Ewch i’r prif gynnwys

Trwydded deledu

Diweddarwyd: 01/08/2024 14:29

Os byddwch chi'n gwylio, yn lawrlwytho neu'n recordio rhaglenni bydd angen trwydded deledu arnoch chi.

Mae hyn hefyd yn berthnasol wrth wylio, lawrlwytho neu recordio ar lwyfannau megis:

  • BBC iPlayer
  • ITV Player
  • SkyGo
  • All 4
  • YouTube

Mae angen trwydded arnoch os ydych yn gwylio ar deledu, cyfrifiadur desg, gliniadur, ffôn symudol, llechen, consol gemau, teledu digidol, cof bach, blwch digidol neu recordydd DVD/VHS.

Rydym yn eich cynghori i wirio'r derbyniad yn eich ystafell eich hun cyn prynu trwydded deledu, er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych signal digon da i'w ddefnyddio'n rheolaidd.

Gwasanaethau teledu cymunedol

Ceir gwasanaethau teledu digidol yng ngheginau'r preswylfeydd canlynol:

  • Ôl-raddedig a Mwy yn Llys Senghennydd
  • Israddedig a Mwy yn Ne Tal-y-bont
  • Porth Tal-y-bont
  • Llety i deuluoedd yn Llys Cartwright, Neuadd y Brifysgol, 69 Ffordd y Gogledd, 71 Ffordd y Gogledd, 24 Teras Cogan, 26 Teras Cogan ac 80 Stryd Miskin

Ni fyddai trwydded gymunedol neuaddau yn cynnwys eich ystafell, hyd yn oed os oes gennych wasanaethau teledu digidol cymunedol yn eich neuadd.

Dim ond myfyrwyr Ôl-raddedig Ychwanegol yng Ngogledd Talybont sy'n cael gwasanaethau teledu yn y ceginau a'r ystafelloedd gwely.

Ewch i wefan TV Licensing i gael rhagor o wybodaeth a sut i dalu.