Cwrs Hyfforddiant Proffesiynol y Bar yn dathlu'r gyfradd gyfanredol uchaf yng nghanlyniadau'r arholiadau diweddar.
7 Rhagfyr 2017
Mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cael y gyfradd llwyddo gyfanredol uchaf yn yr arholiadau canlynol ar gyfer Cwrs Hyfforddiant Proffesiynol y Bar (BPTC) yn ôl adroddiad diweddar gan y Bwrdd Arholiadau Canolog.
Yn ôl adroddiad diweddaraf y Bwrdd Arholiadau Canolog, cafodd Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth y gyfradd llwyddo gyfanredol uchaf ymhlith holl sefydliadau'r DU sy'n addysgu BPTC, ar gyfer y tri arholiad cenedlaethol ym maes Troseddu, Gweithdrefnau Sifil a Moeseg ar gyfer y flwyddyn 2016/17.
Mae myfyrwyr BPTC yng Nghaerdydd yn cael addysg sy'n rhoi'r paratoad gorau iddynt ar gyfer arholiadau gwybodaeth cenedlaethol. Mae'r Ysgol wedi bod yn addysgu darpar fargyfreithwyr ers 1997. Fel rhan o'r cwrs mae'n rhaid i fyfyrwyr ddangos bod ganddynt wybodaeth o safon uchel fel y mae'r cyhoedd yn ei fynnu, a bod ganddynt y sgiliau sydd eu hangen i gynnig gwasanaeth proffesiynol effeithiol. Mae'r myfyrwyr yn dod o Gymru a Lloegr, ac o awdurdodaethau cyfraith gyffredin ledled y byd, ac mae llawer yn mynd ymlaen i ymarfer yng Nghymru a Lloegr neu dramor.
Caiff myfyrwyr eu haddysgu gan ymarferwyr cyfreithiol profiadol sy'n addysgu mewn modd sy'n galluogi myfyrwyr i wella a manteisio i'r eithaf ar eu haddysg.
Dywedodd Jayne Woodward, Pennaeth y Ganolfan Astudiaethau Cyfreithiol Proffesiynol, "Mae'r canlyniadau hyn yn dangos pa mor dalentog yw ein myfyrwyr, a sgiliau ac ymrwymiad y tîm rhagorol sy'n addysgu Cwrs Hyfforddiant Proffesiynol y Bar."
Dywedodd Arweinydd y Cwrs, Jetsun Lebasci, "Mae'r perfformiad rhagorol hwn yn ganlyniad cyfuniad o fyfyrwyr sy'n gweithio'n galed, a'r gwaith y mae'r tîm addysgu ymroddedig iawn wedi'i wneud. Rydym yn rhoi'r gefnogaeth a'r addysg drylwyr sydd ei hangen arnynt i berfformio ar eu gorau."
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch adroddiad llawn y Bwrdd Arholiadau Canolog.