Cefnogi adnewyddu sefydliadol a hyrwyddo rhagoriaeth addysgu yn yr Wcráin
14 Rhagfyr 2017
Mae Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd yn cefnogi cymheiriaid yn yr Wcráin i ailadeiladu adnoddau addysgu, ar ôl cael eu symud o ddwyrain Wcráin yn 2014.
Fe groesawodd yr Ysgol a ariennir gan grant gan y Cyngor Prydeinig, ddirprwyaeth o academyddion a staff gwasanaethau proffesiynol o Brifysgol Amaethyddol Genedlaethol Lugansk (LNAU) yn yr Wcráin yng Nghaerdydd ar 20-24 Tachwedd 2017.
Cafodd cyfleusterau a champws LNAU eu difa bron yn llwyr yn ystod y gwrthdaro yn nwyrain Wcráin ac mae ar hyn o bryd wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Genedlaethol Kharkiv wrth iddi geisio ailadeiladu ei hadnoddau addysgu ac ymchwil.
Croesawyd y ddirprwyaeth o'r Wcráin, oedd yn cynnwys pum aelod academaidd a gweinyddol o staff, i Gaerdydd yn swyddogol gan yr Athro Paul Milbourne, Pennaeth yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio. Roedd yr Athro Milbourne yn awyddus i bwysleisio bod yr Ysgol yn cydweithio’n broffesiynol â chyfadran LNAU ac yn falch o gefnogi'r gwaith o ailadeiladu'r Brifysgol.
Roedd yr ymweliad yn gyfnewid addysgegol, diwylliannol a chymdeithasol o syniadau ac ysgolheictod. Roedd amerlen lawn, a drefnwyd gan Dr Richard Gale o'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, yn cynnwys sesiynau a gweithdai gydag ystod eang o staff o'r Ysgol ac adrannau canolog ym Mhrifysgol Caerdydd. Y nod cyffredinol oedd dangos dulliau dysgu ac addysgu yn yr Ysgol, sy'n uchel eu parch ac yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol am ragoriaeth, ochr yn ochr â gweledigaeth a strwythur academaidd Prifysgol Caerdydd.
Cafodd y sesiynau eu cynllunio'n ofalus i roi cyflwyniad eang i'r ddirprwyaeth am ystod o weithgareddau a themâu allweddol. Roedd y rhain yn cynnwys cynllunio i effeithio ar newid, arloesedd mewn addysg, mynd i'r afael â heriau, dysgu ac addysgu yn yr Wcrain, ac addysgu prifysgol heb ffiniau.
Ochr yn ochr â'r gweithgareddau ffurfiol, cafwyd nifer o ymgysylltiadau cymdeithasol a diwylliannol gydag ymweliadau ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Stori Caerdydd. Roedd yr ymweliadau hyn yn rhoi cyflwyniad i'r ddirprwyaeth i dreftadaeth amaethyddol, ddiwydiannol a gwerin Cymru a chyfle i werthfawrogi'r cysylltiadau hanesyddol rhwng Caerdydd a Lugansk, sydd wedi’u gefeillio'n ffurfiol. Mae'r berthynas hon yn rhannol yn gydnabyddiaeth o gyfraniadau busnes John Hughes wrth sefydlu gweithfeydd metel mawr yn rhanbarth Donbass yn Nwyrain Wcráin yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Arweiniodd hyn at y ddinas a elwir bellach yn Donetsk yn cael ei henwi’n wreiddiol yn Hughesovka ym 1869 fel anrhydedd i John Hughes.
Yn dilyn cinio ffarwel, dywedodd Dr Gale: "Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cynorthwyo i wneud ymweliad y ddirprwyaeth Wcreineg mor lwyddiannus ac am eu croesawu mor gynnes.
Roedd yn wythnos hynod gynhyrchiol ac addysgiadol gyda cysylltiadau newydd wedi'u sefydlu a chyfleoedd clir wedi'u nodi i weithio ar y cyd yn y dyfodol mewn meysydd addysgu ac ymchwil."
Daeth yr Athro Milbourne i'r casgliad: "Cwtogodd y gwrthdaro yn nwyrain Wcráin yn sylweddol ar weithgareddau LNAU a pheri i staff a myfyrwyr gael eu symud. Mae hyn wedi effeithio ar eu gallu i addysgu a chyrhaeddiad eu hymchwil. Rydym ni, fel arbenigwyr cydnabyddedig ar themâu gwledig ac amaethyddol, yn falch iawn o gefnogi'r staff a'r Brifysgol wrth iddi fynd ati i ailadeiladu ei hadnoddau ac adennill ei sefydlogrwydd fel sefydliad.