Cyflymu heneiddio coed i achub rhywogaethau sydd mewn perygl
30 Tachwedd 2017
Bydd cyflymu'r broses heneiddio mewn coed yn helpu rhywogaethau Prydain sydd mewn perygl yn ôl ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae'r diffyg coed hynafol ym Mhrydain yn cael effaith negyddol ar fywyd gwyllt, a thra bo'r rhan fwyaf ohonom ni'n ceisio brwydro'r broses heneiddio, mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn defnyddio ffyngau i gyflymu heneiddio mewn coed i fynd i'r afael â hyn.
Mae heneiddio coed yn darparu cynefinoedd a chymorth i fywyd gwyllt, wrth i geudodau ymddangos ynddyn nhw'n naturiol. Gall hyn gymryd dros 300 mlynedd i goeden dderwen.
Mae diffyg ceudodau mewn coed yn bygwth cynefinoedd chwilod, ac mae gwyddonwyr o Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd wedi dechrau heintio coed ffawydd i gyflymu heneiddio.
Mae'r Athro Lynne Boddy, ecolegydd ffwng o Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd, wedi bod yn tyfu ffyngau ar flociau o bren yn y labordy, cyn gosod y blociau mewn tyllau a dorrir mewn coed rhwng 50 ac 80 mlwydd oed, ac ailosod rhisgl dros y blociau.
Dywedodd Lynne: "Mae pobl yn meddwl bod coed sydd â chalonnau pwdr yn beth drwg, ond dyw hynny ddim yn wir. Mae'n beth da iawn.
"Mae canol coeden yn debyg i'r tu allan i'n croen ni. Mae'r celloedd eisoes yn farw.
"Unwaith y bydd calon coeden yn dechrau pydru, mae'n egino gwreiddiau y tu fewn i'r boncyff i fanteisio ar y maetholion mae'r ffwng yn eu rhyddhau."
Bu Emma Gilmartin, un o fyfyrwyr ymchwil Lynne Boddy, yn trin y ffawydden gyntaf yr wythnos ddiwethaf.
Mae Ancients of the Future yn un o 19 prosiect sy'n rhan o fenter Back from the Brink, ymdrech £7.7 miliwn i achub y 20 o rywogaethau sydd dan fwyaf o fygythiad ym Mhrydain rhag difodiant - gyda hanner o'r rheini'n chwilod.
Lansiwyd Back from the Brink yn Windsor Great Park y penwythnos diwethaf, a'i nod yw helpu dros 200 o rywogaethau bywyd gwyllt mewn dros 40 o safleoedd yn Lloegr, gan gynnwys draenogod, titw'r helyg a chardwenwyn.
"Mae llawer o rywogaethau, gan gynnwys rhywogaethau sydd mewn perygl, yn dibynnu ar goed hynafol. Yn anffodus, nifer fach o goed hynafol sydd ar gael yng nghoedwigoedd Prydain.
"Mae coed cau yn creu safleoedd nythu i adar a mamaliaid, ac mae'r gweddillion sy'n pydru'n gynefin delfrydol i chwilod a larfau.
"Drwy heintio rhai o'n coed iau gyda ffyngau, gallwn gyflymu'r broses heneiddio a chynyddu'r nifer o goed cau yn fforestydd Prydain, a helpu i achub rhywogaethau sydd mewn perygl ym Mhrydain," ychwanegodd Lynne.