Stori i’ch ysbrydoli; Taith Davids Civlis i astudio gradd mewn newyddiaduraeth, y cyfryngau ac astudiaethau diwylliannol
20 Tachwedd 2017
Bob blwyddyn rydym yn croesawu myfyrwyr sydd efallai heb fod mewn addysg ffurfiol am gyfnod ar ein cyrsiau llwybrau. Mae llwybrau yn cynnig llwybr at radd israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd ac maen nhw ar gael mewn amrywiaeth eang o bynciau. Astudiodd Davids lwybr Ein Cyfryngau, Ein Byd. Dyma stori Davids.
"Bum mlynedd yn ôl, pan gyntaf symudais i'r Deyrnas Unedig, doedd gennyf ddim syniad beth i'w wneud nesaf. Des i yma i ddod o hyd i rywbeth, heb wybod am beth roeddwn yn chwilio a chyn pen dim roeddwn wedi cael fy nal yng nghylch bywyd gwaith/cartref.
Pan glywais gyntaf am y cyrsiau llwybrau, meddyliais y gallai fod yn ffordd hwyliog o dreulio fy nosweithiau ac o ddysgu rhywbeth newydd ar yr un pryd. Cyrhaeddais ychydig funudau’n gynnar i’m darlith gyntaf a dechreuodd fy narlithydd (Susan Bisson) sgwrsio â mi am fy nghynlluniau a’m breuddwydion i’r dyfodol. Pan gyrhaeddodd y person nesaf, dyma hi’n fy nghyflwyno iddo: "Dyma Davids. Mae e eisiau astudio'r Cyfryngau a Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd a bod yn actor." Pan ddywedodd hi hyn yn uchel, roedd yn swnio mor hurt ac yn amhosibl i mi ond yn y sesiynau canlynol, daliodd hi ati i’m hannog i a’r lleill ar y cwrs. Erbyn diwedd y modiwl dechreuais gredu y gallwn astudio ymhellach a llywiodd hi fi tuag at y llwybr at radd mewn Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol a chyflwynodd hi fi i Dr Jonathan Cebl sy'n arwain llwybr Ein Cyfryngau, Ein Byd.
I grynhoi, roedd hwn yn brofiad gwych ac yn fwy na hynny. Mae’r bobl sy'n gweithio yma â diddordeb ynoch chi fel unigolyn ac yn awyddus ichi lwyddo. Dydy hyn byth yn gorffen pan fydd y ddarlith yn gorffen, mae’r ffordd y maen nhw’n cadw llygad ar eich cynnydd ac yn helpu ymhell y tu hwnt i’r union amser yn y ddarlith. A hyd yn oed ar ôl imi orffen y llwybr a phan oeddwn wrthi’n gwneud cais i Brifysgol Caerdydd, cefais lawer o help a chyngor yn ystod y broses honno. Cofrestru ar y llwybr yw un o'r pethau gorau imi ei wneud erioed. Nid yn unig rydych chi’n dysgu, ond rydych chi hefyd yn darganfod eich potensial ac yn ei wireddu. Mae hyn i gyd wedi bod yn brofiad anhygoel a dim ond atgofion gwych fydd gennyf o’m cyfnod ar y llwybr."
Os ydych wedi eich ysbrydoli gan Davids, dewch draw i’n digwyddiad ar 10 Ionawr 2018. Mae ein sesiwn galw heibio llwybr i’r dyniaethau o 12.00 hanner dydd i 2.00pm ac mae’n digwydd yn yr adeilad Addysg Barhaus a Phroffesiynol.
Bydd y sesiwn galw heibio hon yn canolbwyntio ar ein llwybrau ym meysydd pwnc y Dyniaethau
- Saesneg Iaith, Llenyddiaeth neu Athroniaeth (Naratifau Mewnol)
- Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol (Ein Cyfryngau, Ein Byd)
- Hanes, Archaeoleg a Chrefydd (Archwilio'r Gorffennol)
Does dim angen cofrestru, dim ond galw heibio!