Pwysigrwydd byd-eang pysgota morwellt
22 Tachwedd 2017
Yn ôl ymchwil newydd, mae angen gweithredu ar frys i atal dolydd morwellt y byd rhag cael eu colli i ddiogelu eu pysgodfeydd cysylltiedig.
Bu gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Stockholm yn archwilio sut mae dolydd morwellt yn helpu gweithgarwch pysgota byd-eang.
Wrth ddarparu’r dystiolaeth gyntaf o effaith fyd-eang morwellt, mae’r tîm wedi darganfod bod gwerth masnachol, hamdden a chynhaliaeth i bysgodfeydd morwellt.
"Lle bynnag y gwelwch forwellt a phobl, bydd pysgota yno yn ôl pob tebyg," meddai'r Dr Leanne Cullen-Unsworth, sy’n gweithio yn Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy Prifysgol Caerdydd.
"Mae ein hymchwil yn dangos pa mor fyd-eang yw pysgodfeydd morwellt. Yng ngwledydd y trydydd byd, mae’n hollbwysig o ran cyflenwad bwyd a bywoliaeth, lle gellir dal, bwyta a gwerthu popeth. Mewn gwledydd sy’n datblygu maent yn manteisio ar forwellt pysgodfeydd at ddibenion hamdden yn bennaf neu’n cynnwys rhywogaethau penodol – er enghraifft, cregyn bylchog," ychwanegodd.
Astudiodd y tîm bysgodfeydd morwellt ledled y byd gan gynnwys ar Ynysoedd y Philipinau, Zanzibar, Indonesia, Ynysoedd y Tyrciaid a Chaicos a lleoliadau ym Môr y Canoldir.
Canfuwyd llawer o debygrwydd yn y mathau o offer pysgota sy’n cael eu defnyddio, y creaduriaid sy'n cael eu pysgota a maint yr ymdrech sy’n canolbwyntio ar y cynefinoedd sensitif hyn.
Dywedodd Dr Cullen-Unsworth: "Hyd yn oed yn nolydd morwellt bychain Cymru, gwelir pysgotwyr yn targedu perdys adeg llanw isel ac yn gosod rhwydi i ddal bas. Drwy ddarparu strwythur tri dimensiwn mewn môr a fyddai’n anffrwythlon fel arall, mae morwellt yn cynnig cuddfan berffaith ar gyfer pysgod ac infertebratau megis crancod, perdys a chregyn bylchog. Mae’r helaethrwydd hwn o greaduriaid yn denu pysgotwyr."
Mae ymchwilwyr yn dadlau bod angen mesurau i wella gwydnwch morwellt ar gyfer y dyfodol er mwyn galluogi dolydd morwellt i barhau i gefnogi pysgodfeydd cynhyrchiol sy'n darparu ffynhonnell fwyd hanfodol.
Ychwanegodd Dr Culllen-Unsworth: “Rydym yn parhau i golli morwellt ar draws y byd ar raddfa sy’n cynyddu’n gyflym ac mae tystiolaeth yn dangos bod llawer o forwellt heb eu cofnodi a heb eu rheoli. Felly, mae angen i ni reoli’r targedau sy'n ceisio cynnal y gwasanaethau ecosystem yn y cynefinoedd gwerthfawr hyn.
“Yn syml, mae angen i lunwyr polisïau a rheolwyr amgylcheddol ledled y byd gydnabod bod llawer yn pysgota yn y morwellt, bod amrywiaeth mawr o bysgod a chreaduriaid rhywogaethau yn cael eu targedu mewn dolydd morwellt, a bod dolydd morwellt yn bwysig ar gyfer pysgodfeydd cynhaliaeth, hamdden a diwydiannol."
Cyhoeddir y papur Global significance of seagrass fishery activity yng nghyfnodolyn Fish and Fisheries.