Eleni, mae’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia yn dathlu carreg filltir fawr, sef 150 mlynedd ers ei sefydlu yn 1865. I gofio’r digwyddiad arwyddocaol hwn, mae Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yn cynnal cynhadledd ryngwladol ar hanes a sefyllfa gyfoes y Wladfa ddydd Llun a dydd Mawrth, 6–7 Gorffennaf 2015.
Cynhaliwyd Stomp rhwng myfyrwyr a staff Ysgol y Gymraeg nos Fercher 10 Mehefin yn Nhafarn y Crwys gyda’r stompfeistri Rhys Iorwerth ac Osian Rhys Jones.
Roedd Dr Llŷr Gwyn Lewis, darlithydd a chyn-fyfyriwr yn Ysgol y Gymraeg, yn dathlu yr wythnos diwethaf wedi iddo ennill yn y categori Ffeithiol Greadigol yn Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn 2015.
Croesawodd Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, Ei Ardderchogrwydd Mr Lauri Bambus, Llysgennad Estonia i’r Brifysgol am ddarlith ar Ddydd Gwener 22ain Mai 2015.
Bydd Lisa Sheppard o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, yn rhan o drafodaeth ar rôl a phwysigrwydd iaith i hunaniaeth a chenedlaetholdeb yn dilyn perfformiad o A Good Clean Heart gan Alun Saunders.
Cynhaliwyd symposiwm ymchwil arbenigol, gan yr Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio, yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, ddydd Mawrth 28 Ebrill 2015.
Mae Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, trwy haelioni Banc Santander, yn cynnig dwy ysgoloriaeth gwerth £3,000 yr un i alluogi dau fyfyriwr israddedig i deithio i Batagonia am fis o brofiad gwaith yn ystod haf 2015.
Pwysleisiwyd y galw am newyddiadurwyr Cymraeg eu hiaith yn ystod trafodaeth banel ar ddyfodol newyddiaduraeth yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd yr wythnos hon.
Bob blwyddyn, yn ystod semester y gwanwyn, daw myfyrwyr o Brifysgol Colgate ym Madison County, Efrog Newydd draw i Brifysgol Caerdydd fel rhan o’u Rhaglen Astudio Tramor. Yn ogystal ag astudio eu pynciau gradd, rhoddir cyfle unigryw iddynt astudio modiwlau yn Ysgol y Gymraeg sy’n canolbwyntio ar iaith a diwylliant Cymru.
Rhwng 24 a 29 Mawrth eleni bydd awduron a darllenwyr ifanc yn heidio i’r brifddinas ar gyfer trydedd bennod Gŵyl Llên Plant Caerdydd. Ond nid yw’r oedolion yn cael eu hanwybyddu, gyda sesiynau penodol wedi eu trefnu ar eu cyfer gan Ysgol y Gymraeg
Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, yw’r orau yng Nghymru a’r seithfed yn y Deyrnas Unedig am ansawdd ei hymchwil yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014.
Bu Michael D. Higgins, Arlywydd Iwerddon, yng Nghymru am ddeuddydd gyda'i wraig Sabina er mwyn dathlu'r cysylltiadau gwleidyddol, economaidd, addysgol a diwylliannol rhwng y ddwy wlad.
Loti Flowers, a student from Crynant near Neath, will be swapping the life of a University student for that of a kitchen maid in the Tudor era with a new S4C living history programme, Y Llys.
Rhyw Flodau Rhyfel, the debut novel of Dr Llŷr Gwyn Lewis, a lecturer at the School of Welsh, has been chosen as one of the volumes of The Bookcase this year.