Sgriniad gwneuthurwyr ffilmiau Namibïaidd yn Chapter
13 Tachwedd 2017
Mae dau wneuthurwr ffilm sy’n cael eu mentora yng Nghymru wedi cael eu gwaith wedi ei sgrinio yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter yn rhan o ŵyl ffilmiau Affricanaidd.
Penllanw cyfnod preswyl pythefnos o hyd yng Nghymru oedd y sgriniad i Felicia Mutonga a Darryn February. Fe’i cefnogwyd gan Brifysgol Caerdydd.
Enillodd Felicia a Darryn gystadleuaeth am eu ffilmiau byrion am ddiwylliant ieuenctid ac amlieithrwydd yn Namibia. Fe’u dangoswyd yn Chapter ar 12 Tachwedd yn rhan o ŵyl ffilmiau Watch Africa 2017.
Noddwyd y breswylfa gan brosiect arloesol i gefnogi ac astudio amlieithrwydd yn Namibia - Trawswladoli Ieithoedd Modern: Heriau Byd-eang. Fe’i hariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Fe'i datblygwyd drwy bartneriaeth rhwng Prosiect Phoenix Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Namibia (UNAM) a gŵyl ffilmiau Watch Affrica.
Mae’r mentora wedi helpu Felicia a Darryn i sefydlu cysylltiadau hirhoedlog â’r sector ffilmiau yng Nghymru, gan hefyd gynnig llwyfan ar gyfer eu gwaith.
Meddai Felicia: "Braint ac anrhydedd yw cael y cyfle fydd yn dylanwadu ar fy nyfodol i yn ogystal â’r rhai fydd yn fy nilyn."
Ychwanegodd Darryn: "Roedd yn gyfle gwych i ni ddatblygu ein sgiliau gwneud ffilmiau."
Dywedodd yr Athro Loredana Polezzi, o’r Ysgol Ieithoedd Modern, a hithau’n aelod o’r tîm Trawswladoli Ieithoedd Modern: "Mae Namibia yn wlad lle siarad nifer o ieithoedd yw’r norm..."
Dywedodd Fadhili Maghiya, Cydlynydd gŵyl ffilmiau Watch Africa: Wales Africa: "Pan sefydlwyd yr ŵyl gennym yn 2012, ein bwriad oedd creu cyfleoedd i ddarpar-wneuthurwyr ffilmiau ddysgu ac arddangos eu gwaith. Mae gallu gwneud hynny’n gynt na’r disgwyl yn rhoi bodlondeb mawr i ni. Mae’r bartneriaeth â Phrifysgol Caerdydd a nifer eraill wedi bod yn ffactor mawr wrth ein galluogi i wneud hyn. Rydym yn gobeithio mai dim ond y dechrau yw hyn."
Cefnogir yr ŵyl gan y Sefydliad Ffilmiau Prydain (BFI), Cyngor Celfyddydau Cymru, Mis Hanes Pobl Dduon, Llywodraeth Cymru, Panel Cynghori Is-Sahara, Prifysgol Caerdydd, Hub Cymru Affrica, ac eraill.
Partneriaeth â Phrifysgol Namibia yw Prosiect Phoenix sy’n mynd i’r afael â thlodi ac yn hyrwyddo iechyd da. Mae’n rhan o o fenter Trawsnewid Cymunedau Prifysgol Caerdydd i wella iechyd, cyfoeth, a lles cymunedau yng Nghaerdydd, Cymru, y DU, a’r tu hwnt.