Canolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn fuddugol yng Ngwobrau TechWorks 2017
27 Tachwedd 2017
Mae'r Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, sy'n fenter ar y cyd rhwng IQE plc a Phrifysgol Caerdydd, wedi ennill y teitl Ymchwil a Chydweithio yng Ngwobrau TechWorks 2017.
Noddir y wobr gan y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg, a chafodd ei chyflwyno mewn seremoni yn Llundain i gydnabod amryw lwyddiannau rhaglenni ymchwil a datblygu cydweithredol y Ganolfan, sydd wedi rhoi De Cymru ar y blaen ar gyfer datblygu, arloesedd a gweithgynhyrchu cynhyrchion sy'n gysylltiedig â Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.
Dywedodd Dr Wyn Meredith, Cyfarwyddwr y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd: "Rydym wrth ein bodd i fod wedi ennill y wobr anrhydeddus hon ar lefel y DU. Mae cydweithio yn egwyddor hanfodol yn y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, ac mae'n galluogi amrywiaeth o bartneriaid busnes ac academaidd i ddatblygu technolegau newydd sy'n seiliedig ar led-ddargludyddion cyfansawdd, a hynny o'r cam prototeipio hyd at y cam masnachol.
Cafodd y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd ei sefydlu yn 2015 fel menter ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a'r arbenigwyr Lled Ddargludyddion Cyfansawdd IQE plc, sydd â'u pencadlys yng Nghaerdydd. Mae'n gweithio gyda Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Caerdydd i gyflymu'r broses o fasnacheiddio ymchwil lled-ddargludyddion cyfansawdd.
Dywedodd yr Athro Rudolf Allemann, Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg: "Mae'r Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn rhan hanfodol o'n cyfraniad at glwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd y rhanbarth..."
Mae'r Ganolfan, sydd wedi'i lleoli yng Nghaerdydd yn garreg filltir hanfodol tuag at ddatblygu clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn Ne Cymru.
Mae'r llwyddiannau ymchwil a datblygu diweddar yn cynnwys:
- Project SUPER8, prosiect ymchwil a datblygu cydweithredol gwerth £1.1m dan Innovate UK sy'n canolbwyntio ar ddatblygu platfform trawsdderbynyddion cyflym iawn i wasanaethu'r twf enfawr mewn cyfathrebu data optegol mewn canolfannau data cwmwl ar raddfa enfawr a
- Phrosiect CS MAGIC (Compound Semiconductor MAGnetic Integrated Circuits) sy'n canolbwyntio ar ddatblygu magned-synwyryddion hynod sensitif gydag electroneg integredig.
Mae trosolwg o rhai o'r prosiectau sydd wedi cael gwobr ar gael ar wefan y Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.