Ewch i’r prif gynnwys

Lawrlwythwch Ap y Myfyrwyr

Diweddarwyd: 12/07/2024 09:53

Diben yr ap yw gwella’r profiad o fod yn fyfyriwr a'ch helpu i reoli eich bywyd yn y brifysgol.

Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau’r broses gofrestru ar-lein a chael eich enw defnyddiwr a chyfrinair Prifysgol Caerdydd cewch lawrlwytho Ap y Myfyrwyr am ddim.

Mae fersiwn iOs ac Android ar gael ac ymhlith y nodweddion y mae:

  • calendr: ewch i’ch amserlen a'r cyfarwyddiadau i helpu i ddod o hyd i'ch ffordd o amgylch y campws - gall anfon nodiadau atgoffa hyd yn oed ichi allu cyrraedd mewn da bryd!
  • dod o hyd i le i astudio: dod o hyd i'r lleoliad perffaith i ganolbwyntio ar eich astudiaethau
  • data myfyrwyr: cyrchu’r eich holl ddata myfyriwr mewn un lle, gan gynnwys benthyciadau o’r llyfrgelloedd a chredyd print
  • cerdyn adnabod digidol y myfyriwr: fersiwn ddigidol o'ch cerdyn adnabod i'w ddefnyddio i gadarnhau pwy ydych chi os nad yw’r cerdyn adnabod gyda chi
  • hysbysiadau gwib: cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn yr hysbysiadau gwib. Os bydd argyfwng, dyma'r ffordd gyflymaf hefyd inni gysylltu â chi
  • gwasanaethau cymorth: gallu cyrchu cymorth a chyngor ein gwasanaethau cymorth yn rhwydd a mewngofnodi i apwyntiadau Bywyd Myfyrwyr
  • Offer digidol: mynediad cyflym i'n holl offer ac apiau digidol
  • porthiant newyddion: cael gwybodaeth ddiweddaraf y Brifysgol
  • Darllenydd Codiau QR: cofrestru eich bod yn bresennol mewn darlithoedd a seminarau (os bydd hynny'n berthnasol)
  • gweld pa beiriannau sydd ar gael: caiff myfyrwyr yn llety'r Brifysgol weld faint o beiriannau golchi/sychwyr sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd a phryd bydd un ar gael!

Mynnwch yr ap yn yr App Store  Mynnwch yr ap yn Google Play