Gallai cyffur i bobl â llyngyr rhuban arwain y frwydr yn erbyn clefyd Parkinson
12 Rhagfyr 2017
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Dundee, wedi canfod moleciwl cyffur mewn meddyginiaeth a ddefnyddir i drin heintiau llyngyr rhuban, a allai arwain at driniaethau newydd i gleifion â chlefyd Parkinson.
Mae clefyd Parkinson yn anhwylder dirywiol hirdymor ar y system nerfol sydd, yn ôl elusen Parkinson's UK, yn effeithio ar un person o bob 500. Golyga hynny fod tua 127,000 o bobl yn byw gyda chlefyd Parkinson, a hynny yn y DU yn unig.
Dros y degawd diwethaf, mae ymchwilwyr sy'n ceisio canfod ffyrdd o wella'r clefyd dinistriol hwn wedi canolbwyntio ar brotein yn y corff dynol o'r enw PINK1. Deellir mai un o'r prif ffactorau sy'n achosi clefyd Parkinson yw pan mae'r protein hwn yn ddiffygiol.
Mae sawl astudiaeth wedi awgrymu y gallai darganfod cyffur sy'n gallu gwella gweithrediad PINK1 fod yn gam pwysig ymlaen i atal niwroddirywiad ac arafu neu hyd yn oed trin clefyd Parkinson.
Gyda'r wybodaeth hon mewn cof, mae ymchwilwyr ym Mhrifysgolion Caerdydd a Dundee wedi darganfod bod cyffur a ddefnyddir fel arfer i drin heintiau llyngyr rhuban, o'r enw Niclosamide, hefyd yn fodd effeithiol o ysgogi protein PINK1.
At hynny, mae'r ymchwil, sydd wedi'i hariannu gan The Wellcome Trust, wedi datgelu bod Niclosamide a rhai o'i ddeilliadau yn gallu gwella perfformiad PINK1 mewn celloedd a niwronau. Mae hyn wedi rhoi rheswm i'r ymchwilwyr i gredu y gallai'r cyffur hwn gynnig gobaith newydd i gleifion sy'n byw gyda chlefyd Parkinson.
Dywedodd un o arweinwyr yr astudiaeth, Dr Youcef Mehellou, o Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd: "Y gwaith hwn yw'r cyntaf i ddarganfod bod cyffur a ddefnyddir yn glinigol yn ysgogi PINK1, a gallai hyn gynnig modd o drin clefyd Parkinson..."
Mae'r ymchwil ‘The Anthelmintic Drug Niclosamide and its Analogues Activate the Parkinson’s Disease Associated Protein Kinase PINK1’ wedi'i gyhoeddi yn ChemBioChem.