Rhywbeth i bawb - Ysgol y Gymraeg yn diddanu oedolion yng Ngŵyl Llên Plant Caerdydd 2015
5 Mawrth 2015
Rhwng 24 a 29 Mawrth eleni bydd awduron a darllenwyr ifanc yn heidio i'r brifddinas ar gyfer trydedd bennod Gŵyl Llên Plant Caerdydd. Ond nid yw'r oedolion yn cael eu hanwybyddu, gyda sesiynau penodol wedi eu trefnu ar eu cyfer gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.
Tra bydd y darllenwyr ifanc yn mwynhau penwythnos o weithdai a chyflwyniadau dwyieithog, gyda chymeriadau poblogaidd megis Sali Mali a Superted yn crwydro strydoedd Caerdydd, gwahoddir oedolion i ddau ddigwyddiad arbennig yn Neuadd y Ddinas.
Nos Fercher 25 Mawrth bydd Yr Athro Sioned Davies yn traddodi darlith Saesneg am yr addasiad Cymraeg o Alice in Wonderland ac yn ystyried pa newidiadau a wêl Alice wrth iddi fudo o un iaith i'r llall. Yn dilyn hyn bydd Dr Siwan Rosser o Ysgol y Gymraeg yn arwain trafodaeth yng nghwmni Emyr Llywelyn, Mererid Hopwood, Myrddin ap Dafydd a Siân Teifi i ddathlu canmlwyddiant hoff awdur plant Cymru, T. Llew Jones (1915-2009). Cynhelir y digwyddiad arbennig yma nos Iau 26 Mawrth.
Dywed Dr Rosser: "Mae Ysgol y Gymraeg yn falch iawn o gyfrannu at ŵyl Llên Plant Caerdydd unwaith eto eleni - mae'n gyfle gwych inni ddathlu darllen a rhannu'n gwaith ymchwil yn y maes. Gall astudio llenyddiaeth plant fwrw goleuni ar amgylchiadau diwylliannol ac ieithyddol y Gymru gyfoes, ac y mae hefyd, wrth gwrs, yn ffordd o anwytho pobl ifanc i fyd geiriau, darllen a'r dychymyg. Rydym yn edrych ymlaen felly at ddathlu cewri llenyddiaeth plant, yn y Gymraeg a'r Saesneg, yn ystod yr ŵyl eleni."
The Welsh Alice (drwy gyfrwng y Saesneg) gyda'r Athro Sioned Davies 25 Mawrth, 7.00pm, Neuadd y Ddinas, £4.00
Mae Alice's Adventures in Wonderland yn enwog drwy'r byd, ond beth sy'n digwydd i Alice wrth iddi fudo o'r naill iaith i'r llall? I ddathlu 150 o flynyddoedd ers cyhoeddi clasur Lewis Carroll bydd yr Athro Sioned Davies o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yn archwilio sut y daeth Alice yn Alys mewn addasiadau Cymraeg o'r clasur hwn i blant.
Dathlu Canrif T. Llew Jones 26 Mawrth, 7.00pm, Neuadd y Ddinas, £4.00
Dewch i fwynhau noson arbennig iawn i ddathlu canmlwyddiant hoff awdur plant Cymru, T. Llew Jones (1915-2009). Bydd teulu, ffrindiau, cyhoeddwyr a llenorion yn rhannu eu hatgofion am yr awdur, a gofynnwn pa le sydd i Barti Ddu, Twm Siôn Cati ac eraill ar silffoedd llyfrau ein plant heddiw ac yn y dyfodol. Bydd Siwan Rosser o Brifysgol Caerdydd yn arwain trafodaeth yng nghwmni Emyr Llywelyn, Mererid Hopwood, Myrddin ap Dafydd a Siân Teifi.
I brynu tocynnau ac am ragor o wybodaeth am yr ŵyl ewch i:www.gwylllenplantcaerdydd.com
Cysylltwch â Siwan Rosser, Prifysgol Caerdydd, am ragor o wybodaeth ar ddarlithoedd yr Ysgol: 02920 876287