Ewch i’r prif gynnwys

Paratoi ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig yn yr Ysgol Meddygaeth

Diweddarwyd ddiwethaf: 08/12/2020 19:33

Llongyfarchiadau ar gael cynnig lle i astudio ar gwrs ôl-raddedig yma yn yr Ysgol Meddygaeth. Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi, eich croesawu i’n cymuned o fyfyrwyr, a’ch cefnogi ar ddechrau eich taith ddysgu gyda ni.

Yma fe welwch awgrymiadau ac adnoddau i'ch paratoi ar gyfer dechrau eich rhaglen neu fodiwl unigol dewisol, i'ch helpu yn ystod wythnosau cyntaf bod yn fyfyriwr ôl-raddedig. Bydd y dolenni hyn ar gael drwy gydol eich rhaglen, fel y gallwch edrych yn ôl drostynt os oes angen.

Sut y gall Siarter y Myfyrwyr eich helpu

P’un a ydych yn dod i Gaerdydd neu’n ymuno ag un o’n rhaglenni dysgu o bell, mae Siarter y Myfyrwyr yn amlinellu’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gan Brifysgol Caerdydd ac Undeb y Myfyrwyr, yn ogystal â’r hyn a ddisgwylir gennych chi fel myfyriwr. Rydym yn argymell yn gryf ei ddarllen cyn i chi gyrraedd neu ddechrau eich rhaglen. Darllen Siarter y Myfyrwyr yn llawn.

Paratoi ar gyfer eich astudiaethau ôl-raddedig

Rydyn ni’n deall yn iawn y gall fod cryn dipyn o amser wedi mynd heibio ers i rai ohonoch astudio’n ffurfiol, a bod rhai ohonoch yn dewis astudio ar y cyd â gweithio yn eich maes dewisol.

Rydym wedi paratoi fideo byr a fydd yn awgrymu rhai pethau defnyddiol i'ch paratoi ar gyfer addysg ôl-raddedig. Gwyliwch am ragor o wybodaeth am yr hyn y gallwch ei wneud nawr i baratoi ar gyfer eich rhaglen.

Gweminar ar alw: Paratoi ar gyfer eich astudiaethau ôl-raddedig

Mae dysgu sut i ysgrifennu’n academaidd yn allweddol bwysig i unrhyw fyfyriwr ôl-raddedig. Rydym wedi creu fideo gydag awgrymiadau defnyddiol ar sut i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu academaidd.

Arddull ysgrifennu academaidd

Defnyddio Adnoddau Gwasanaeth Llyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd

Bydd gennych fynediad i lu o adnoddau a gwasanaethau i’ch cefnogi fel myfyriwr ôl-raddedig drwy Wasanaeth Llyfrgelloedd y Brifysgol. Mae ein llyfrgellydd pwnc arbenigol, Mari Ann, wedi creu fideo, i'ch helpu i ymgyfarwyddo â'r hyn a fydd ar gael i chi wrth ddechrau astudio. Peidiwch â phoeni os nad oes gennych lawer o brofiad yn defnyddio adnoddau llyfrgell - byddwch yn treulio amser gyda’r llyfrgell i gael hyfforddiant wrth ddechrau astudio.

Gweithdai

Asesu eich sgiliau astudio

Rydym yn gwybod y bydd llawer o fyfyrwyr ôl-raddedig fel chi yn ymuno â ni beth amser ar ôl eich profiad diwethaf o fywyd academaidd.

Er mwyn astudio’n effeithiol, bydd arnoch angen rhai sgiliau academaidd a digidol. Bydd deall a myfyrio ar eich lefel sgiliau presennol yn eich galluogi i flaenoriaethu’ch dysgu, a chanolbwyntio eich ymdrechion ar lle mae eu hangen fwyaf.

Bydd ein hadnodd asesu eich sgiliau academaidd yn eich helpu i wneud hynny. Rydyn ni’n argymell yn gryf eich bod chi’n ei ddefnyddio cyn dechrau astudio, er mwyn cael gwybod pa rai o’r adnoddau allai fod o fudd i fodloni anghenion ychwanegol.

Datblygu’r sgiliau astudio cywir

Mae cynfyfyrwyr wedi dweud wrthym fod cael cymorth i ddatblygu'r sgiliau astudio iawn yn gwneud gwahaniaeth go iawn i'w profiad o fod yn fyfyriwr ôl-raddedig. Mae llu o adnoddau i’ch helpu i ddatblygu sgiliau yn ein canllaw sgiliau astudio er enghraifft:

  • darllen ac ymchwilio
  • meddwl yn ddadansoddol
  • gwerthuso tystiolaeth yn feirniadol
  • dyfynnu cyfeirnodau yn gywir
  • ysgrifennu i safon academaidd
  • deallusrwydd artiffisial a gonestrwydd academaidd

Canllaw offer a meddalwedd

Er mwyn paratoi i fynd amdani ar ddiwrnod cyntaf eich rhaglen, rydym yn argymell sicrhau bod gennych yr offer a'r feddalwedd gywir nawr a'u profi i wneud yn hollol siŵr eu bod yn barod i fynd. Mae ein canllaw dechrau arni yn cynnwys rhestr wirio ddefnyddiol ar yr union beth.

Rôl eich tiwtor personol

Tiwtora personol: Eich cyfrifoldeb chi

Pan fyddwch yn dechrau eich astudiaethau gyda ni, byddwch yn cael Tiwtor Personol a fydd yn rhoi cymorth academaidd a bugeiliol i chi drwy gydol eich cwrs. Gwyliwch ein fideo i gael gwybod mwy sut gallant eich helpu.

Cysylltwch â ni

Edrychwn ymlaen at eich gweld ar ddechrau'r rhaglen neu fodiwl unigol o'ch dewis. Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser, estynnwch allan at dîm eich cwrs a fydd yn hapus i helpu. Fel arall, gallwch gysylltu â ni drwy anfon ebost at y cyfeiriad isod.

Astudiaethau ôl-raddedig