Ewch i’r prif gynnwys

Gall bwyd o gefnforoedd helpu i fodloni'r galw byd-eang

7 Rhagfyr 2017

ocean

Mae grŵp arbenigol wedi'i gydlynu gan Brifysgol Caerdydd o’r farn y gallai cynhyrchu mwy o fwyd o'r cefnforoedd helpu i fodloni'r galw byd-eang am fwyd a lleihau'r pwysau ar amaethyddiaeth.

Arweiniodd canolfan Academia Europea y Brifysgol, academa Ewropeaiddsy'n hybu rhagoriaeth mewn ysgolheictod, ymchwiliad ar gyfer y Comisiwn Ewropeaidd i weld sut y gellid cael gafael ar fwy o fwyd yn gynaliadwy o'r cefnforoedd.

Yn ôl yr adroddiad, a fydd yn llywio polisïau, nid yw parhau a’r drefn bresennol yn gynaliadwy o safbwynt cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, ond gallai ymagwedd wahanol wella diogelwch bwyd.

Cyflwynwyd Bwyd o'r Cefnforoedd i'r Comisiwn Ewropeaidd ym mhresenoldeb dau Gomisiynydd, Karmenu Vella (Yr Amgylchedd, Materion Morwrol a Physgodfeydd) a Carlos Moedas (Ymchwil, Gwyddoniaeth ac Arloesedd).

“Mae'r ôl troed amgylcheddol a'r costau sy'n gysylltiedig â dulliau cynhyrchu bwyd y dyddiau yma a gweithgareddau systemau bwyd eraill yn sylweddol,” yn ôl yr adroddiad.

Ychwanegodd mai’r unig ffordd i gael llawer mwy o fwyd a bio-màs cynaliadwy, oedd cynaeafu bwyd môr, sy’n is yn y gadwyn fwyd ar gyfartaledd.

"Mae’r cefnforoedd yn gartref i nifer fawr o adnoddau nad ydym yn manteisio arnynt yn llawn neu o gwbl ar hyn o bryd ac y gallent wella diogelwch bwyd a lles dynoliaeth," yn ôl yr astudiaeth.

"Gallai cynhyrchu mwy o fwyd o'r môr leihau rhywfaint o’r pwysau sydd ar amaethyddiaeth, yn ogystal â chefnogi amrywiaeth o fywoliaeth a gweithgareddau sy'n gysylltiedig â diwydiannau pysgota a moryddiaeth."

Dywedodd yr awduron – grŵp arbenigol rhyngwladol a rhyngddisgyblaethol - bod angen dod o hyd i ffyrdd newydd o fwydo poblogaeth fyd-eang sy'n tyfu'n gyflym. Mae’r Cenhedloedd Unedig yn rhagweld y bydd yn cynyddu o 7.3bn o bobl yn 2015 i 9.8bn erbyn 2050..

Roedd gan yr Athro Ole Petersen FRS, Cyfarwyddwr Academaidd canolbwynt Caerdydd ac Is-lywydd Academia Europaea, a Louise Edwards, rheolwr y ganolfan, rolau allweddol yn yr astudiaeth ochr yn ochr â chydweithwyr Prifysgol Caerdydd.

Y Cyngor Gwyddoniaeth ar gyfer Polisïau gan Academïau Ewropeaidd (SAPEA) gafodd y dasg o lunio’r adroddiad ac Academia Europaea Prifysgol Caerdydd, oedd yn gyfrifol am ei reoli a’i gyflwyno. Mae gan y ganolfan rôl allweddol ar ran darparu cyngor o safon ar gyfer llunio polisïau yn Ewrop.

Rhannu’r stori hon

Rydym ni’n defnyddio ein gwybodaeth i ddatblygu ymchwil arloesol fydd yn cael effaith ar y byd.