Y Brifysgol yn cefnogi marchnad gymunedol
29 Tachwedd 2017
Mae marchnad gaeaf gymunedol Caerdydd yn gwahodd siopwyr i baratoi at y Nadolig fel rhan o ddiwrnod arbennig i hyrwyddo busnesau bychain.
Cynhelir Marchnad Byd Grangetown - a drefnir gan brosiect Porth Cymunedol Prifysgol Caerdydd a Gweithredu Cymunedol Grangetown - ddydd Sadwrn 2 Rhagfyr. Mae’r dyddiad hefyd wedi ei ddynodi’n Ddydd Sadwrn y Busnesau Bychain, ymgyrch ar lawr gwlad sydd wedi’u dylunio i annog defnyddwyr ledled y DU i ‘siopa’n lleol’ yn eu cymunedau.
Bydd y farchnad ym maes parcio Ysgol Gynradd Gatholig Padrig Sant, rhwng Stryd Havelock a Stryd Lucknow, rhwng 11:00 i 15:00. Bydd siopwyr Nadolig yn gallu pori a phrynu crefftwaith a dillad annibynnol, a bydd stondinau bwyd a diod ac adloniant yn ogystal.
Edrychwch am gyfrif Marchnad Byd Grangetown @GtownWM i gael y newyddion diweddaraf am yr hyn sy’n digwydd.
Mae’r busnesau sydd wedi eu cadarnhau hyd yma yn cynnwys:
- Ameow Designs
- Anna Palamar Designs
- Shop Grangetown
- KA ArtiFacts
- Real Fudge
- Martin Avery Silversmith
- Your Indulgence
- Divine Beauty
- Veg Food Studio
- Ty Paned
- Pettigrew Bakery
- Whoops A Daisy Daze
- Precious As A Pearl
- Eistedfodd 2018
- Coffee2Go
- Ffwrnes Pizza
- Cavalier Cwtch
- Killins Kitchen
Dywedodd y gwneuthurwr gemwaith hunan-addysgedig Dr Amy Yau, o Ameow Designs, sydd hefyd yn ddarlithydd mewn marchnata yn Ysgol Busnes Prifysgol Caerdydd: "Mae’r farchnad yn cefnogi entrepreneuriaid lleol a busnesau a fyddai’n hoffi treialu eu cynhyrchion a lledu ymwybyddiaeth ynghylch eu cynhyrchion a’u gwasanaethau. Mae’n berffaith felly ar gyfer busnesau bychain.
"Mae’n bwysig iawn ym myd ffasiwn cyflym, cludo cynt a nwyddau rhad, masgynyrchedig i arafu, bod yn fwy ymwybodol a phrynu anrhegion gyda mwy o ystyr ac sydd yn fwy cynaliadwy o ran dylunio, ac nid yn unig ddilyn ‘chwiwiau’..."
Dywedodd Rosie Cripps o’r Porth Cymunedol: "Mae busnesau lleol ac annibynnol yn cyflogi mwy o bobl fesul pob metr sgwâr na’r siopau cadwyn mawr, ac maent yn aros yn eu lle pan fydd hi’n gwasgu - trwy gefnogi cynhyrchwyr lleol rydym yn cefnogi’r gymuned ehangach.
"Rydym yn falch iawn o fod wedi lansio ein hentrepreneuriaid newydd yn ein marchnad gyntaf, ac rydym wrth ein boddau bod 75% o ymwelwyr wedi dweud y byddent yn siopa’n lleol o ganlyniad i Farchnad Byd Grangetown..."
Dywedodd Steve Duffy o Weithredu Cymunedol Grangetown: "Cawsom ymateb gwych i’n marchnad ddiwethaf - y nod yw ceisio cynnig rhywbeth ‘boutique’ ac unigryw i Grangetown.
"Yn yr hir dymor, gobeithiwn y bydd hyn yn rhoi hwb i’r ardal fusnes leol. Mae hyn oll am annog pobl i siopa’n lleol, a gweld bod siopau annibynnol creadigol iawn ar stepen eu drws."
Dilyna lwyddiant ein Marchnad Byd Grangetown gyntaf ym mis Gorffennaf, a drefnwyd hefyd gan Weithredu Cymunedol Grangetown. Cynhwysodd y farchnad gyntaf dros 20 o wirfoddolwyr lleol, 11 o fyfyrwyr a thri aelod o staff Prifysgol Caerdydd yn wirfoddolwyr.
Cefnogir y fenter gan y Porth Cymunedol, sy’n gweithio law yn llaw â thrigolion Grangetown i wneud yr ardal yn lle gwell fyth i fyw. Mae’r Porth Cymunedol yn un o brosiectau ymgysylltu blaenllaw Prifysgol Caerdydd, sydd hefyd yn cael ei alw'r Rhaglen Trawsnewid Cymunedau, sy'n gweithio gyda chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt ym meysydd iechyd, addysg a lles ymhlith eraill.