26 Mai 2015
Mae un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw'r byd ar led-ddargludyddion cyfansawdd (compound semiconductors) wedi cael ei benodi i arwain labordy ymchwil newydd ym Mhrifysgol Caerdydd
Myfyrwyr meddygaeth a gofal iechyd ar draws y DU yn nodi lefelau uchel o gam-drin a thorri polisïau diogelwch ac urddas cleifion.
22 Mai 2015
Gallai ymyrraeth gan yr heddlu ymhen y 24 awr cyntaf yn dilyn digwyddiad terfysgol fod yn hollbwysig er mwyn lleihau casineb ar-lein a'i atal rhag lledaenu, yn ôl astudiaeth newydd gan wyddonwyr cymdeithasol a chyfrifiadureg Prifysgol Caerdydd..
Rhoddwyd croeso cynnes heddiw i Matthew W Barzun, Llysgennad UDA ar gyfer y DU, i Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, Prifysgol Caerdydd.
21 Mai 2015
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae dros 2,500 o fyfyrwyr nad ydynt yn astudio cyrsiau iaith ym Mhrifysgol Caerdydd wedi dysgu iaith newydd yn rhad ac am ddim yn rhan o gynllun blaenllaw i gynyddu symudedd myfyrwyr yn rhyngwladol.
Mae Prifysgol Caerdydd yn bartner allweddol i brosiect arloesol sy'n manteisio ar bŵer diwylliant er mwyn helpu i fynd i'r afael â thlodi yng Nghymru.
20 Mai 2015
Bydd arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd yn mynd i'r afael â rhai o broblemau mwyaf dybryd cymdeithas gerbron cynulleidfaoedd mewn gŵyl lenyddiaeth fyd-enwog.
19 Mai 2015
Bydd uwchgyfrifiadur yn y Brifysgol yn chwilio am signalau gan synwyryddion tonnau disgyrchiant sydd wedi'u huwchraddio
Academyddion y Brifysgol yn arddangos eu gwaith ymchwil mewn digwyddiad blynyddol yn y Cynulliad
18 Mai 2015
Mae adeilad ymchwil blaenllaw yn y Brifysgol, gwerth £30m, wedi ennill gwobr mawr ei bri yn y diwydiant am ei ddyluniad.