Yr Athro Syr Michael Marmot yn cyflwyno Darlith Julian Tudor Hart 2017
1 Rhagfyr 2017
O flaen cynulleidfa o 200 o bobl ym Mhrifysgol Caerdydd dywedodd arbenigwr iechyd cyhoeddus blaenllaw nad rôl gweithwyr iechyd proffesiynol yn unig yw lleihau anghydraddoldeb iechyd.
Defnyddiodd yr Athro Syr Michael Marmot ei ddarlith i bwysleisio bod canlyniadau iechyd yn dibynnu ar lawer mwy nag ansawdd y gofal iechyd a roddir, a bod angen cymryd camau ar draws y gymdeithas gyfan i fynd i'r afael â’r bwlch iechyd.
Cyflwynodd ei asesiad o’r GIG, gan ddisgrifio’r DU fel lle “torcalonnus o gyffredin” mewn llawer o ddangosyddion allweddol ynghylch iechyd, ac anogodd y gynulleidfa i ystyried sut y gallai defnyddio polisïau ar sail tystiolaeth i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb wella iechyd cyhoeddus yn sylweddol.
Cynigiodd yr Athro Marmot ei sylwadau yn yr Narlith Flynyddol Julian Tudor Hart. Dyma’r 11eg tro iddi gael ei chynnal gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd, a Sefydliad Data a Dulliau Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD).
Yn ôl yr Athro Ian Rees Jones, Cyfarwyddwr Sefydliad Data a Dulliau Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD): "Mae'n anrhydedd i WISERD gyd-noddi darlithoedd Julian Tudor Hart. Maen nhw’n cael eu llywio gan waith arloesol ym maes epidemioleg cymdeithasol ac economi wleidyddol iechyd a gyflawnwyd gan Julian yn ne Cymru..."
Yn ôl Jan Williams OBE, Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn falch o gyd-noddi cyfres o ddarlithoedd Julian Tudor Hart eto eleni.
"Fe wnaethom glywed Syr Michael yn siarad ag awdurdod am y sbectrwm o’r ffactorau cymdeithasol sy’n pennu iechyd. Rhoddodd ei ddarlith lawer i’r rhai ohonom fu’n ddigon ffodus i fod yn y gynulleidfa gnoi cil drosto, wrth inni fynd ati i weithredu'r camau a amlinellir yn y ddeddf sydd ar flaen y gad, sef Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
"Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn edrych ymlaen at gyfrannu'n llawn ar draws y themâu a amlinellir yn y ddeddfwriaeth yn ogystal â strategaeth Llywodraeth Cymru, Ffyniant i Bawb: Y Strategaeth Genedlaethol. Gan weithio gyda phartneriaid, ein nod yw gwneud gwahaniaeth go iawn a helpu Cymru i dyfu’n genedl iachach."