Digwyddiad Rhith-wirionedd
23 Tachwedd 2017
Daeth Caerdydd Creadigol a BAFTA Cymru a thros 80 o ymarferwyr, arweinwyr busnes ac academyddion o bob rhan o dde Cymru ynghyd i edrych ar ffyrdd o ddatblygu’r defnydd o realiti rhithwir estynedig (VR a AR) yn y sectorau creadigol.
Yn ogystal ag asesu maint a siâp y clwstwr dechnoleg trochi yng Nghaerdydd a'r rhanbarth, datgelodd y digwyddiad y gwaith VR a AR arloesol ac amrywiol a gynhyrchir gan sefydliadau lleol, a'i effaith ar yr economi greadigol.
Mae'r realiti rhithwir yn cyfuno delweddau a seiniau o ansawdd uchel, gan alluogi’r defnyddwyr i brofi a gweld byd artiffisial, 3D a delweddau drwy glustffonau.
Mae realiti estynedig yn wahanol gan ei fod yn rhoi delwedd a gynhyrchir gan gyfrifiadur ar yr hyn mae’r defnyddiwr yn ei feddwl am y byd go iawn i ddarparu darlun cyfansawdd.
Mae cwmnïau arbenigol yn ne Cymru yn cyflwyno’r technolegau hyn ym myd celfyddydau ac adloniant, yn ogystal ag ym meysydd y gwyddorau meddygol, peirianneg, ac addysg a hyfforddiant.
Cynhaliwyd Gweledigaeth y Realiti Newydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, a drefnwyd ar y cyd gan Gaerdydd Creadigol, sy'n rhan o Dîm Economi Greadigol Prifysgol Caerdydd a BAFTA Cymru.
Mae'n dilyn llwyddiant y gweithdy Doing Digital, Thinking Digital a gynhaliodd y ddau sefydliad yn 2016 yn Stiwdios Pinewood, a oedd yn ymchwilio i'r defnydd gorau o dechnoleg ddigidol a’i heffaith greadigol.
Dywedodd yr Athro Ian Hargreaves, Cadeirydd yr Economi Ddigidol ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae dod â'r gymuned rith-wirionedd ynghyd yn bwysig iawn," meddai. "Mae profiad Caerdydd Creadigol yn awgrymu bod cryfhau ac ymestyn cysylltiadau ar draws economi ein rhanbarth yn talu ar ei ganfed..."
Cafwyd cyflwyniadau gan sefydliadau REWIND, BBC Cymru Wales, Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, Orchard, Canolfan Mileniwm Cymru, Llywodraeth Cymru, Innovate UK a Grŵp Ymchwil Rhith-wirionedd ac Gwirionedd Estynedig a Chofnodi Deuseiniol Prifysgol Caerdydd.
Cafwyd arddangosiadau Rhith-wirionedd a Realiti Estynedig gan Wales Interactive, Bristol VR Lab, 4Pi Productions a Sugar Creative, ymhlith eraill.
Daeth Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru, â'r digwyddiad i ben drwy ddweud: "Mae BAFTA yn ymgysylltu â phwyllgor rhyngwladol o arweinwyr y diwydiant ym maes Rhith-wirionedd a Realiti Estynedig ar hyn o bryd, gyda'r bwriad o adolygu tirwedd Rhith-wirionedd ac ailystyried ei effaith ar genhadaeth y BAFTA.
"Mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous yn natblygiad y maes hwn yn y diwydiant, ac rydym yn awyddus i greu cyfleoedd yng Nghymru er mwyn i bobl greadigol ddarganfod mwy a chael eu hysbrydoli i ymuno â'r sgwrs."
Yn dilyn Gweledigaeth y Realiti Newydd bydd Caerdydd Creadigol a BAFTA Cymru yn parhau i ymgysylltu â'r gymuned drochi i gefnogi datblygiad clwstwr de Cymru ymhellach.