Ewch i’r prif gynnwys

BSc Ffarmacoleg Feddygol

Diweddarwyd: 18/09/2024 10:08

Yn fyfyriwr israddedig ym maes Ffarmacoleg Feddygol, byddwch chi’n cychwyn ar ymchwiliad manwl ac o safon i Ffarmacoleg Feddygol fodern, a chewch eich hyfforddiant arbenigol mewn labordai ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol.

Llongyfarchiadau ar gael cynnig lle ym Mhrifysgol Caerdydd. Rydym ni’n edrych ymlaen at eich croesawu wrth i chi ddechrau eich astudiaethau, ac yn gweithio’n galed i wneud yn siŵr y byddwch yn byw ac yn dysgu mewn modd diogel.

I’ch helpu i ddechrau ymsefydlu o ran bywyd myfyriwr, rydym wedi cynllunio gweithgareddau ymsefydlu lle cewch y cyfle i ddod i nabod eich staff a’ch Ysgol Academaidd.

Gweithgareddau Sefydlu 2024

WhenWhereWhat
Dydd Llun 23 Medi, 09:00 - 11:00Canolfan Bywyd MyfyrwyrSgwrs croeso (Myfyrwyr blwyddyn 1)
Dydd Llun 23 Medi, 16:00 - 17:00Caffi’r Biowyddorau, Park PlaceSesiwn holi ac ateb
(myfyrwyr Blwyddyn 1)
Dydd Mawrth 24 Medi,  11:00 - 12:00Canolfan Bywyd MyfyrwyrDarlith Cymorth i Fyfyrwyr
(myfyrwyr Blwyddyn 1)
Dydd Mawrth 24 Medi 13:00 - 14:00Darlithfa 3, Prif Adeilad, Ysbyty Prifysgol Cymru, Campws Parc y Mynydd BychanFfarmacoleg Feddygol Cyfarfod Croeso
(Pob blwyddyn)
Dydd Mawrth 24 Medi, 14:30 - 15:30Ystafell Seminar Ffarmacoleg, Prif Adeilad, Ysbyty Prifysgol Cymru, Campws Parc y Mynydd BychanPhroject Ffarmacoleg Feddygol
(Blwyddyn 3)
Dydd Gwener 27 September, 09:00 - 11:00Canolfan Bywyd MyfyrwyrChi a'ch Cymuned Ddysgu
(Blwyddyn 1)
Dydd Gwener 27 September, 11:00 – 13:00Parc ButeTaith gerdded i fyfyrwyr rhyngwladol (Blwyddyn 1)