Medicentre yn dathlu 25 mlynedd o lwyddiant
23 Tachwedd 2017
Mae Medicentre Caerdydd yn dathlu ei phen-blwydd yn 25 oed drwy rannu hanesion ei llwyddiant.
Yn ystod y digwyddiad ar 23 Tachwedd, bydd yr Athro Syr Mansel Aylward, Cadeirydd Canolfan Gwyddorau Bywyd Cymru yn tynnu sylw at rai o'r cwmnïau sydd wedi gwella gofal iechyd i gleifion, mynd i'r afael â heriau clinigol a newid addysg feddygol.
Cafodd ei sefydlu yn 1992 gan Prifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, a’r Bwrdd Iechyd a'r Brifysgol sy’n ei chyd-redeg erbyn hyn.
Mae Medicentre, sydd ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru, yn cynnig gofod meithrin ar gyfer cwmnïau technoleg fiolegol a meddygol blaenllaw. Mae staff yn ymroi i gefnogi busnesau gwyddorau bywyd newydd, gan helpu cwmnïau preswyl dyfu'n sefydliadau llwyddiannus sy'n gwerthu cynhyrchion a gwasanaethau yn fyd-eang.
Sut mae’r Brifysgol a’r Bwrdd Iechyd Prifysgol yn cydweithio i sicrhau arloesedd clinigol.
Mae’r pen-blwydd yn cydredeg â chael gafael ar arian newydd ar gyfer MedaPhor, tenant Medicentre sy'n arbenigo mewn uwchsain – pan ddefnyddir sain i ddelweddu meinweoedd. Cafodd cwmni deillio’r Brifysgol grant gwerth £466,000 gan Innovate UK i ddatblygu cynnyrch realiti estynedig gyda nodwyddau.
Mae meddygon yn defnyddio nodwyddau arbennig i gymryd samplau bach biopsi o feinwe’r corff, i ddraenio hylif drwy tiwbiau bach ac i weinyddu anaesthesia rhanbarthol. Mae angen i glinigwyr allu gweld blaen y nodwyddau, er mwyn sicrhau nad ydynt yn niweidio meinweoedd eraill, felly maent yn aml yn dibynnu ar uwchsain - techneg ddelweddu diogel y gellir ei symud i ochr gwely’r claf.
Bydd MedaPhor yn gwella’r defnydd o nodwyddau gyda thechneg deallusrwydd artiffisial a elwir yn ddysgu dwfn gyda meddygon yn gwisgo clustffonau realiti estynedig. Mae’r penset yn rhoi darlun uwch-sain o anatomeg y claf, gan amlygu’r llwybr y mae angen i’r nodwydd ei ddilyn. Mae hefyd yn olrhain blaen y nodwydd yn awtomatig i wneud yn siŵr nad yw’n niweidio strwythurau anatomegol pwysig.
Dywedodd yr Athro Keith Harding, Deon Arloesedd Clinigol y Brifysgol: "Mae’r Medicentre yn elfen hanfodol o’r strategaeth arloesedd clinigol ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae'n lle effeithiol a pwrpasol i droi syniadau gwych yn welliannau a datblygiadau arloesol yn y gwasanaeth iechyd..."
Dywedodd Dr Sharon Hopkins, Dirprwy Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: "Rydym yn falch o fod yn dathlu 25 mlynedd o’r bartneriaeth sefydledig ac unigryw hon.
"Nid yw Arloesedd Clinigol yn gysyniad newydd i Brifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae’r ddau sefydliad yn hen law ar weithio gyda’i gilydd, ond mae’r bartneriaeth ar y cyd yn ailbwysleisio ymrwymiad i ddatblygu cysylltiadau â byd diwydiant, byrddau iechyd eraill, a’r llywodraeth i ddefnyddio ymchwil sydd eisoes yn bodoli i sicrhau manteision i gleifion ac iechyd, a nodi anghenion clinigol nad ydynt wedi eu diwallu eto..."
Mae Medicentre wedi helpu i ddatblygu rhai o arweinwyr arloesedd clinigol Cymru. Ymhlith y tenantiaid nodedig a chynfyfyrwyr mae Alesi Surgical, Q Chip ac Ymchwil Clinigol Synexus.
Mae wedi helpu un ar ddeg o gwmnïau i dyfu’n ddigonol i adleoli neu gael eu prynu. Pan gyfunir y caffaeliadau hyn, mae’r cyfanswm dros £30m.