Myfyrwyr chweched dosbarth yn paratoi ar gyfer Lefelau A gydag Ysgol y Gymraeg
17 Medi 2014
Bu'n wythnos brysur iawn i Ysgol y Gymraeg yr wythnos ddiwethaf wrth inni gynnal Cwrs Cymraeg Caerdydd - cwrs deuddydd i fyfyrwyr y De-orllewin a'r De-ddwyrain sy'n astudio Safon Uwch neu Safon Uwch Gyfrannol Cymraeg.
Croesawyd dros wyth deg o fyfyrwyr o bob cwr o dde Cymru - o Ysgol Aberaeron i Ysgol Garth Olwg. Roedd y cwrs yn cynnig rhagarweiniad i agweddau ar y cyrsiau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol gyda sesiynau ar lenyddiaeth ynghyd â gweithdai ymarferol yn ymwneud â Sgriptio ac Ysgrifennu Creadigol.
Roedd hefyd yn gyfle i fyfyrwyr ddysgu ychydig am astudio'r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd a chymdeithasu gyda rhai o'n myfyrwyr cyfredol ar gampws y Brifysgol. Gyda'r nos mwynhaodd y myfyrwyr a'u hathrawon noson o adloniant yn Undeb y Myfyrwyr gyda chwis gyda Keith Davies a gig gan y band o Gaerfyrddin - Bromas.
Roedd y cwrs yn llwyddiant ysgubol gyda'r myfyrwyr a'u hathrawon wedi'u tanio i ddychwelyd i'w hysgolion i gychwyn ar eu cyrsiau ar ôl profi gwedd newydd ar y pwnc. Dywedodd ein Swyddog Derbyn, Dr Rhiannon Marks, "Roedd yn gyfle unigryw i'r myfyrwyr ehangu eu dealltwriaeth o'r iaith a'i llenyddiaeth gan brofi bywyd myfyriwr a chael blas ar ddarlithoedd y Brifysgol. Cafwyd amrywiaeth o sesiynau rhyngweithiol ac rydym yn gobeithio y bydd y myfyrwyr yn gallu defnyddio'r profiadau wrth astudio'r pwnc."
Dywedodd Matthew Evans, Pennaeth Ysgol Gyfun Ystalyfera, "Mae adborth y myfyrwyr wedi bod yn gadarnhaol dros ben. Mae'r prif swyddogion wedi eu hysbrydoli i drafod a chydweithio ag ysgolion Cymraeg cyfagos – a'r cyfan oherwydd iddynt dreulio deuddydd o "nefoedd" yn cymdeithasu a byw drwy'r Gymraeg gyda'r Ysgol yng Nghaerdydd!"