Mathemateg
Diweddarwyd: 18/09/2024 12:02
Gwybodaeth am ymrestru ac ymsefydlu ar gyfer yr Ysgol Mathemateg
Edrychwn ymlaen at eich croesawu’n ôl, neu am y tro cyntaf, i’r Ysgol Mathemateg. Isod mae’r amserlen Wythnos Ymrestru ar gyfer myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig, sy’n cynnwys y digwyddiadau sy’n berthnasol i chi a’ch rhaglen.
Mae’r sesiynau yn orfodol os na nodir fel arall.
Myfyrwyr newydd: Mi fydd ymsefydlu yn yr Ysgol yn dechrau'r wythnos yn dechrau 23 Medi 2024 ac mae’n holl bwysig eich bod yn cwblhau eich cofrestru ar-lein cyn gynted â phosib er mwyn i ni allu dyrannu i chi Tiwtor Personol, grŵp wythnos ymsefydlu, a Myfyriwr Mentora. Caiff grwpiau wythnos ymsefydlu a Myfyrwyr Mentora eu dyrannu i fyfyrwyr israddedig newydd ym Mlwyddyn 1 yn unig. Caiff y wybodaeth yma ei rannu gan yr Ysgol cyn 23 Medi felly cadwch olwg allan am neges e-bost. Os cewch unrhyw drafferthion, cysylltwch gyda Swyddfa’r Ysgol.
Gallech ymgyfarwyddo â champws y Brifysgol trwy’r map sydd ar gael ar dudalen we gwybodaeth i ymwelwyr.
Israddedig Blwyddyn 1 - myfyrwyr newydd
Dydd Llun 23 Medi 2024
Amser | Lleoliad | Manylion |
---|---|---|
9:30 - 10:00 | Ystafell 0.01, | Croeso i MATHS a’r Wythnos Ymgofrestru |
10:10 – 11:00 | Labordai cyfrifiaduron (Ystafelloedd 1.34-1.39, 2.35, 4.07, 4.38), Adeilad Abacws | Hyfforddiant ar-lein (Grŵp A) Cadwch olwg ar eich e-byst am fanylion am eich grŵp a pha ystafell, a sicrhewch eich bod yn gwybod eich manylion mewngofnodi Prifysgol Caerdydd ar gyfer y sesiwn yma. Yn ystod y sesiwn cewch gyflwyniad i systemau TG hanfodol a sut i’w ddefnyddio. |
10:10 – 11:00 | Swyddfa Tiwtor Personol, Adeilad Abacws | Cyfarfod eich tiwtor personol (Grŵp B) Cadwch olwg ar eich e-byst am fanylion am eich tiwtor personol, rhif eu swyddfa a map o adeilad Abacws. Yn ystod y sesiwn anffurfiol yma cewch gyfarfod eich tiwtor personol a gweddill y grŵp tiwtor. |
11:00 – 12:00 | Labordai cyfrifiaduron (Ystafelloedd 1.34-1.39, 2.35, 4.07, 4.38), Adeilad Abacws | Hyfforddiant ar-lein (Grŵp B) Cadwch olwg ar eich e-byst am fanylion am eich grŵp a pha ystafell, a sicrhewch eich bod yn gwybod eich manylion mewngofnodi Prifysgol Caerdydd ar gyfer y sesiwn yma. Yn ystod y sesiwn cewch gyflwyniad i systemau TG hanfodol a sut i’w ddefnyddio. |
11:00 – 12:00 | Swyddfa Tiwtor Personol, Adeilad Abacws | Cyfarfod eich tiwtor personol (Grŵp A) Cadwch olwg ar eich e-byst am fanylion am eich tiwtor personol, rhif eu swyddfa a map o adeilad Abacws. Yn ystod y sesiwn anffurfiol yma cewch gyfarfod eich tiwtor personol a gweddill y grŵp tiwtor. |
12:00 – 13:00 | Cyntedd yr Adeilad | Cymorth cysylltu â’r wifi (opsiynol) Mi fydd aelodau’r tîm TG ar gael os oes angen unrhyw cymorth i gysylltu eich dyfeisiau i’r rhwydwaith diwifr (eduroam). |
Dydd Mawrth 24 Medi 2024
Amser | Lleoliad | Manylion |
---|---|---|
9:00-9:30 | Cyntedd yr Adeilad | Cymorth cysylltu â’r wifi (opsiynol) Mi fydd aelodau’r tîm TG ar gael os oes angen unrhyw cymorth i gysylltu eich dyfeisiau i’r rhwydwaith diwifr (eduroam). |
9:30 – 11:00 | Ystafell 0.01, | Ymsefydlu Blwyddyn 1 Mi fydd y sesiwn yma yn cynnwys negeseuon pwysig gan staff, trosolwg o’ch cwrs, a gwybodaeth hanfodol ar gyfer eich blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd. |
14:00 – 16:00 | Ar-lein – Learning Central | Ymwybyddiaeth EDI Cewch ddefnyddio’r amser yma i gwblhau’r modiwl Ymwybyddiaeth EDI. Chwiliwch ar EDIAware-ORG-UG-Cymraeg (cyfrwng Cymraeg) neu EDIAware-ORG-UG (cyfrwng Saesneg) neu canfyddwch y mudiad y gelwir ‘Ymwybyddiaeth o Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant’ neu ‘Equality, Diversity and Inclusion Awareness’ ar Learning Central. |
Dydd Mercher 25 Medi 2024
Amser | Lleoliad | Manylion |
---|---|---|
10:00 - 11:00 | Ystafell 0.01, | Cyflwyniad i fodiwlau a darlithwyr Blwyddyn 1 Cewch eich cyflwyno i’ch arweinwyr modiwlau ym Mlwyddyn 1 a chewch wybodaeth am beth i ddisgwyl o’ch darlithoedd. |
11:10 – 12:00 | Ystafell 0.01, | Cwis a storïau myfyrwyr Clywch gan fyfyrwyr profiadol o MATHS o flynyddoedd 2/3 a chewch gyfle i ofyn cwestiynau iddynt. Mi fydd y sesiwn hefyd yn cynnwys cwis gyda gwobr i’r enillwyr. |
12:10 – 13:00 | Llawr isaf yr Adeilad | Lluniaeth Blwyddyn 1 Cysylltwch â phobl o’ch cwrs! Mi fydd y sesiwn yma yn darparu cyfle anffurfiol i sgwrsio gyda myfyrwyr a staff o’ch cwrs. |
Dydd Iau 26 Medi 2024
Amser | Lleoliad | Manylion |
---|---|---|
9:30 – 10:00 | Ystafell 0.01, | Terfyn yr wythnos ymsefydlu Tynnwn yr wythnos i’w derfyn a darparwn gyfle arall i chi ofyn unrhyw gwestiynau arall sydd gennych. |
10:00 – 11:00 | Ystafell 0.01, | Darlith enghreifftiol Mi fydd y ddarlith enghreifftiol yma yn cynnwys cyflwyniad byr i’r ffyrdd y byddech yn gweithio trwy gydol y flwyddyn, paratoad ar gyfer darlithoedd a beth ddylech ddisgwyl o diwtorialau. |
11:00 - 12:00 | Ystafelloedd 0.34, 3.02, 5.05, Adeilad Abacws | Dosbarth Problemau enghreifftiol (Grŵp A) Cadwch olwg ar eich e-byst am fanylion am eich grŵp a pha ystafell. |
12:00 – 13:00 | Ystafelloedd 0.34, 3.02, 5.05, Adeilad Abacws | Dosbarth Problemau enghreifftiol (Grŵp B) Cadwch olwg ar eich e-byst am fanylion am eich grŵp a pha ystafell. |
14:00 – 16:00 | Ystafelloedd 3.02, 3.38, 5.05, Adeilad Abacws | Gweithgareddau Cymdeithasol MATHS (opsiynol) Yn ystod y sesiwn yma cewch gyfle anffurfiol i chwarae gemau bwrdd, gemau cardiau casgladwy, a thennis bwrdd. O bosib bydd gweithgareddau arall hefyd ar gael. Cewch ymuno ar unrhyw bryd. Mi fydd yn gyfle gwych i ddod i adnabod myfyrwyr arall o’r ysgol. |
Israddedig Blwyddyn 1 – myfyrwyr sy’n ailsefyll
Dydd Mercher 25 Medi 2024
Amser | Lleoliad | Manylion |
---|---|---|
12:10 – 13:00 | Llawr isaf yr Adeilad | Lluniaeth Blwyddyn 1 Cysylltwch â phobl o’ch cwrs! Mi fydd y sesiwn yma yn darparu cyfle anffurfiol i sgwrsio gyda myfyrwyr a staff o’ch cwrs. |
Dydd Iau 26 Medi 2024
Amser | Lleoliad | Manylion |
---|---|---|
10:30 – 11:30 | Ystafell 2.26, Adeilad Abacws | Croeso Nôl Blwyddyn 1 Yn y sesiwn yma cewch wybodaeth bwysig am ailadrodd eich blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd. |
12:00 – 13:00 | Ystafell 5.05, Adeilad Abacws | Dosbarth Problemau enghreifftiol (Grŵp B) Rydym wedi addasu ein cymorth tiwtorialau ym Mlwyddyn 1. Dyma blas ar y Dosbarthiadau Problemau newydd. |
14:00 – 16:00 | Ystafelloedd 3.02, 3.38, 5.05, Adeilad Abacws | Gweithgareddau Cymdeithasol MATHS (opsiynol) Yn ystod y sesiwn yma cewch gyfle anffurfiol i chwarae gemau bwrdd, gemau cardiau casgladwy, a thennis bwrdd. O bosib bydd gweithgareddau arall hefyd ar gael. Cewch ymuno ar unrhyw bryd. Mi fydd yn gyfle gwych i ddod i adnabod myfyrwyr arall o’r ysgol. |
Israddedig Blwyddyn 2
Dydd Mawrth 24 Medi 2024
Amser | Lleoliad | Manylion |
---|---|---|
11:30 – 13:00 | Ystafell 0.01, | Croeso Nôl Blwyddyn 2 Yn y sesiwn yma cewch wybodaeth bwysig am eich ail flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd. |
13:30-14:00 | Llawr isaf yr Adeilad | Ffair Modiwlau Blwyddyn 2 (opsiynol) Dewch i ganfod mwy am y modiwlau opsiynol ym Mlwyddyn 2 cyn i chi gwneud eich dewisiadau. |
Dydd Iau 26 Medi 2024
Amser | Lleoliad | Manylion |
---|---|---|
14:00 – 16:00 | Ystafelloedd 3.02, 3.38, 5.05, Adeilad Abacws | Gweithgareddau Cymdeithasol MATHS (opsiynol) Yn ystod y sesiwn yma cewch gyfle anffurfiol i chwarae gemau bwrdd, gemau cardiau casgladwy, a thennis bwrdd. O bosib bydd gweithgareddau arall hefyd ar gael. Cewch ymuno ar unrhyw bryd. Mi fydd yn gyfle gwych i ddod i adnabod myfyrwyr arall o’r ysgol. |
Israddedig Blwyddyn 3
Dydd Llun 23 Medi 2024
Amser | Lleoliad | Manylion |
---|---|---|
12:00 – 13:00 | Ystafell 0.01, | Croeso Nôl Blwyddyn 3 Yn y sesiwn yma cewch wybodaeth bwysig am eich trydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd. |
13:30-14:00 | Llawr isaf yr Adeilad | Ffair Modiwlau Blwyddyn 3 (opsiynol) Dewch i ganfod mwy am y modiwlau opsiynol ym Mlwyddyn 3 cyn i chi gwneud eich dewisiadau. |
Dydd Iau 26 Medi 2024
Amser | Lleoliad | Manylion |
---|---|---|
14:00 – 16:00 | Ystafelloedd 3.02, 3.38, 5.05, Adeilad Abacws | Gweithgareddau Cymdeithasol MATHS (opsiynol) Yn ystod y sesiwn yma cewch gyfle anffurfiol i chwarae gemau bwrdd, gemau cardiau casgladwy, a thennis bwrdd. O bosib bydd gweithgareddau arall hefyd ar gael. Cewch ymuno ar unrhyw bryd. Mi fydd yn gyfle gwych i ddod i adnabod myfyrwyr arall o’r ysgol. |
Israddedig Blwyddyn 4
Caiff sesiwn Croeso Nôl ei gynnal yn Wythnos 1 (wythnos yn dechrau 30 Medi).
Dydd Iau 26 Medi 2024
Amser | Lleoliad | Manylion |
---|---|---|
14:00 – 16:00 | Ystafelloedd 3.02, 3.38, 5.05, Adeilad Abacws | Gweithgareddau Cymdeithasol MATHS (opsiynol) Yn ystod y sesiwn yma cewch gyfle anffurfiol i chwarae gemau bwrdd, gemau cardiau casgladwy, a thennis bwrdd. O bosib bydd gweithgareddau arall hefyd ar gael. Cewch ymuno ar unrhyw bryd. Mi fydd yn gyfle gwych i ddod i adnabod myfyrwyr arall o’r ysgol. |
Ôl-raddedigion a Addysgir (MSc)
Dydd Mawrth 24 Medi 2024
Amser | Lleoliad | Manylion |
---|---|---|
10:00 – 11:00 | Ystafell E/1.21, Adeilad Sir Martin Evans | (opsiynol: ar gyfer myfyrwyr Tsieineaidd) Cyflwyniad y Sefydliad Confucius i Sefydliadau Addysg Uwch yn y DU |
12:00 – 13:00 | Darlithfa Sir Stanley Thomas, Canolfan Bywyd y Myfyrwyr | Cyflwyniad Ymsefydlu – pob rhaglen MSc |
13:00 - 16:00 | Ystafell Katherine Johnson, Adeilad Frenhines | Casglu'r cyfrifiadur - (Gwyddor Data a Dadansoddi (MSc)) |
14:00 – 16:00 | Ar-lein – Learning Central | Ymwybyddiaeth EDI Cewch ddefnyddio’r amser yma i gwblhau’r modiwl Ymwybyddiaeth EDI. Chwiliwch ar EDIAware-ORG-UG-Cymraeg (cyfrwng Cymraeg) neu EDIAware-ORG-UG (cyfrwng Saesneg) neu canfyddwch y mudiad y gelwir ‘Ymwybyddiaeth o Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant’ neu ‘Equality, Diversity and Inclusion Awareness’ ar Learning Central. |
Dydd Mercher 25 Medi 2024
Amser | Lleoliad | Manylion |
---|---|---|
14:00 - 15:00 | Ystafell 0.01, Adeilad Abacws | Sgiliau Saesneg Academaidd (dewisol ar gyfer pob myfyriwr) |
15:10 – 17:00 | Darlithfa Sir Stanley Thomas, Canolfan Bywyd y Myfyrwyr | Sesiwn Adolygu ar gyfer myfyrwyr MSc |
Dydd Iau 26 Medi 2024
Amser | Lleoliad | Manylion |
---|---|---|
9:00 – 10:00 | Darlithfa Sir Stanley Thomas, Canolfan Bywyd y Myfyrwyr | Cyflwyniad i’ch arweinwyr cwrs a modiwlau - MSc Gwyddor Data a Dadansoddeg / MSc Dadansoddi Data i'r Llywodraeth |
11:00 – 12:00 | Ystafell 0.04, Adeilad Abacws | Cyflwyniad i’ch arweinwyr cwrs a modiwlau – MSc Ymchwil Weithredol ac Ystadegau Cymhwysol / MSc Ymchwil Weithredol, Ystadegau Cymhwysol a Risg Ariannol |
14:00 – 16:00 | Ystafelloedd 3.02, 3.38, 5.05, Adeilad Abacws | Gweithgareddau Cymdeithasol MATHS (opsiynol) Yn ystod y sesiwn yma cewch gyfle anffurfiol i chwarae gemau bwrdd, gemau cardiau casgladwy, a thennis bwrdd. O bosib bydd gweithgareddau arall hefyd ar gael. Cewch ymuno ar unrhyw bryd. Mi fydd yn gyfle gwych i ddod i adnabod myfyrwyr arall o’r ysgol. |
Dydd Gwener 27 Medi 2024
Amser | Lleoliad | Manylion |
9:30 – 11:00 | Ystafell 0.01, | Sesiwn Adolygu ar gyfer myfyrwyr MSc |
12:00 – 13:00 | Darlithfa Sir Stanley Thomas, Canolfan Bywyd y Myfyrwyr | Traethodau Hir a Gyrfâu - Sesiwn Gwybodaeth ar gyfer bob myfyriwr MSc |
Adnoddau ychwanegol
- Glas Undeb Myfyrwyr - Mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau o 16 i 29 Medi a Ffeiriau’r Glas o ddydd Llun 23 i ddydd Iau 26 Medi.
- Teithio i Gaerdydd (ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol) - Mae nifer o ffyrdd y gallwch chi deithio i Gaerdydd. Mae'n bwysig eich bod yn cynllunio'ch llwybr ymlaen llaw.
- Clirio mewnfudo (ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol) - Darganfyddwch beth fydd angen i chi ddod gyda chi, pa sianel i basio drwodd yn y neuadd dollau a beth i'w wneud os bydd problemau'n codi.
- Casgliad Cerdyn Adnabod Myfyriwr - Mae eich cerdyn adnabod myfyriwr yn cynnig prawf adnabod, mynediad llyfrgell ac e-ddysgu a'r gallu i gael mynediad i adeiladau'r brifysgol.
- Ap Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd - Cynlluniwyd i gefnogi eich profiad myfyriwr a'ch helpu i reoli bywyd prifysgol.
- Awgrymiadau ar gyfer rheoli eich mewnflwch e-bost - Darganfyddwch sut i reoli eich mewnflwch e-bost fel y gallwch chi wneud y gorau o'ch amser yn y brifysgol. Gwyliwch y fideo byr hwn a grëwyd gan fyfyrwyr CU i gael awgrymiadau ar sut i ddefnyddio'ch blwch post yn effeithlon.
- Gwneud cais am gyrsiau iaith - Agorwch fyd o gyrchfannau newydd, diwylliannau ysbrydoledig ac opsiynau gyrfa cyffrous trwy gofrestru ar gwrs iaith.
- Swyddi a phrofiad gwaith (tîm Dyfodol Myfyrwyr) - Sut i ddod o hyd i waith rhan-amser a chael mynediad at gyngor a chymorth gyrfa.
Cael cefnogaeth gan fyfyrwyr cyfeillgar a phrofiadol yn eich ysgol.