Gwobrau Dathlu Rhagoriaeth 2017
15 Tachwedd 2017
Dyfarnwyd gwobr Ysgol y Flwyddyn i’r Ysgol Cerddoriaeth yng Ngwobrau Dathlu Rhagoriaeth Prifysgol Caerdydd 2017.
Cyflwynwyd y wobr i’r Ysgol mewn cinio a chyflwyniad ar 9 Tachwedd. Y Rhag Is-ganghellor Karen Holford a’r Prif Swyddog Gweithredu, Jayne Sadgrove, oedd y cyflwynwyr ar y noson.
Mae’r Ysgol – sy’n un o adrannau Cerddoriaeth blaenllaw’r DU – wedi saethu i fyny’r tablau cynghrair cenedlaethol dros y blynyddoedd diweddar, ac erbyn hyn mae hi yn yr 8fed safle yn y Times Good University Guide.
Cafodd yr Ysgol ei chanmol am ei hymrwymiad i gynhyrchu graddedigion hynod o gyflogadwy, gyda 93% o’r rheini wnaeth raddio yn 2014/15 yn gyflogedig neu’n astudio ymhellach, yn ogystal â rhagoriaeth ymchwil parhaus yr Ysgol ac allgymorth rhagweithiol a gyflawnwyd drwy gyfrwng ei chyfresi cyngerdd a recordio.
Cafodd yr Ysgol ei chanmol hefyd am ei phwyslais cryf ar symudedd myfyrwyr rhyngwladol. Arweiniodd hyn at 180% yn rhagor o leoliadau ac astudiaethau tramor yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf, gyda myfyrwyr yn elwa ar raglenni cyfnewid gyda thri o brifysgolion Gogledd America a thrip Cerddorfa’r Brifysgol i Xiamen, China ym mis Chwefror.
Yn ôl yr Athro Ken Hamilton, Pennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth: “Mae’r wobr hon yn brawf gwirioneddol o ymrwymiad a gwaith caled ein staff a’n myfyrwyr, a’r gymuned gerddorol gefnogol sydd mor bwysig i ni yn yr Ysgol. Rydym wrth ein bodd bod y Brifysgol wedi cydnabod mai ein Hysgol unigryw yw Ysgol y Flwyddyn.”
Mae'r gwobrau'n cydnabod grwpiau ac unigolion sy'n barod i fynd yr ail filltir, yn ogystal â chyfraniadau gan gydweithwyr ar draws y Brifysgol. Eleni, cafwyd 195 o enwebiadau ar draws 15 o gategorïau gwobrwyo.