Arbenigwyr y Brifysgol yn mynd i'r afael â materion byd-eang yng Ngŵyl y Gelli
20 Mai 2015
Bydd arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd yn mynd i'r afael â rhai o broblemau mwyaf dybryd cymdeithas gerbron cynulleidfaoedd mewn gŵyl lenyddiaeth fyd-enwog.
Lefelau uwch y môr, gwyliadwriaeth dorfol a defnyddio ynni fydd ar yr agenda fel rhan o drafodaethau Prifysgol Caerdydd yng Nghyfres Caerdydd yng Ngŵyl y Gelli eleni.
Mewn trafodaeth ar wahân, bydd yr Athro Richard Sambrook, Cyfarwyddwr Canolfan Newyddiaduraeth y Brifysgol, yn ystyried rhyddid y wasg gydag arbenigwyr eraill o'r cyfryngau a chyflwynydd newyddion Channel 4, Jon Snow.
Mewn rhan arall o'r Ŵyl, bydd Dr Daphne O'Doherty o'r Ysgol Peirianneg yn ystyried y sgiliau sydd eu hangen ar beirianwyr ifanc, a bydd yr Athro Damian Walford Davies yn trafod ei gasgliad diweddaraf o farddoniaeth.
Cynhelir Gŵyl y Gelli yn y dref yn nghanolbarth Cymru rhwng 21 a 31 Mai, ac mae'n denu awduron, gwneuthurwyr ffilmiau, digrifwyr, gwleidyddion, academyddion a cherddorion o'r radd flaenaf.
Ar 30 Mai, bydd Jon Snow yn cynnal trafodaeth am ryddid y wasg gyda detholiad o arbenigwyr yn y cyfryngau, gan gynnwys yr Athro Sambrook o Brifysgol Caerdydd, sy'n gyn-gyfarwyddwr newyddion byd-eang yn y BBC.
Mae'n rhan o gyfres o ddigwyddiadau i nodi 800 mlwyddiant y Magna Carta, ac sy'n ystyried beth allai fod ar y wlad ei heisiau gan siarter newydd.
Meddai'r Athro Sambrook: "Mae'r ymosodiadau ym Mharis a Copenhagen eleni yn dangos bod newyddiaduraeth ar y rheng flaen o ran rhyddid mynegiant. Fodd bynnag, rhaid i ni hefyd gydbwyso cyfrifoldebau – sut gall newyddiaduraeth fod yn annibynnol ac yn atebol?
"Wrth i'r sgandalau hacio ffonau barhau i gael sylw yn llysoedd y DU, ac wrth i sefydliadau'r cyfryngau barhau i dorri cyllidebau golygyddol, beth ddylem ei ddisgwyl gan newyddiaduraeth, a pha fath o newyddiaduraeth sydd ei hangen ar gymdeithas?
"Byddwn yn trin a thrafod hyn a materion eraill yn ystod y drafodaeth am hawliau, rhyddid mynegiant a'r gymdeithas sydd ohoni."
Yn nigwyddiad cyntaf Cyfres Caerdydd, bydd yr Athro Chris Tweed, Pennaeth Ysgol Pensaernïaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, yn ystyried y berthynas gymhleth rhwng cysur gwres a defnyddio ynni, gan gwmpasu pynciau fel y lle tân a thlodi tanwydd.
Bydd yr Athro Tweed, sy'n arbenigo mewn sut mae pobl yn rhyngweithio ag adeiladau a'u technolegau, yn ymddangos am 1 o'r gloch, brynhawn Gwener, 22 Mai.
Y noson honno, am 7 o'r gloch, bydd aelodau o brosiect ymchwil Dinasyddiaeth Ddigidol a Chymdeithas o dan Oruchwyliaeth, o dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, yn trafod gwyliadwraeth dorfol.
Nod y prosiect yw ystyried dinasyddiaeth ddigidol yng nghyd-destun y camau gwyliadwriaeth llywodraethol a ddatgelwyd gan y chwythwr chwiban o America, Edward Snowden.
Bydd y drafodaeth - sy'n cynnwys Dr Arne Hintz, Dr Lina Dencik a Dr Jonathan Cable - yn ystyried sut mae gwyliadwriaeth yn gweithio, pwy sy'n cael ei fonitro a beth mae pobl yn ei wneud i amddiffyn eu hunain.
Bydd trydydd digwyddiad Cyfres Caerdydd, a gynhelir am 7 o'r gloch ar 27 Mai, yn ystyried goblygiadau'r ffaith bod lefelau'r môr yn codi.
Bydd Dr Caroline Lear a Dr Rhoda Ballinger, ill dwy o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd, yn trafod yr effaith bosibl ar adnoddau byd-eang, cymdeithasau arfordirol a dinasoedd enfawr.
Daw Cyfres Caerdydd i ben am 5.30 o'r gloch ar 28 Mai pan fydd yr Athro Luke Clements, Cyfarwyddwr Canolfan Cyfraith Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Caerdydd, yn ystyried datblygiad byd-eang 'mudiad y gofalwyr'. Bydd hefyd yn rhoi rhagolwg o ffilm sy'n dathlu hanner can mlwyddiant mudiad y gofalwyr yn y DU - 'Does Your Carer take Sugar?' yw enw'r ffilm.
Arloesedd a sgiliau fydd ar yr agenda am 4 o'r gloch ar 26 Mai pan fydd yr Athro O'Doherty yn trafod sut gall pobl ifanc fod yn barod i ddelio â datblygiadau cyflym ym maes peirianneg.