Ewch i’r prif gynnwys

Ymweld â’r campws

Diweddarwyd ddiwethaf: 01/12/2023 10:14

Dewch i ymgyfarwyddo â'r campws cyn ichi ddechrau eich astudiaethau.

Mae gan y Brifysgol 2 gampws: Cathays a Pharc y Mynydd Bychan.

Campws Cathays

Mae Campws Cathays ond tafliad carreg o ganol y ddinas ac yn gymysgedd hardd o adeiladau rhestredig a chyfleusterau modern pwrpasol.

Mae Canolfan Bywyd y Myfyrwyr (CSL) wrth galon campws Cathays a chafodd ei dylunio gyda chi mewn cof. Yno mae Gwasanaethau Bywyd Myfyrwyr, 5 llawr o leoedd astudio cymdeithasol cynllun agored, ynghyd â balconi hiraf y DU!

Y drws nesaf i'r Ganolfan mae Undeb y Myfyrwyr sydd wedi ennill sawl gwobr.

Mae Undeb y Myfyrwyr yn rhan o adeilad pwrpasol yng nghanol Caerdydd lle ceir caffis, siopau, bariau, lle i gynnal cerddoriaeth fyw, asiantaeth gosod tai, Swyddfa'r Post, lleoedd astudio hyblyg 24 awr a llawer mwy.

P'un a ydych chi eisiau chwaraeon, ymuno â chymdeithas, gwirfoddoli eich amser yn y gymuned neu gyfrannu at gyfryngau’r myfyrwyr sydd wedi ennill sawl gwobr, rydych chi wedi dod i'r lle cywir!

Cymerwch ran yn nigwyddiadau wythnos y glas i ddod o hyd i'ch cymdeithas pan fyddwch chi’n cyrraedd. Mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnal ystod amrywiol o ddigwyddiadau rhwng 16 a 29 Medi a Ffeiriau'r Glas rhwng dydd Llun 23 a dydd Iau 26 Medi.

Campws Parc y Mynydd Bychan

Ar gampws Parc y Mynydd Bychan mae’r ysgol deintyddiaeth, gofal iechyd a meddygaeth ac mae ganddo ei gyfleusterau penodol ei hun i’r myfyrwyr, gan gynnwys Undeb y Myfyrwyr a’r Llyfrgell Iechyd sydd ar agor 24/7. Oherwydd y cysylltiadau trafnidiaeth da byddwch chi yn Cathays ymhen ychydig mwy na 10 munud.

Cyfleusterau ychwanegol

Ar ben ein lleoedd dysgu ac astudiomae ein campysau yn cynnig ystod o gyfleusterau eraill, gan gynnwys:

Mae gennym ni 10 llyfrgell ledled y ddau gampws ac mae pob un yn cynnig ystod eang o adnoddau a lleoedd astudio.

Oes angen benthyg gliniadur arnoch chi? Mae ein llyfrgelloedd yn cynnig benthyciadau am bythefnos a 4 awr. Cewch hefyd argraffu o'ch gliniadur eich hun neu gyfrifiadur ar y rhwydweithio yn unrhyw un o'n llyfrgelloedd.

Sesiwn ymsefydlu Llyfrgelloedd

Pan fyddwch chi’n cyrraedd y campws, byddwch chi’n cael cynnig sesiwn ymsefydlu ar-lein am y llyfrgelloedd. Cewch hefyd ofyn am daith bersonol o amgylch y llyfrgell wrth y ddesg ymholiadau.

P'un a ydych chi eisiau rhoi cynnig ar gamp newydd neu barhau i hyfforddi mewn un rydych chi eisoes yn ei charu, mae cyfleusterau chwaraeon y Brifysgol ar agor i bawb.

Rydyn ni’n cynnig ystod o gyfleusterau dan do ac awyr agored ar y campws, gan gynnwys canolfan ffitrwydd a sboncen, stiwdio ddawns, pentref hyfforddi a chae chwaraeon 33 erw.

Aelodaeth chwaraeon am bris gostyngol

Os prynwch aelodaeth cyn 31 Hydref cewch ostyngiad o £25 oddi ar ffi’r aelodaeth flynyddol ynghyd â mynediad i 81 o gampfeydd ledled y wlad!

Byw yn llety’r Brifysgol?

Mae Bywyd Preswyl a Chwaraeon y Brifysgol yn trefnu gweithgareddau badminton a phêl-droed wythnosol am ddim yng Nghanolfan Chwaraeon Tal-y-bont. Cyfle gwych yw’r digwyddiadau hyn i wneud ffrindiau newydd a chynnwys gweithgarwch corfforol yn rhan o’ch amserlen wythnosol!

Ymunwch â chlwb chwaraeon.

Yn yr Undeb Athletau mae 68 o glybiau chwaraeon dan arweiniad myfyrwyr ac yn rhoi’r cyfle ichi gynrychioli’r Brifysgol yn rhanbarthol, yn genedlaethol a thu hwnt. Mae clybiau chwaraeon yr Undeb Athletau’n cystadlu'n bennaf yn Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) yn erbyn prifysgolion eraill.

Ewch i sesiwn Rhowch Gynnig Arni i gymryd rhan yn eich hoff gamp neu ddod o hyd i gariad at un newydd!

P'un a ydych chi eisiau coffi boreol, brechdan neu bryd o fwyd poeth, mae gan ein gwasanaeth arlwyo ystod o siopau ledled y campws i ddiwallu eich anghenion.

Mae’r Gaplaniaeth yn 61 Plas y Parc ac yn cynnig cymorth bugeiliol ac ysbrydol i bawb yn y Brifysgol ni waeth a oes gennych chi ffydd benodol neu beidio.

Ystafelloedd tawel

Mae nifer o ystafelloedd tawel ar gael ar y ddau gampws i allu myfyrio a gweddïo.

Ysgolheigion Bach yw ein meithrinfa ar y safle yn 43-45 Plas y Parc, Cathays sy'n cynnig cymorth gofal plant yn ystod eich astudiaethau.

Mynd o le i le

Mae'n hawdd mynd o gwmpas ein campysau a'n dinas ar droed ar feic neu drafnidiaeth gyhoeddus.

  • lawrlwythwch ap y myfyrwyr i’ch helpu i fynd o le i le ar y campws. Gallwch storio eich hoff leoedd a chael gwybod pa gyfleusterau eraill sydd gerllaw.
  • i gynllunio teithio i'r brifysgol ac o amgylch y brifysgol, ewch i My Uni Journey.
  • i gynllunio teithiau tu allan i'r brifysgol, ewch i Traveline Cymru.

Mae beicio'n ffordd iach, werdd a hwyliog o deithio o amgylch y ddinas ac mae'n boblogaidd gyda myfyrwyr. Mae gan Gaerdydd gysylltiad da â rhwydwaith llwybrau beicio sy'n tyfu, gan wneud teithio'n fwy diogel ac yn fwy pleserus.

Mae'r brifysgol yn darparu cyfleusterau storio diogel mewn preswylfeydd ac o amgylch adeiladau'r campws, felly os ydych yn berchen ar feic, beth am ddod ag ef gyda chi? Peidiwch ag anghofio eich cadw chi a'ch beic yn ddiogel.

Gallwch hefyd brynu D-lock drwy daliad heb arian parod gan Ddesg Derbyn Canolfan Diogelwch Prifysgol Caerdydd am £20 (09:00 – 14:30 o ddydd Llun i ddydd Gwener).

Rydym yn gweithio'n agos gyda Heddlu De Cymru sy'n cynnig marcio diogelwch beiciau myfyrwyr drwy gydol y flwyddyn.

Mae gwasanaethau bysiau a threnau ar gael yng nghanol y ddinas, ei maestrefi ac i wahanol leoliadau y tu allan i'r ddinas.

Teithio ar y bws

Mae darparwyr gwasanaeth bws lleol a chenedlaethol yn gwasanaethu'r campysau.

Llwybrau lleolTeithio CenedlaetholBws gwennol i'r maes awyr
Bws CaerdyddNational ExpressTraws Cymru
NATMegabusMaes awyr Caerdydd
Newport Bus (X30 drwy Parc y Mynydd Bychan) Maes awyr Bryste
Stagecoach  
Traws Cymru  

Cerdyn teithio

Gall pobl ifanc rhwng 16 a 21 wneud cais am FyNgherdynTeithio i gael gostyngiad o hyd at 30% ar gostau teithio ar fysiau yng Nghymru.

Teithio ar y trên

Mae Caerdydd Canolog yn ganolfan ar gyfer rhwydwaith trên yng Nghaerdydd, yn cysylltu'r ddinas gyda gweddill De a Gorllewin Cymru a prif ddinasoedd Prydeinig.

Mynediad campwsGorsaf agosafAmser cerdded
Ysgol Peirianneg (Adeiladau Trevithick a'r Frenhines), Tŷ McKenzie, Tŷ Eastgate, Llys Senghennydd, Neuadd Senghennydd, Neuadd GordonHeol y Frenhines CaerdyddTua 10 munud
Adeiladau'r Brifysgol ym Mharc Cathays (ac eithrio rhai sy'n agos i orsaf Heol y Frenhines Caerdydd)CathaysTua 15-20 munud
Adeiladau'r Brifysgol ym Mharc y Mynydd BychanLefel isaf Y Mynydd Bychan a Lefel uchaf Y Mynydd BychanTua 20 munud

Tocynnau a Cardiau Rheilffordd

Gallwch ddewis o docynnau sengl, dychwelyd, multiflex (12 tocyn sengl am bris 10), tocynnau wythnosol, misol a blynyddol.

Gall Cardiau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru eich helpu i arbed arian wrth deithio.18 Mae Cerdyn Rheilffordd Cynilo yn rhoi gostyngiad o 50% ar brisiau tocynnau safonol i bobl ifanc 18 oed, ac mae'r Cerdyn Rheilffordd i Fyfyrwyr yn darparu gostyngiad o 34%.

Cymerwch ran yn her teithio cynaliadwy Newid Camau Caerdydd. Gallwch ennill BetterPoints am ddewis teithiau teithio llesol a chynaliadwy i'r campws ac oddi yno.

Am gymryd rhan bydd myfyrwyr yn cael eu gwobrwyo â BetterPoints i'w defnyddio ar rai cynigion lleol gwych ar y campws, ar y stryd fawr a chyda darparwyr trafnidiaeth lleol. Mae llawer o wobrau i'w hennill hefyd.