Ewch i’r prif gynnwys

Cael eich cyllid

Diweddarwyd ddiwethaf: 15/08/2024 12:34

Deall sut a phryd byddwch chi’n cael eich cyllid, ac osgoi oedi.

Cael eich cyllid gan Gyllid Myfyrwyr

Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i fyfyrwyr sy'n cael eu hariannu'n llawn drwy Cyllid Myfyrwyr, myfyrwyr gofal iechyd sydd wedi optio allan o Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru a'r rhai sy'n derbyn benthyciad cynhaliaeth cyfradd sefydlog gan eu corff cyllid myfyrwyr yn rhan o Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru.

Cyllid cynhaliaeth

Bydd cyllid, megis benthyciad cynhaliaeth a/neu grant, yn cael ei dalu i'ch cyfrif banc enwebedig ar ôl i chi ymrestru, cyhyd â:

  • bod eich cais am gyllid wedi’i gwblhau ac rydych chi wedi nodi’r manylion cywir am y brifysgol a’r cwrs
  • eich bod wedi cwblhau’r broses ymrestru
  • eich bod wedi cwblhau’r dasg hawl i astudio

Gan na fydd eich cyllid myfyrwyr yn cyrraedd tan ar ôl yr wythnos ymrestru, mae’n hanfodol eich bod yn dod â digon o arian ar gyfer eich costau byw beunyddiol (bwyd, teithio angenrheidiol, mynd allan) yn ystod eich wythnosau cyntaf yn y brifysgol.

Cyllid am ffioedd dysgu drwy Gyllid Myfyrwyr

Os ydych chi wedi gwneud cais ac yn gymwys i gael Benthyciad Ffi Dysgu (mae hyn yn cynnwys myfyrwyr gofal iechyd sydd wedi optio allan o Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru), dysgwch sut mae’r brifysgol yn cadarnhau eich cyllid ffioedd dysgu ac am eich cyfrifoldebau i sicrhau bod eich ffioedd dysgu yn cael eu talu.

Cael eich hawl i gyllid drwy Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru

I gael unrhyw gyllid gan Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru rhaid i'ch cais gael ei asesu a'i gymeradwyo'n llawn. Yn amodol ar hyn, bydd Gwasanaeth Dyfarniadau Myfyrwyr y GIG yn cysylltu â thimau perthnasol yn y brifysgol a fydd yn talu eich cyllid i chi.

Fel arfer, bydd Cynllun Bwrsariaethau GIG Cymru yn talu’r cyllid ar gyfer costau byw myfyrwyr BN Nyrsio a BM Bydwreigiaeth yn eu blwyddyn gyntaf o'r cwrs dros 12 mis. Fel arfer byddwch chi’n cael taliad ar y 15fed o bob mis, gyda'r taliad cyntaf yn cael ei wneud ym mis Hydref, a hynny ar ôl ymrestru. Caiff hwn ei dalu gan Dîm Bwrsariaethau’r Ysgol Gofal Iechyd.

Fel arfer, mae’r cyllid ar gyfer costau byw myfyrwyr Therapi a Hylendid Deintyddol yn cael ei dalu mewn rhandaliadau fesul tymor, a’r Ysgol Deintyddiaeth sy’n trefnu’r taliadau. Bydd angen i chi fod wedi cael eich hysbysiad am ddyfarniad gan Wasanaeth Dyfarniadau Myfyrwyr y GIG er mwyn trefnu’r taliad.

Cyllid ffioedd dysgu drwy’r GIG

Ar gyfer yr holl fyfyrwyr sy'n cael eu hariannu drwy Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru, caiff ffioedd dysgu eu talu’n uniongyrchol i Brifysgol Caerdydd gan y GIG. Fodd bynnag, eich cyfrifoldeb chi o hyd yw sicrhau bod eich cyllid ar waith i dalu eich ffioedd dysgu.

Cynllunio’ch cyllideb

Edrychwch ar ein cyngor ar gyllidebu a defnyddio ein cyfrifiannell costau byw i weld pa mor bell y bydd eich arian yn mynd.

Cymorth

Os oes gennych chi gwestiwn ynghylch cyllid myfyrwyr neu gyllid arall cysylltwch â:

Tîm Cyngor a Chyllid Myfyrwyr