Sut allwn ni wneud tai’n fwy cynaliadwy?
16 Tachwedd 2017
Bydd benthycwyr tai a llunwyr polisïau adeiladu yn dod ynghyd ym Mhrifysgol Caerdydd yr wythnos nesaf i ystyried ffyrdd o sicrhau bod tai sy’n niwtral o ran carbon yn gallu dod yn safon yn y diwydiant.
Bydd ‘Defnydd o Ynni yn yr Amgylchedd Adeiledig’, a drefnwyd gan Rwydwaith Arloesedd y Brifysgol, yn ystyried materion ariannu, rheoliadau a’r ochr ymarferol o adeiladu cartrefi sy’n niwtral o ran carbon neu’n garbon bositif. Bydd yn archwilio a all datblygiadau arloesol fel Tŷ SOLCER y Brifysgol - tŷ carbon bositif cyntaf y DU - gael eu hail-greu ar raddfa ddiwydiannol.
Mae'r Athro Phil Jones o Brifysgol Caerdydd a'i dîm yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru wedi datblygu Tŷ SOLCER, sef y tŷ cost isel cyntaf sy’n cynhyrchu mwy o ynni na'r hyn mae'n ei ddefnyddio. Mae’r tŷ’n gallu allforio mwy o ynni i’r grid cenedlaethol nag y mae’n ei ddefnyddio.
Dywedodd yr Athro Jones: "Mae ein gwaith gyda Tŷ SOLCER yn dangos bod modd cyrraedd safon uchel o ran perfformiad ynni, a hynny am bris fforddiadwy..."
Fis diwethaf, cyhoeddodd y Cenhedloedd Unedig fod crynodiadau CO2 atmosfferig wedi cynyddu’n gynt yn 2016 nag erioed o’r blaen, ac wedi cyrraedd y lefel uchaf mewn 800,000 o flynyddoedd. Yn y DU, mae’r ynni a ddefnyddir mewn tai yn gyfrifol am 27% o’r allyriadau carbon, ac mae hyn yn her sylweddol i Ddeddf Newid Hinsawdd 2008. Yn ôl y Ddeddf, mae gofyn lleihad o 80% mewn allyriadau carbon erbyn 2050.
Ochr yn ochr â’r heriau amgylcheddol mae problemau o ran cyflenwi tai. Yn 2015, amcangyfrifodd Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr y byddai angen i Gymru adeiladu 14,000 o dai bob blwyddyn erbyn diwedd y degawd. Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi pennu targed o 20,000.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig Lesley Griffiths: "Mae ein cymdeithas yn wynebu dwy her: hinsawdd sy’n newid, a phrinder tai. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod y fframwaith rheoleiddio ar gyfer adeiladu yn ystyried y newid yn yr hinsawdd mewn modd sy’n cydnabod arloesedd wrth ddylunio, meddwl a datblygu cynnyrch a deunyddiau..."
Yn ddiweddar, cytunodd Cymdeithas Adeiladu Principality i gynnig £50m mewn benthyciadau i gymdeithasau tai yng Nghymru, fydd yn cael ei ddefnyddio i adeiladu tua 13,000 o dai fforddiadwy erbyn 2021.
Dywedodd Julie Ann Haines, Cyfarwyddwr Cwsmeriaid yng Nghymdeithas Adeiladu Principality: “Mae ariannu ac adeiladu tai mwy cynaliadwy yn hanfodol ar gyfer ein dyfodol. Mae’n rhaid i ni beidio â cheisio mynd i’r afael â’r argyfwng tai heb roi’r mesurau diogelu priodol ar waith ar gyfer ein hamgylchedd.”
Mae’r Athro Jones hefyd wedi tynnu sylw at botensial Tŷ SOLCER i dynnu cartrefi allan o dlodi ynni, gan ychwanegu: “Mae costau byw yn cynyddu, ond mae cyflogau go iawn wedi aros yn eu hunfan, sy’n golygu bod gwariant yn benderfyniad anodd i gartrefi. Byddai lleihau biliau ynni yn golygu y byddai gennym fwy o arian i’w wario ar bethau angenrheidiol eraill, gan helpu teuluoedd i ddianc tlodi ynni.”
Mae Rhwydwaith Arloesedd y Brifysgol wedi hyrwyddo rhyngweithio rhwng y Brifysgol a byd busnes ers dros ddau ddegawd.