Labordy Mellt Prifysgol Caerdydd ar brif sioe wyddoniaeth Canada
13 Mai 2015
Bydd gwyddonydd o Brifysgol Caerdydd yn ymddangos ar un o raglenni teledu gwyddoniaeth mwyaf poblogaidd Canada, i esbonio beth sy'n digwydd pan fydd mellten yn taro awyren yn yr awyr.
Fe wnaeth Dr Daniel Mitchard, uwch-ymchwilydd yn Labordy Mellt Morgan-Botti, gyfarfod â Jennifer Gardy, un o gyflwynwyr sioe wyddoniaeth boblogaidd CBS 'The Nature of Things' dros ddau ddiwrnod o ffilmio. Gofynnodd Jennifer i Dan esbonio beth sy'n digwydd i awyrennau pan fydd mellt yn eu taro.
Yn ôl Daniel: "Roedd y rhaglen yn awyddus i drin a thrafod rhai o'r mythau am dywydd eithafol, gan gynnwys mellt, felly daeth Jennifer i Gymru i weld sut mae ein cyfleuster mellt anhygoel yn gweithio. Rydym yn defnyddio nifer o fanciau o gynwysorau mawr iawn i gynhyrchu'r un faint o ynni mellt mewn ffracsiwn-o-eiliad (tua 200 meicroeiliad) ag allbwn gorsaf pŵer niwclear yn yr un amser. Gallwn gynhyrchu'r mellt 'gwaethaf' o hyd at 200,000 Amp, sy'n llawer mwy pwerus na mellt naturiol, sy'n tueddu i fod tua 30,000 Amp."
Mae mellt yn taro awyrennau masnachol tua unwaith y flwyddyn ar gyfartaledd, yn aml oherwydd bod yr awyren yn achosi'r mellt drwy hedfan drwy ardal gwefr uchel.
Ychwanegodd Dan: "Mae pob awyren wedi'i chynllunio i wrthsefyll mellt, ac mae strwythurau sy'n dargludo trydan wedi'u hadeiladu yng nghroen yr awyren sy'n gweithredu fel 'Cawell Faraday'. Maent yn dargyfeirio gwefr y mellt o amgylch ac oddi wrth yr awyren, ac yn ei chadw'n ddiogel. Roedd awyrennau hŷn wedi'u gwneud o fetel, felly roedden nhw'n gallu gwneud hyn yn effeithlon iawn, ond mae awyrennau modern yn defnyddio llawer o gydrannau cyfansawdd nad ydynt yn dargludo trydan. Ychwanegir rhwyll copr felly i amddiffyn yr awyren - gwnaethom ddangos i Jennifer sut mae'r rhwyll hon yn gweithio a sut mae'n cadw awyrennau'n ddiogel. "
Mae llawer o'r gwaith ymchwil yn Labordy Mellt Morgan-Botti yn canolbwyntio ar ddeall mellt a gwella systemau amddiffyn rhag mellt ar gyfer dyluniadau awyrennau yn y dyfodol. Mae'r gwaith hwn mewn partneriaeth ag Airbus Group.
Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu ar CBS o amgylch Nadolig 2015.
Cewch fwy o fanylion am Labordy Mellt Morgan-Botti yn http://lightning.engineering.caerdydd.ac.uk/ neu cysylltwch â Dr Daniel Mitchard: mitcharddr@caerdydd.ac.uk