Panalpina yn cyhoeddi enillydd y wobr 'Meddwl Arloesol'
6 Rhagfyr 2017
Mae Panalpina, partner Prifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi enillydd diweddaraf ei gwobr flynyddol ar gyfer Meddwl Arloesol a Strategol.
Yn flynyddol, mae’r cwmni cludo nwyddau logistaidd anferth o’r Swistir yn gwahodd myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd i weithio gydag uwch-reolwyr ac i rannu syniadau ar arloesedd yn y gadwyn gyflenwi.
Enillodd Giulia Zorzi, myfyriwr MSc yn Ysgol Busnes Caerdydd wobr 2017 am ei syniadau ynghylch newid llif masnach ryngwladol, a buddion y gadwyn gyflenwi ar gyfer gweithgynhyrchu gwasgaredig.
Astudiodd Guilia, 28 oed, o'r Eidal, Reolaeth, Cyllid a Busnes Rhyngwladol ym Mhrifysgol Milan cyn ymgymryd ag MSc mewn Cludiant Rhyngwladol yn yr Ysgol Busnes.
Dywedodd Guilia: "Cefais gynnig cyfle gwych gan Panalpina i gymryd rhan mewn prosiect busnes byw, ac roedden nhw'n gwerthfawrogi fy ymchwil..."
Bellach yn ei phumed flwyddyn, mae'r wobr yn helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau busnes, ac mae Panalpina’n elwa drwy wella eu heffeithlonrwydd gweithredol.
Dywedodd Mike Wilson, Pennaeth Byd-eang Logisteg a Gweithgynhyrchu Panalpina: "Mae gan y wobr oblygiadau ymarferol ar gyfer ein busnes. Mae mwy iddi na myfyrwyr yn gwneud rhywfaint o ymchwil fel 'prosiect ar yr ochr': mae llawer o'r syniadau a gynhyrchir gan y wobr yn cael eu mabwysiadu gan ein busnes ac yn cael eu hintegreiddio’n rhan o’n cynlluniau a strategaeth busnes."
Helpodd y Wobr i greu gyrfa fyd-eang newydd Kaicheng Xie, myfyrwyr Tsieineaidd yr enillydd cyntaf erioed.
Ar ôl graddio ym Mhrifysgol Guangzhou, astudiodd Kaicheng MSC mewn Logisteg a Rheoli Gweithrediadau ym Mhrifysgol Caerdydd– a chafodd y cyfle i gyflwyno ar gyfer Gwobr Panalpina ar gyfer Meddwl Strategol ac Arloesol yn 2013
Enillodd Kaicheng y wobr, a chafodd ei gyflogi gan y cwmni sydd â’i bencadlys yn Basel, ac mae wedi troi ei syniadau ymchwil yn realiti. Ymunodd y dyn 28 oed â thîm Panalpina yn Singapôr i ddechrau, ond mae bellach wedi symud i Dubai ac yn gweithio yn nhîm Gweithrediadau Gweithgynhyrchu Logisteg Panalpina.
Dywedodd Kaicheng: "Mae Panalpina wedi bod yn lle gwych i ddatblygu fy ngyrfa a theithio'r byd. Mae'r cwmni wedi cynnig cyfleoedd anhygoel. I ddechrau roeddwn yn Beiriannydd Logisteg Ranbarthol Asia Pacific yn Singapôr, ond dwi wedi symud i Dubai i fod yn Beiriannydd Gwella Busnes Logisteg y Wlad, yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig..."
Mae Gwobrau Panalpina eleni wedi denu myfyrwyr newydd o Ysgol Peirianneg ac Ysgol Busnes Prifysgol Caerdydd, gan ddatblygu syniadau newydd clyfar ar bynciau gan gynnwys atebion e-fasnach a gweithgynhyrchu ychwanegion.
Cyflwynwyd y wobr i Giulia, ynghyd â’i goruchwyliwr academaidd Wessam Abouarghoub, gan Fevos Charalampidis a Hrishikesh Pawar o Ysgol Busnes Caerdydd, sy'n arwain prosiect ymchwil dwy flynedd i ddatblygu dull gweithredu i helpu cwsmeriaid i asesu gallu eu cadwyn gyflenwi i gyflwyno Argraffu 3D.
Ychwanegodd Guilia: "Mae ennill Gwobr am Feddwl Strategol ac Arloesol Panalpina yn fraint arbennig i mi. Hoffwn ddiolch i fy ngoruchwyliwr, Dr. Wessam Abouarghoub, a thîm Panalpina yn Ysgol Busnes Caerdydd, yn enwedig Mr. Hrishikesh Pawar, am eu cymorth a'u cefnogaeth."