Math newydd o driniaeth yn ymestyn bywydau dynion gyda chanser y prostad
13 Mai 2015
Mae treial wedi dangos bod math newydd o driniaeth yn gallu gwella cyfraddau goroesi dynion gyda math datblygedig o ganser y prostad yn sylweddol.
Roedd cleifion yr oedd eu canser wedi ymledu i rannau eraill o'r corff yn byw 22 mis yn hirach ar gyfartaledd pan ychwanegwyd cemotherapi docetacsel at therapi hormonau safonol.
Dywedodd yr Athro Malcolm Mason o Brifysgol Caerdydd, un o uwch-ymchwilwyr yr astudiaeth, ei fod yn gobeithio y byddai'r canfyddiadau'n arwain at newid arferion meddygol.
"Mae cemotherapi docetacsel wedi cael ei ddefnyddio yn y GIG ers blynyddoedd lawer mewn sawl math o ganser," meddai.
"Mae wedi ei ddefnyddio ers sawl blwyddyn pan mae canser y prostad mewn cyfnod llawer mwy datblygedig - rydym bellach yn gwybod y dylai'r math hwn o gemotherapi gael ei ychwanegu cyn gynted ag y mae'r therapi hormonau'n dechrau."
Hyd yma, therapi hormonau oedd yr unig driniaeth safonol ar gyfer dynion â chanser y prostad sydd wedi lledaenu i rannau eraill o'r corff.
Roedd yr Athro Mason yn cydnabod hwyrach y byddai goblygiadau o ran cost, ond dywedodd nad oedd 'dewis amgen' gan fod y canlyniadau wedi bod mor fuddiol.
Canser y prostad yw tua un o bob pump o'r holl ganserau ymhlith dynion. Yn y DU, mae tua 25,000 o achosion newydd bob blwyddyn a thua 10,000 o farwolaethau.
Meddai awdur arweiniol yr astudiaeth, yr Athro Nicholas James, Cyfarwyddwr yr Uned Ymchwil Ganser ym Mhrifysgol Warwick: "Gobeithiwn y bydd ein canfyddiadau'n annog meddygon i gynnig docetacsel i ddynion sydd newydd gael diagnosis o ganser y prostad metastatig, os ydynt yn ddigon iach i gael cemotherapi.
"Gallai dynion sydd â chanser y prostad lleol a datblygedig, sydd heb fod yn fetastatig, ystyried cael docetacsel hefyd fel rhan o therapi cychwynnol, gan ei fod yn amlwg yn achosi oedi cyn i'r clefyd ddychwelyd," ychwanegodd yr Athro James, sydd hefyd yn ymgynghorydd oncoleg glinigol yn Ysbyty'r Frenhines Elizabeth yn Birmingham.
Meddai Peter Paul Yu, Llywydd yr American Society of Clinical Oncology (ASCO): "Dyma'r treial mwyaf o'i fath ac mae'n awgrymu'n gryf bod ychwanegu cemotherapi at therapi hormonau safonol yn gallu ymestyn bywydau dynion â chanser y prostad datblygedig.
"Mae ei ddyluniad arloesol yn gyffrous, a hwyrach y byddwn yn dechrau ei weld mewn
meysydd oncoleg eraill."
Mae'r ymchwil hon yn rhan o dreial STAMPEDE (Systemic Therapy in Advancing or Metastatic Prostate Cancer: Evaluation of Drug Efficacy). Dyma'r treial clinigol ar hap mwyaf a gynhaliwyd erioed o driniaeth ar gyfer dynion gyda chanser y prostad.
Nod treial STAMPEDE yw atal tiwmor rhag aildyfu drwy ychwanegu triniaeth arall at therapi hormonau.
Mae dros 6,500 o gleifion wedi cofrestru ers 2005.
Mae Canolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd wedi bod ymhlith prif gyfranogwyr yr ymchwil.
Yn flaenorol, arweiniodd yr Athro Mason, un o ddylunwyr yr astudiaeth, dreial a ddangosodd bod trin cleifion â chanser y prostad lleol a datblygedig gyda chyfuniad o radiotherapi a therapi hormonau yn haneru'r risg o farw ohono.
Cynorthwyodd y gwaith hwn i newid y ffordd y mae canser y prostad yn cael ei drin.
Yn 2013, enillodd ddyfarniad gwyddonol o bwys am ei waith ymchwil.
Mae'r astudiaeth wedi cael arian a chefnogaeth gan Cancer Research UK, Cyngor Ymchwil Feddygol y DU, UK National Cancer Research Institute, Adran Iechyd y DU, Sanofi-Aventis, Novartis, Pfizer, Janssen, ac Astellas, Prifysgol Birmingham a Phrifysgol Warwick.