yr Athro Gillian Bristow, Deon Ymchwil, Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol: "Bydd y Coleg cyfan yn elwa’n fawr ar brofiad Mark gyda Chyngor y Celfyddydau a'r Dyniaethau lle bu’n gosod agenda ac yn fframio strategaeth ymchwil ar y lefel uchaf mewn cyd-destunau cenedlaethol a rhyngwladol. Bydd hefyd yw nodi cyfleoedd ar gyfer partneriaethau ymchwil arloesol ar draws Ysgolion a disgyblaethau, yn ogystal â meithrin ffyrdd newydd o feddwl am gyfleoedd ariannu."
Mae’r Athro Llewellyn yn arbenigo ym maes astudiaethau diwedd oes-Fictoraidd a neo-Fictoraidd, ac mae wedi cyhoeddi'n eang ar y nofelydd Eingl-Wyddelig George Moore (1852-1933) yn ogystal â’r ymgysylltiadau llenyddol a diwylliannol cyfoes â'r bedwaredd ganrif ar bymtheg drwy genre 'neo-Fictorianaidd'. Mae ei brosiectau cyfredol yn cynnwys astudiaeth o losgach yng ngwleidyddiaeth Fictoraidd ac Edwardaidd, diwygio a diwylliant cymdeithasol, a llyfr ar ddibriodrwydd gwrywaidd yn yr 1890au.
Fel Cyfarwyddwr Ymchwil Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau rhwng 2012 a 2017, bu'n gyfrifol am raglenni modd ymatebol, cyllid ôl-raddedig, themâu ymchwil, cyfnewid gwybodaeth a gweithgareddau ymgysylltu cyhoeddus gwerth tua £100m y flwyddyn. Bu hefyd yn gynrychiolydd Cynghorau Ymchwil RCUK ar Brif Banel D REF2014 - y Dyniaethau, ac mae wedi bod mewn amrywiaeth o rolau rhyngwladol gan gynnwys Cadeirydd Grŵp Strategaeth Cyfnewid Gwybodaeth ar gyfer y Dyniaethau yn yr Ardal Ymchwil Ewropeaidd.
Yn fwyaf diweddar, mae’r Athro Llewellyn wedi bod yn Athro Saesneg Gwadd ym Mhrifysgol Strathclyde, Glasgow, DU (2015-17), ac ef oedd Cadeirydd Arweinyddiaeth Ymchwil John Anderson yn yr adran Saesneg (2011-15). Cyn ymuno â Phrifysgol Strathclyde, bu'n ymchwilydd ôl-ddoethuriaeth AHRC (2006 – 07), Darlithydd (2007-09), ac yna’n Uwch-ddarlithydd (2009 – 11) yn Saesneg ym Mhrifysgol Lerpwl o dan gynllun Arweinwyr Ymchwil y Dirprwy Is-Ganghellor. Rhwng 2008 a 2011 roedd yn Gyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig ar gyfer Cyfadran y Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol lle arweiniodd gynigion blaenllaw ar gyfer ariannu mentrau myfyrwyr ar raddfa fawr i Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (ar gyfer Lerpwl) a Chyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (Lerpwl, Lancaster a Manceinion).
Dywedodd yr Athro Llewellyn: "A minnau wedi cael fy ngeni a fy magu yn ne Cymru, pleser o’r mwyaf yw dechrau’r rôl hon yng Nghaerdydd. O ystyried y diwylliant ymchwil yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'm cydweithwyr ar gyfleoedd ariannu fydd yn cyflawni eu huchelgais. O fewn y Coleg, ceir llawer o gryfderau yn y celfyddydau a'r dyniaethau, ac mi fydd hi’n gyffrous gweithio ar draws gwahanol ddisgyblaethau i alluogi cysylltiadau, partneriaethau ac arweinyddiaeth i dyfu yn yr ardaloedd hyn."