Wrth i nifer y menywod sy'n gadael y gwaith i ofalu am eu teuluoedd gynyddu, mae darlithydd o Gaerdydd yn trin a thrafod grŵp o arloeswyr ffeministaidd anghofiedig o ddiwedd y 1930au i weld a allwn edrych tuag at y gyfraith i helpu i sicrhau partneriaeth gyfartal o fewn priodas.
Mae ymgyrchydd cymunedol, actifydd cymdeithasol-gyfreithiol, eiriolwr tegwch o ran rhyw a rhywedd, a newidiwr gyrfaoedd creadigol oll wedi cael eu cydnabod am eu cyfraniadau i gymuned yng Ngwobrau (tua) 30 cyntaf Prifysgol Caerdydd.
Wrth i ddelweddau dirdynnol o’r rhyfel yn Wcrain ddod yn rhan annatod o’n bwletinau newyddion nosweithiol, mae dwy drafodaeth banel a drefnwyd ar y cyd gan ganolfan ymchwil Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn ceisio archwilio materion brys sy’n ymestyn y tu hwnt i ffiniau academaidd.
Cafodd grŵp o ddisgyblion ysgol yng Nghymru flas ar y proffesiwn cyfreithiol ym mis Gorffennaf drwy gynllun haf a gynhaliwyd yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.
Croesawodd cynhadledd flynyddol Cymdeithas yr Ysgolheigion Cyfreithiol (SLS) dîm o siaradwyr a chyfranogwyr o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth fis Medi eleni.
Mae Cyngor Eglwysi’r Byd (WCC) yn dod ag eglwysi, enwadau a chymrodoriaethau eglwysig ynghyd o fwy na 120 o wledydd a thiriogaethau ledled y byd, gan gynrychioli dros 580 miliwn o Gristnogion.
Mae uwch-ddarlithydd yn y gyfraith yn rhan o grŵp o academyddion a ddrafftiwyd i adrannau llywodraeth y DU i gynorthwyo yn y gwaith o fynd i'r afael â heriau cyfoes sy'n wynebu'r DU.
Fis Awst eleni lansiwyd ail argraffiad o The Principles of Canon Law Common to the Churches of the Anglican Communion, gwaith a oruchwyliodd Canolfan y Gyfraith a Chrefydd, sy’n rhan o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.
Mae darlithydd yn y gyfraith yng Nghaerdydd ac artist niwroamrywiol wedi dod at ei gilydd gyda ffilm newydd i gyd-fynd ag ymgynghoriad y llywodraeth ar fesurau diogelu i'r rheini sydd angen gofal.
Ym mis Mai eleni, cynhaliodd y Ganolfan Hawliau Dynol a Chyfraith Gyhoeddus gynhadledd rithwir dau ddiwrnod o’r enw Atebolrwydd Corfforaethol dros Gam-drin Hawliau Dynol a Llywodraethu Adnoddau Naturiol: Astudiaeth mewn Cyfraith Fyd-eang, Datblygiad a Chyfiawnder.
Fis Mawrth, cynhaliodd y Ganolfan Astudiaethau Cyfreithiol Proffesiynol ffug dreial i fyfyrwyr mewn llys y goron go iawn. Roedd yn gyfle i fireinio sgiliau a chymwyseddau eiriolaeth hanfodol.
Bu dau fyfyriwr y Gyfraith o Gaerdydd yn profi eu sgiliau yn rownd derfynol y Gystadleuaeth Negodi Genedlaethol eleni, a noddir gan y Ganolfan ar gyfer Datrys Anghydfodau yn Effeithiol (CEDR).