Newyddiadurwr y newyddion Will Hayward yn ennill gwobr rhagoriaeth NCTJ
28 Tachwedd 2017
Mae graddedig Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol, Will Hayward, wedi ennill gwobr Erthyglau Hyfforddeion y Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddi Newyddiadurwyr (NCTJ), yn y seremoni wobrwyo eleni.
Cipiwyd y wobr yng ngwyneb cystadleuaeth gref gan Carl Minsky o Pageant Media a Aniesa Mireh o South West News Service.
Yn ôl Will, wnaeth astudio MA mewn Newyddiaduraeth Newyddion ac sydd erbyn hyn yn gweithio i Media Wales, “roeddwn wrth fy modd i ennill y wobr. Rhaid imi ddiolch i’r golygyddion a’r dylunwyr sydd wedi rhoi sglein ar y bwndel mawr o eiriau a gyflwynwyd gennyf!
“Mae teyrnged enfawr yn ddyledus i 'm cwrs Newyddiaduraeth Newyddion ym Mhrifysgol Caerdydd, ni fyddwn hyd yn oed wedi cael swydd heb gymorth fy nhiwtoriaid.”
Cymeradwyodd y panel beirniadu hefyd Caleb Spencer, un o gyfoedion Newyddiaduraeth Newyddion Will, ar ôl iddo ddod yn agos iawn at ennill y wobr ar gyfer Sgŵp/Ecsclwsif Gorau Hyfforddeion.
Yn ôl Mike Hill Cyfarwyddwr Newyddiaduraeth Newyddion, "Hoffwn longyfarch Will ar ennill, a Caleb ar ei enwebiad. Gall y ddau ohonynt deimlo’n falch iawn.
“Mae’r naill a’r llall yn gwneud yn dda yn eu gyrfaoedd ac maent yn datblygu i fod yn newyddiadurwyr o'r radd flaenaf. Edrychaf ymlaen at wylio eu gyrfaoedd yn mynd o nerth i nerth yn dilyn y cydnabyddiaeth genedlaethol hon gan gorff hyfforddiant y diwydiant.”
Eleni cafwyd nifer mwy nag erioed o geisiadau ar gyfer y gwahanol gategorïau, gyda bron i 300 o gyflwyniadau gan newyddiadurwyr o'r ansawdd uchaf sy'n cynrychioli hyd a lled byd addysg a'r cyfryngau.
Roedd cynulleidfa o 180 o newydd-ddyfodiaid, newyddiadurwyr ac addysgwyr yn bresennol yn y gwobrau, a gynhaliwyd gan gyflwynydd Sky News, Sophy Ridge.