Dathlu gradd er anrhydedd gan Brifysgol Cymru
8 Rhagfyr 2017
Mae’r Athro Colin Williams o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, wedi derbyn gradd er anrhydedd gan Brifysgol Cymru mewn seremoni yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd ar 8 Tachwedd 2017.
Cynhaliwyd y digwyddiad i ddathlu cyfraniad Prifysgol Cymru i’r sector Addysg Uwch yng Nghymru, ac i’r wlad i gyd, dros gyfnod o ganrif a rhagor.
Yn ystod y confocasiwn cyflwynwyd chwe gradd er anrhydedd i gydnabod cyfraniadau unigol ym meysydd y celfyddydau, llên, y gwyddorau, masnach a diwydiant, bywyd proffesiynol, a gwasanaethu’r cyhoedd a’r Brifysgol. Yn ogystal â’r Athro Williams, anrhydeddwyd Mr Alun Thomas, Y Fonesig Clancy DCB, Mr Daniel Huws, Yr Athro Dianne Edwards CBE FRS, a Mr Llŷr Williams.
Mae’r Athro Williams yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol fel arbenigwr ym maes cynllunio a pholisi iaith a daearyddiaeth iaith. Yn ogystal â chyhoeddi nifer fawr o weithiau academaidd, mae’r Athro Williams hefyd wedi gwasanaethu fel ymgynghorydd i asiantaethau llywodraethol ar draws Ewrop a Gogledd America.
Treuliodd yr Athro Williams nifer o flynyddoedd fel Athro Ymchwil yn Ysgol y Gymraeg a chyfarwyddwr yr Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio. Mae bellach yn Athro Anrhydeddus yn yr Ysgol ac yn Gymrawd Ymweliadol yng Ngholeg St Edmund’s, Prifysgol Caergrawnt.
Hoffai’r Ysgol longyfarch yr Athro Williams yn wresog ar dderbyn y radd er anrhydedd haeddiannol hon.