Myfyrwyr y Gyfraith yn cael contractau hyfforddi ar ôl cwblhau lleoliadau paragyfreithiol
8 Rhagfyr 2017
Mae pump o fyfyrwyr pedwaredd flwyddyn y Gyfraith wedi cael cytundebau i hyfforddi y mae mawr alw amdanynt, mewn cwmnïau cyfraith blaenllaw, a drefnwyd gan Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.
Cynigiwyd contractau hyfforddi i’r myfyrwyr LLB Anu Manda, Harry Sawyer, Megan Walton a Kieron Wilcox, gyda Chyfreithwyr Hugh James – sydd ymhlith 100 cwmni cyfraith gorau’r DU – tra bod Emilie Archer wedi cael cynnig contract gyda Blake Morgan sydd â thimau cyfreithiol yn ne Lloegr a Chymru. Bydd pob myfyriwr yn dechrau eu contractau hyfforddi ar ôl graddio o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, yn amodol ar ganlyniadau eu graddau.
Roedd y pum myfyrwyr yn rhan o’r garfan gyntaf o fyfyrwyr a gafodd y cyfle i astudio ar gyfer gradd LLB y Gyfraith gyda modiwl Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol, a lansiwyd ym mis Medi 2016.
Gwnaeth pob un o’r myfyrwyr sy'n dilyn y modiwl holl wario trydedd blwyddyn eu cwrs gradd ar leoliad gyda Hugh James, yn gweithio fel paragyfreithwyr. Cawsant brofiad gwerthfawr, ymarferol o reoli achosion, ymchwil gyfreithiol ac ysgrifennu cyfreithiol yn ogystal â sgiliau cyflogadwyedd cyffredinol megis rheoli amser, cyfathrebu, gweithio mewn tîm ac ymwybyddiaeth fasnachol.
Ar hyn o bryd, mae’n ofynnol i bob myfyriwr sydd â’u bryd ar fod yn gyfreithiwr ymgymryd â chontractau hyfforddi ar ôl cwblhau eu hastudiaethau academaidd a’r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (LPC). Fodd bynnag, mae gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd y cyfle i gael profiad galwedigaethol hanfodol cyn gadael y Brifysgol, gan feddu ar sgiliau nad oes gan eu cymheiriaid ar hyn o bryd. Mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn cynnig LPC sy'n golygu y gall myfyrwyr gwblhau eu hyfforddiant academaidd a phroffesiynol yn y Brifysgol.
Yn ôl Darlithydd y Gyfraith ac arweinydd y modiwl, Hannah Marchant, “Mae pawb yn gwybod pa mor anodd yw cael contract hyfforddi ac rydym wrth ein bodd bod pump o’n myfyrwyr lleoliadau wedi cael cynigion. Rydym yn ystyried bod modiwl y lleoliad gwaith yn gyfle gwych i fyfyrwyr gael profiad helaeth ac ymarferol o’r gyfraith, a gwella eu cyflogadwyedd yn sgîl hynny.”
Cytunodd Kieron Wilcox ei darlithydd drwy ddweud, “Cynigodd y flwyddyn ar leoliad gyfle amhrisiadwy i mi i ddysgu rhagor am y gyfraith, a chefais ymdeimlad gwirioneddol o’r hyn fyddai gyrfa yn y gyfraith yn ei olygu.”
“Mae cael cyfle gyrfaol cyn dechrau ar fy mlwyddyn olaf yn y Brifysgol yn lleihau’r pwysau yn sylweddol. Yn ogystal, cefais fy ysgogi gan y cyfle, ac mae'n teimlo fel petai holl waith caled yn sgîl fy astudiaethau wedi talu ar ei ganfed.”
“Hwn yw'r cam cyntaf yn yr hyn a obeithiaf fydd yn yrfa lwyddiannus mewn cwmni cyfraith nodedig, mewn dinas wych. Ni oedd y garfan gyntaf i gymryd rhan yn y cynllun hwn, ac rydym wedi cael cefnogaeth wych gan yr Ysgol ac mae wedi gwneud yn siŵr fy mod wedi gallu gwneud y mwyaf o’r profiad.”
Yn ôl y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, Di Brooks o Gyfreithwyr Hugh James, "Rydym yn falch iawn bod y rhaglen wedi bod yn gymaint o lwyddiant i bawb fu’n gysylltiedig â hi. I’r myfyrwyr, mae wedi bod yn gyfle gwych i gael profiad ymarferol a chael y cyfle i ddangos i ni bod ganddynt y gallu i ddilyn gyrfa hir a llwyddiannus ym myd y gyfraith.”
“O’n rhan ni, mae wedi bod yn wych gallu dechrau gweithio gyda myfyrwyr mor ddeallus ar y cyfle cyntaf yn eu datblygiad proffesiynol. Bu’n wych cydweithio â Phrifysgol Caerdydd ar fenter mor arloesol. Edrychwn ymlaen at groesawu Anu, Harry, Megan yn ôl i’r cwmni ar ôl iddynt orffen astudio.”