Ai Cabannau Trin a Sobri yw’r ateb i’r broblem gynyddol o loddestwyr meddwol?
29 Tachwedd 2017
Wrth i gyfnod y Nadolig fynd rhagddo, â nifer y bobl meddw yn nghanol ein trefi a’n dinasoedd yn cynyddu’n sylweddol, mae ymchwilwyr ym Mhrifysgolion Caerdydd a Sheffield yn asesu a yw gwasanaethau penodol yn ffordd effeithiol o drin pobl hynod feddw, ac yn lleddfu’r baich ar wasanaethau brys sydd o dan bwysau.
Disgwylir canfyddiadau’r astudiaeth yn 2018, a’u diben yw cynnig tystiolaeth sy’n ystyried a ddylid cyflwyno gwasanaethau rheoli meddwdod fel modd arferol o reoli cleifion meddw.
Mae unedau achosion brys ar draws y byd yn gyfarwydd ag achosion sy’n ymwneud ag alcohol, yn enwedig yn sgil goryfed, a’r anafiadau sy’n deillio o hynny. Yn y DU, amcangyfrifir bod 12-15% o'r cleifion sy'n mynd i adrannau achosion brys yno o ganlyniad i oryfed. Nid yw'n syndod mai ar nos Wener a nos Sadwrn y ceir y rhan fwyaf o achosion – gall hyd at 70% ohonynt fod yn ymwneud ag alcohol.
Yn ogystal â chynyddu llwyth gwaith adrannau achosion brys, a'r amser aros i gleifion eraill, mae tua 40% o gleifion meddw hefyd yn cyrraedd mewn ambiwlans a hynny, o bosibl, yn atal yr ambiwlans rhag mynd i’r afael ag achosion brys eraill.
Yn ôl yr Athro Simon Moore, o Grŵp Ymchwil Trais a Chymdeithas Prifysgol Caerdydd: “Gall pobl hynod feddw fod yn gryn faich, ac yn ddylanwad sy’n tarfu ar y gwasanaeth iechyd brys, a’i gleifion eraill.
“Tra bod y DU a gwledydd eraill ledled y byd wedi ystyried amrywiaeth o wasanaethau sy’n gallu dargyfeirio pobl feddw i ffwrdd o unedau brys, prin iawn fu’r asesiadau ffurfiol o ba mor effeithiol yw hynny, yn enwedig yn y DU lle mae’r lefel o gam-drin alcohol gyda’r uchaf yn y byd.”
Yn y DU, mae nifer o drefi a dinasoedd wedi rhoi gwasanaethau penodol ar waith er mwyn dargyfeirio pobl feddw o unedau brys. Er bod y gwasanaethau yn amrywio, o Ganolfan Triniaeth Alcohol Caerdydd i Emilia’s Place yn Henffordd, mae ganddynt oll nodweddion cyffredin, fel bod o dan reolaeth nifer o asiantaethau, a’u bod wedi eu lleoli mewn ardaloedd gyda nifer uchel o adeiladau trwyddedig.
Ychwanegodd yr Athro Moore: “Mae tystiolaeth yn awgrymu bod nifer diangen o bobl feddw’n mynd i unedau achosion brys, efallai o ganlyniad i amharodrwydd bod y rheini sy’n eu cyfeirio i gymryd risg, ac hefyd am nad oes unrhyw le arall i bobl feddw fynd iddo. Mae hynny’n awgrymu bod gan y gwasanaethau rheoli meddwdod rôl, hyd yn oed fel hafanau diogel nad ydynt yn cynnig gwasanaethau unedau brys llawn. Fodd bynnag, prin iawn yw’r dystiolaeth o hyd ynghylch pa mor effeithiol yw’r rheini sydd eisoes yn bodoli.
“Gan gymharu data o ddinasoedd sydd â gwasanaethau penodol â’r dinasoedd hynny sydd hebddynt, ein gobaith yw cael darlun clir o ba mor effeithiol yw’r rhain i gleifion, eu heffeithlonrwydd o ran cost, a’r modd y maent yn effeithio ar staff sydd ar flaen y gad wrth reoli meddwdod.”
Mae’r papur ‘Managing alcohol-related attendances in emergency care: can diversion to bespoke services lessen the burden?’ wedi’i gyhoeddi yn yr Emergency Medical Journal.