Ewch i’r prif gynnwys

Dod o hyd i waith rhan-amser  

Diweddarwyd ddiwethaf: 12/08/2024 16:23

Sut i ddod o hyd i waith rhan-amser a chael cyngor a chymorth gyrfaol.

Mae gweithio ochr yn ochr â'ch astudiaethau yn ychwanegu at eich cyllideb, ond ar ben hynny mae'n ffordd wych o feithrin sgiliau newydd a chwrdd â phobl.

Y Siop Swyddi

Gwasanaeth cyflogaeth i fyfyrwyr sy'n cael ei redeg gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yw’r Siop Swyddi. Cofrestrwch gyda’r Siop Swyddi pan fyddwch chi’n cyrraedd y Brifysgol i ddod o hyd i waith rhan-amser â thâl yn y ddinas a’r cyffiniau.

Gweithio gyda ni

Drwy gydol y flwyddyn, rydyn ni’n recriwtio myfyrwyr i wneud ystod o rolau cyflogedig, yn eu plith cefnogi cyd-fyfyrwyr eraill drwy fod yn hyrwyddwr lles neu fod yn fyfyriwr llysgennad sy’n croesawu darpar fyfyrwyr i Gaerdydd. Cadwch lygad am gyfleoedd recriwtio yn Newyddion Myfyrwyr, eich e-bost wythnosol sy’n rhoi newyddion a’r diweddaraf am swyddi a chyfleoedd.

Dyfodol Myfyrwyr

Efallai eich bod ond yn dechrau yn y brifysgol, ond fydd hi byth yn rhy gynnar i ddechrau meddwl am eich dyfodol. Mae tîm Dyfodol Myfyrwyr yma i estyn cymorth ichi:

  • sgwrsio â chynghorydd gyrfaol ysgolion penodol i gael gwybod pa rai yw eich opsiynau gyrfaol
  • mynd i ffeiriau a digwyddiadau gyrfaol
  • chwilio am swyddi lleol a chyfleoedd profiad gwaith ar y Bwrdd Swyddi
  • trafod cyfleoedd i weithio, astudio neu wirfoddoli dramor.

Mynd i sgwrsio a thîm Dyfodol Myfyrwyr

Mae Dyfodol Myfyrwyr ar lawr cyntaf Canolfan Bywyd y Myfyrwyr. Galw heibio i gael cyngor a syniadau gyrfaoedd ar sut i wella eich CV.

Eich Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr

Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau’r cofrestru ar-lein, cewch greu eich Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr.

Defnyddiwch eich manylion mewngofnodi myfyriwr i agor a theilwra eich proffil gyrfaol.

  • chwilio a gwneud cais am swyddi, profiad gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli
  • trefnu digwyddiadau, gweithdai ac apwyntiadau gyda chynghorydd gyrfaol.

Myfyrwyr rhyngwladol: gweithio'n rhan-amser yn y DU

Mae rhai cyfyngiadau o ran cyflogaeth yn berthnasol, gan ddibynnu ar y math o fisa sydd gennych chi. Mae gwefan Cyngor Materion Myfyrwyr Rhyngwladol y DU (UKCISA) yn amlinellu popeth y dylech chi ei wybod am weithio yn y DU, gan gynnwys:

  • pa fath o waith y gallwch chi ei wneud
  • cyfanswm yr oriau gwaith wythnosol
  • gwneud lleoliadau gwaith ac interniaethau
  • gweithio pan na fyddwch chi’n astudio bellach.

Os ydych chi'n ansicr am unrhyw beth neu os oes gennych chi gwestiynau, mae’r Tîm Cymorth Visa yn gallu helpu.

Cymorth wedi’i deilwra gan Dyfodol Myfyrwyr

Mae Tîm Dyfodol Myfyrwyr yn rhoi cymorth ar ddod o hyd i waith rhan-amser, cael lleoliad a dod o hyd i gyflogwyr sy'n noddi myfyrwyr rhyngwladol.

Pryderon ariannol

Os ydych chi'n cael trafferth o ran costau byw, mae’r tîm Cyngor ac Arian yn gallu rhoi cyngor a chymorth.