Ewch i’r prif gynnwys

Ymsefydlu yn eich Ysgol

Diweddarwyd: 26/06/2024 10:00

Gwybodaeth am eich rhaglen ymsefydlu, digwyddiadau croeso a'ch amserlen.

Mae eich ysgol wedi cynllunio rhaglen gyffrous o weithgareddau ymsefydlu, er mwyn eich helpu chi i ddechrau eich profiad academaidd yn y ffordd gorau posibl. Mae'n gyfle i ymgartrefu a dod i adnabod eich cwrs, eich tiwtor personol, staff cymorth yr ysgol, y cyfleusterau, offer dysgu digidol, a'ch cyd-fyfyrwyr newydd.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi ymrestru ar-lein cyn i chi gyrraedd Caerdydd. Bydd yr wythnos ymsefydlu yn digwydd rhwng 23 a 27 Medi. Bydd eich ysgol yn anfon e-bost atoch chi ar ddechrau mis Medi gyda manylion eich rhaglen ymsefydlu gyflawn.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am eich rhaglen ymsefydlu neu os ydych yn cofrestru'n hwyr ar gyfer eich cwrs, cysylltwch â'ch ysgol i gael cymorth.

Digwyddiadau i lasfyfyrwyr

Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd wrth galon bywyd myfyrwyr Caerdydd. P'un a ydych am wneud chwaraeon, ymuno â chymdeithas, gwirfoddoli eich amser yn y gymuned, neu gyfrannu at ein cyfryngau myfyrwyr sydd wedi ennill sawl gwobr, rydych chi wedi dod i'r lle iawn.

Ymunwch a’n digwyddiadau i lasfyfyrwyr dod o hyd i'ch cymuned pan fyddwch yn cyrraedd. Mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnal ystod amrywiol o ddigwyddiadau rhwng 16 a 29 Medi a Ffeiriau'r Glas o ddydd Llun 23 i ddydd Iau 26 Medi.

Gweld eich amserlen

Byddwch yn gallu gweld eich amserlen yn ystod wythnos gyntaf eich cwrs, ar ôl i chi:

Bydd eich amserlen bersonol ar gael ar FyAmserlen, ein hamserlen addysgu ar-lein. Bydd eich amserlen hefyd ar gael drwy Ap y Myfyrwyr.

Efallai bydd rhan o’ch addysg yn dechrau’n hwyrach yn y semester (er enghraifft, seminarau). Felly, mae’n bwysig eich bod yn edrych ar eich amserlen yn rheolaidd. Os nad ydych yn gweld yr hyn rydych yn disgwyl ei weld, cysylltwch â'ch ysgol.