Prosiect ymgysylltiad blaenllaw'r Brifysgol yn cefnogi teyrnged i drafodaethau hanesyddol
13 Mai 2015
Eleni, bydd prosiect Cymunedau Iach, Pobl Iachach Prifysgol Caerdydd yn noddi trafodaethau Twyn y Waun, sy'n rhan o Ŵyl Gwrthryfel Merthyr (Merthyr Rising) 2015.
Ar 30 Mai 1831, daeth dros 2,000 o weithwyr o Ferthyr Tudful a Sir Fynwy ynghyd ar gyfer cyfarfod torfol ar Dwyn y Waun uwchben Dowlais, i drafod anfon deiseb at y Brenin i ofyn am ddiwygiadau, gan gynnwys galw am ddiddymu'r Llys Ceisiadau a rhoi terfyn ar gyflogau isel yn y diwydiant haearn.
Roedd y cyfarfod hwn yn rhan o Wrthryfel Merthyr, un o'r achosion cynharaf o weithredu a drefnwyd gan weithwyr diwydiannol ym Mhrydain yn y 19eg Ganrif.
Ar 30 Mai 2015 – union 184 o flynyddoedd ar ôl y digwyddiad gwreiddiol – bydd trafodaethau Twyn y Waun yn coffáu ysbryd y trafodaethau gwreiddiol a gynhaliwyd yn ystod Gwrthryfel Merthyr. Bydd trafodaethau cyfoes Twyn y Waun yn pwyso a mesur syniadau radical ein hoes ac yn cwestiynu'r hyn a gaiff ei ystyried yn gonfensiynol, gan geisio annog trafodaeth fywiog ar faterion economaidd a gwleidyddol cyfredol. Cefnogir y sesiwn gan brosiect Cymunedau Iach, Pobl Iachach, ac o dan gadeiryddiaeth Dr Martin O'Neill o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd, bydd yn cwestiynu'r cysyniad modern o galedi economaidd ac yn ystyried sut mae'n cael ei lunio a'i gyfleu.
Mae'r cyfranwyr yn cynnwys Ross Ashcroft, sylfaenydd y wefan Renegade Economist, sy'n cwestiynu esboniadau traddodiadol ar gyfer materion economaidd, a'r Athro Steve Keen, awdur Debunking Economics, sy'n cwestiynu esboniadau neo-glasurol a modelau economeg. Yn ogystal, bydd Dr Mike Berry o Ysgol Astudiaethau Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd yn cyflwyno ei waith ar y sylw a roddwyd i'r argyfwng ariannol gan y cyfryngau prif ffrwd yn y DU.
Mae Cymunedau Iach, Pobl Iachach yn un o bum prosiect ymgysylltu blaenllaw a ddechreuwyd i ddatblygu cyfraniad y Brifysgol i'r gymdeithas. Nod y prosiect yw datblygu model cynaliadwy o effaith, cyfnewid gwybodaeth, ymgysylltiad, addysg ac ymchwil gydweithredol rhwng y Brifysgol a chymunedau lleol, a pheilota'r model hwn.
Dywedodd Dr Martin O'Neill, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol: "Mae'n braf gweld Prifysgol Caerdydd yn cyfrannu at fentrau cymunedol fel Gŵyl Gwrthryfel Merthyr (Merthyr Rising), sy'n dathlu diwylliant a hanes balch de Cymru. Bydd y digwyddiad hwn yn dangos ymrwymiad y Brifysgol at weithio mewn partneriaeth â chymunedau cyfagos, fel sydd wedi'i amlinellu yn amcanion prosiect Cymunedau Iach, Pobl Iachach."
Cynhelir Trafodaethau Twyn y Waun yn rhan o Ŵyl Gwrthryfel Merthyr (Merthyr Rising) ar 30 Mai 2015 yn Theatr Soar, Merthyr Tudful, 10am-3pm. Gallwch brynu tocynnau am £5 y pen ar wefan Gŵyl Gwrthryfel Merthyr (Merthyr Rising).