Ewch i’r prif gynnwys

MBBCh Meddygaeth

Diweddarwyd: 18/09/2024 10:07

Gwybodaeth am gofrestru ac ymsefydlu ar gyfer israddedigion newydd sy’n astudio rhaglen MBBCh Meddygaeth.

Ddydd Llun 23 Medi 2024, fe'ch cesglir o'ch neuaddau preswyl gan y Gymdeithas Feddygol dan arweiniad myfyrwyr (MedSoc). Byddant yn cerdded gyda chi i Gampws Iechyd Prifysgol Cymru a chewch gyfle i gwrdd â rhai o'ch cyd-fyfyrwyr meddygol. Os nad ydych chi’n aros yn un o’r prif neuaddau preswyl, dewch i Ddarlithfa 1 yn y Prif Ysbyty erbyn 9.30am.

Bydd y Gymdeithas Feddygol yn arwain y sesiwn am gyfnod byr am 09:30am.

Bydd y sgyrsiau hyn yn cynnwys cyngor gan Dîm Blwyddyn 1 ynghylch sut i reoli eich amserlen, os nad ydych chi'n gyfarwydd â MyTimeTable eto (MyTT, yr adnodd ar-lein y byddwch chi'n ei ddefnyddio trwy eich cwrs astudio).

Bob dydd yn ystod eich Wythnos Cyflwyniad (Dydd Llun 23 Medi - Dydd Gwener 27 Medi) bydd gweithgareddau myfyrwyr yn gysylltiedig â chwrs rhwng 09:00-17:00.  Cyflwynir y rhain drwy gyfuniad o ddarlithoedd personol, gweithgareddau personol ac adnoddau rhyngweithiol ar-lein.


Sut i baratoi ar gyfer Yr Wythnos Gyflwyno:

  • gwnewch yn siŵr eich bod wedi dechrau eich Gwiriad DBS a'i fod ar y gweill (gweler adran Ffurflenni ac Yswiriant Gorfodol isod)
  • ymgyfarwyddwch â’r gwahanol gampysau – enwau’r adeiladau, toiledau a lleoedd i gael bwyd a diod
  • dod o hyd i'ch hoff esgidiau a mwyaf cyfforddus
  • edrychwch ar yr adnoddau gwybodaeth am gyrsiau a'r rhestrau darllen pwysig sydd ar gael i chi (gweler Darllen Paratoi isod)
  • bydd gofyn i chi gofnodi eich presenoldeb mewn gwahanol ddigwyddiadau gan ddefnyddio'r Ap System Rheoli Ysgolion a chodau QR

Ar ôl i chi gael mynediad at Fewnrwyd Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, gallwch ddechrau ymchwilio i'r hyn sydd gan y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr i'w gynnig. Gallwch hefyd ymgyfarwyddo â FyAmserlen a'r llyfrgell yn ogystal â lawrlwytho'r Ap SafeZone. Darllenwch y wybodaeth arall isod i wneud yn siŵr eich bod mor barod ag y gallwch fod.

Isod ceir amlinelliad o'ch deuddydd cyntaf er mwyn i chi allu rhagweld beth fydd yn digwydd:

PrydLleoliadBeth
Dydd Llun 23 Medi (yn dechrau 09:30)Darlithfa 1, Prif Adeilad yr YsbytyMedSoc yn cymryd drosodd
Dydd Llun 23 Medi (yn dechrau 14:30)Darlithfa Michael GriffithCyflwyniadau i staff allweddol yn yr Ysgol Meddygaeth
Dydd Mawrth 24 Medi (yn dechrau 09:30)Darlithfa Michael GriffithSesiwn Gyflwyno Blwyddyn 1
Dydd Mawrth 24 Medi (yn dechrau 13:00)Darlithfa Michael GriffithCymorth i fyfyrwyr, iaith, amrywiaeth a diwylliant
Dydd Mercher 25 Medi (yn dechrau 09:00)Darlithfa Julian HodgeDarlith Wyddoniaeth
Dydd Iau 26 Medi (yn dechrau 09:00)Darlithfa 1, Prif Adeilad yr YsbytyDarlith Sgiliau Clinigol
Dydd Gwener 27 Medi (yn dechrau 09:00)Darlithfa 1, Prif Adeilad yr YsbytyDarlith Wyddoniaeth

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth am gofrestru yn yr Ysgol, cysylltwch â thîm derbyniadau israddedigion yr Ysgol Meddygaeth.

Derbyniadau israddedig

Os oes gennych gwestiynau am gofrestru ar-lein, ffioedd, llety neu gardiau adnabod, cysylltwch â’r tîm priodol neu’r adran briodol.

Ymholiadau ymrestru

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y cwrs ei hun, cysylltwch â thîm israddedigion blwyddyn 1 yr Ysgol Meddygaeth.

Ni fydd y mewnflwch hwn yn cael ei fonitro ar ddydd Llun.

Blwyddyn 1 israddedig yr Ysgol Meddygaeth