Dyfodol disglair i raddedigion y Gymraeg
28 Tachwedd 2017
Panel o reolwyr ac arweinwyr o’r sectorau cyhoeddus a phreifat yn gytûn bod y cyfleoedd sydd ar gael i raddedigion y Gymraeg yn cynyddu yn y gweithle proffesiynol.
Lansiwyd gradd anrhydedd sengl newydd gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, ar 15 Tachwedd 2017, yng nghwmni cynulleidfa o fyfyrwyr a staff y Brifysgol a phanel gwahoddedig o unigolion o wahanol feysydd.
Mae’r radd newydd, BA Cymraeg a’r Gweithle Proffesiynol, yn cyfuno darpariaeth academaidd o’r radd flaenaf a phrofiad proffesiynol ac ymarferol. Nod y rhaglen gyffrous, gyfoes ac amrywiol hon yw paratoi graddedigion ar gyfer ystod o yrfaoedd posibl lle mae galw am sgiliau iaith uchel a’r gallu i weithio’n greadigol ac yn broffesiynol drwy’r Gymraeg.
Ar y panel yr oedd Janet Davies, Rheolwr-Gyfarwyddwr cwmni cyfieithu Prysg, Eryl Jones, Rheolwr-Gyfarwyddwr cwmni cysylltiadau cyhoeddus Equinox, Dr Eleri James, Uwch Swyddog Is-Adeiledd ac Ymchwil yn Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, a Manon Humphreys, Cydlynydd y Gymraeg yn Amgueddfa Cymru.
Dr Angharad Naylor, Tiwtor Derbyn yn Ysgol y Gymraeg, oedd yn arwain y drafodaeth anffurfiol ar greu’r Gymru broffesiynol a pha rôl sydd i raddedigion y Gymraeg yn y gweithle.
Dywedodd: “Rydym yn falch iawn o allu cynnig y rhaglen newydd hon ar gyfer Mynediad 2018 ac yn hynod o ddiolchgar i’r panel am eu cefnogaeth wrth inni lansio’r radd.
“Roedd y drafodaeth yn un ddifyr ac ysbrydoledig gyda chyfraniadau personol a phroffesiynol gwerthfawr. Roedd hi’n wych cael clywed am brofiadau’r panel o weithio trwy’r Gymraeg a chyflogi graddedigion y Gymraeg. Yr hyn ddaeth i’r amlwg oedd pwysigrwydd a gwerth sgiliau iaith a sgiliau cyfathrebu cadarn yn y gweithle a bod gradd yn y Gymraeg yn agor drysau i bob math o gyfleoedd proffesiynol a gyrfaoedd posibl.”
Roedd y drafodaeth yn un amrywiol a chynhwysfawr. Nodwyd ei bod hi’n adeg gyffrous iawn i raddedigion y Gymraeg oherwydd bod cynnydd mawr yn y galw am weithlu Cymraeg ei iaith.
Soniodd Eryl Jones am ba mor anodd yw hi i recriwtio graddedigion sydd yn gallu defnyddio’r Gymraeg yn hyderus ac yn greadigol. Nododd fod gradd yn y Gymraeg yn sylfaen dda yn y diwydiant cyfathrebu a marchnata a chytunodd Eleri James fod y radd yn un eang sydd yn rhoi’r sgiliau academaidd angenrheidiol i fyfyrwyr allu datblygu a mireinio eu sgiliau ysgrifenedig a’u dealltwriaeth o wahanol fathau o destunau sy’n sgiliau gwbl allweddol i’r gweithle.
Awgrymodd Manon Humphreys fod amgylchedd a disgwyliadau’r gweithle cyfoes yn newid yn gyson a bod cyfleoedd arbennig i raddedigion y Gymraeg gyfuno eu sgiliau academaidd a’u diddordebau er mwyn cyfoethogi ystod o weithleoedd lle mae’r galw am y Gymraeg yn allweddol.
Mae hi’n gyfnod o newid mawr i’r Gymraeg a dangosodd y drafodaeth hon yn glir gymaint y bydd graddedigion y dyfodol yn cyfrannu at y newid hwn ac yn chwarae rôl allweddol wrth ddatblygu gweithlu cyfrwng Cymraeg. Roedd Janet Davies yn gytûn bod y newidiadau sy’n wynebu gweithleoedd, a’r safonau iaith yn benodol, yn golygu bod sgiliau Cymraeg a phrofiad o roi’r sgiliau hynny ar waith o fudd enfawr i weithleoedd yng Nghymru.
Mae’r rhaglenni gradd yn Ysgol y Gymraeg yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau academaidd ac ymarferol ym meysydd ieithyddiaeth, llenyddiaeth a diwylliant y Gymraeg.
Meddai Dr Dylan Foster Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg: “Hoffwn ddiolch i’r panel am ymuno â ni ac am eu cyfraniadau ysbrydoledig a chraff am y rôl sydd gan raddedigion y Gymraeg i’w chwarae mewn gwahanol sectorau ar draws Gymru.
“Fel Ysgol, rydym yn awyddus i hybu sgiliau cyflogadwyedd a phrofiadau proffesiynol ein myfyrwyr ac rydym yn falch iawn fod 100% o raddedigion 2016 mewn cyflogaeth neu astudiaeth bellach chwe mis ar ôl graddio. Edrychwn ymlaen at groesawu darpar fyfyrwyr i’r Ysgol y flwyddyn nesaf.”
Darllenwch ragor am y BA Cymraeg a’r Gweithle Proffesiynol sydd yn derbyn myfyrwyr ar gyfer Mynediad 2018.