Mae Ysgol Busnes Caerdydd wedi’i chydnabod yn arweinydd byd-eang ym maes marchnata, gan gael lle ymhlith y 100 uchaf ar Restr QS o Brifysgolion Gorau’r Byd yn ôl Pwnc 2025.
Mae ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd wedi cymryd cam sylweddol ymlaen i frwydro yn erbyn risgiau caethwasiaeth fodern ym musnesau bach a chanolig (BBaChau) y diwydiant creadigol yng Nghymru.
Mae MSc newydd mewn Cyllid gyda Thechnoleg Ariannol, sydd wedi ei chynllunio i roi’r arbenigedd i arweinwyr y dyfodol i ffynnu yn y byd ariannol sy’n cael ei ysgogi gan dechnoleg heddiw.
Mae Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd ac Ysgol Busnes Caerdydd wedi creu partneriaeth i gynnig MSc Rheoli Peirianneg (MSc) newydd, sydd wedi ei dylunio i ddatblygu arweinwyr dylanwadol sy'n gallu ysgogi newid cynaliadwy.
Rhwng 7 a 8 Tachwedd 2024, roedd Ysgol Busnes Caerdydd yn falch o gynnal y Gynhadledd Ryngwladol ar 'Gyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR), yr Economi a Marchnadoedd Ariannol'.
Mae RemakerSpace wedi derbyn £48,000 o gronfa Cymorth Arloesi Hyblyg SMART Llywodraeth Cymru i gydweithio ag Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd i greu modelau hyfforddi y gellir eu hailddefnyddio ar gyfer llawdriniaeth y geg.
Mae canllaw cynhwysfawr newydd wedi cael ei lansio i helpu Busnesau Bach a Chanolig (BBaChau) ac awdurdodau caffael i wreiddio gwerth cymdeithasol yn yr hyn y mae eu busnesau yn ei wneud.