Gwaith yn dechrau ar Goron Eisteddfod 2018
7 Rhagfyr 2017
Mae gemydd cyfoes a gafodd ei hysbrydoli gan sgiliau gwaith coed ei thad-cu wedi dechrau gweithio ar greu ei dyluniad arloesol ar gyfer Coron yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf.
Nod Laura Thomas, o Gastell-nedd, yw creu coron unigryw sy’n gyfoes ond eto’n parchu traddodiadau’r Eisteddfod Genedlaethol.
Bydd ei Choron – a noddir gan Brifysgol Caerdydd yn 2018 – yn gofyn am gannoedd o oriau o waith dyfal cyn iddi gael ei gosod am ben enillydd un o ddwy brif wobr barddoniaeth yr Eisteddfod.
Techneg neilltuol
Ni ellir datgelu beth yw’r dyluniad ar hyn o bryd, ond bydd Laura’n creu Coron nas gwelwyd ei thebyg o’r blaen. Ei thechneg neilltuol, gwaith parquet, lle mae’n mewnosod argaenau pren mewn deunydd arian, fydd prif nodwedd y Goron.
Dywedodd: “Byddaf yn mewnosod tri math o argaenau, sy’n deillio o America ac Ewrop, ond nid wyf wedi penderfynu’n union ynghylch y tri ohonynt hyd yn hyn. Bydd y Goron yn cynnwys tiwlip lliwiedig hefyd.
“Byddaf yn mewnosod yr argaenau â llaw, yna’n gosod yr arian er mwyn creu strwythur y Goron. Yn ogystal, mae gan y Goron fecanwaith addasu sy’n caniatáu ar gyfer pennau bach a mawr, am na fyddwn yn gwybod pwy sydd wedi’i hennill tan fis Awst 2018.”
Ymddengys bod natur yn ogystal â meithrin yn rhannol gyfrifol am gariad Laura tuag at weithio â choed.
“Pan oeddwn yn blentyn ifanc roedd fy nhad-cu, Jack Owen, yn arfer gwneud anifeiliaid bach wedi’u cerfio o bren solet a phren haenog,” meddai.
“Rwyf wedi eu cadw dan glo ac yn ddiogel yn fy nghartref am 30 mlynedd.
“Roeddwn wrth fy modd â gwersi gwaith coed yn yr ysgol. Y dyddiau hyn, mae argaen pren newydd yn fy nghyffroi mwy na phâr newydd o esgidiau!”
Patrymau prifysgol
Cafodd nifer o’r patrymau geometregol sydd wedi'u cynnwys yn y Goron eu creu’n arbennig ym Mhrifysgol Caerdydd.
Dywedodd: “Daw fy ysbrydoliaeth o ddeunyddiau arloesol megis fel graphene a phaneli solar, ac rwyf wedi bod yn arbrofi gydag onglau a phatrymau...”
Disgwylir i’r Goron – fydd yn cynnwys tri mis i’w chreu – fod yn barod ddiwedd mis Chwefror.
Daeth Laura i’r brig mewn cystadleuaeth a gynhaliwyd gan Brifysgol Caerdydd a ddenodd nifer o ddylunwyr o’r radd flaenaf.
Mae Laura yn rheoli gweithdy gemwaith cyfoes yn Llandeilo, Sir Gaerfyrddin. Mae hefyd yn creu ei chasgliadau gemwaith ei hun yn ogystal â chomisiynau pwrpasol.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol 2018 ym Mae Caerdydd rhwng 3 ac 11 Awst.