Ysgoloriaeth MA newydd ar gyfer 2018
30 Tachwedd 2017
Mae Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, yn falch o allu cynnig ysgoloriaeth newydd ar gyfer astudiaethau MA.
Dyma ysgoloriaeth newydd a fydd yn talu ffioedd llawn i fyfyriwr Cartref llawn-amser (12 mis) yn ystod y flwyddyn 2018-19.
Mae’r rhaglen MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd yr Ysgol yn un eang sydd yn cael ei theilwra yn ôl diddordebau darpar fyfyrwyr ac arbenigedd ymchwil staff cyfredol.
Cynigir cyfle i astudio rhychwant o bynciau yn ymwneud â’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd gan gynnwys Polisi Iaith a Chynllunio Ieithyddol, Tafodieitheg, Sosioieithyddiaeth, Llenyddiaeth Plant, Rhywedd a Hunaniaeth, Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol, Llenyddiaeth Gymraeg ar hyd y canrifoedd a Theori a Methodoleg Cyfieithu.
Dywed Dr Siwan Rosser, cydlynydd y rhaglen MA:
Yn ogystal â bodlonrwydd myfyrwyr gyda’u profiadau addysgol a chymdeithasol yn yr Ysgol, maent yn derbyn cefnogaeth cyflogadwyedd sylweddol er mwyn helpu graddedigion i wireddu eu huchelgais proffesiynol a chyfrannu at ddatblygiad y Gymraeg a’i diwylliant yn y Gymru gyfoes. Mae’r radd hon, er enghraifft, yn cynnwys elfen o brofiad gwaith ac yn rhoi cyfle pwysig i fyfyrwyr gysylltu eu diddordebau ymchwil â gofynion y gweithle proffesiynol.
Hefyd, anogir myfyrwyr i ymgymryd ag ymchwil blaengar sy’n ymestyn dealltwriaeth o’r Gymraeg a’i diwylliant. Denodd hyn ganmoliaeth arbennig gan Arholwr Allanol y radd a ddywedodd fod yr ymchwil a gyflawnir gan fyfyrwyr MA Ysgol y Gymraeg â’r potensial i wneud “cyfraniad ystyrlon” i amrediad o feysydd, megis polisi iaith a beirniadaeth lenyddol. “Heb unrhyw amheuaeth,” meddai, “mae gradd MA yn y Gymraeg yng Nghaerdydd yn anelu am y safonau uchaf yn y maes, ac yn eu cyrraedd [...] Nid gormodiaith fyddai cyfeirio at Ysgol y Gymraeg fel pwerdy deallusol a diwylliannol o bwys ym mywyd Cymru.”
Dyddiad cau'r ysgoloriaeth newydd (sydd ar gael i fyfyrwyr Cartref llawn-amser yn unig) yw 1 Mawrth 2018. Am fanylion pellach cysylltwch â Dr Siwan Rosser - rossersm@caerdydd.ac.uk / +44 (0)29 2087 6287.
Ceisiwch ar gyfer yr ysgoloriaeth ar-lein.