Cysylltu â'r wifi
Diweddarwyd: 18/09/2024 16:19
Rydyn ni’n argymell bod yr holl fyfyrwyr a staff yn cysylltu â'r rhwydwaith di-wifr ar y campws, sef eduroam.
Yn ogystal â’r ffaith mai eduroam yw’r cysylltiad mwyaf diogel, gallwch chi ei ddefnyddio ym mhob un o adeiladau'r Brifysgol, y llety a reolir gan y Brifysgol a'r rhan fwyaf o safleoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Unwaith y bydd wedi'i gysylltu, dylai'ch dyfais barhau’n gysylltiedig am 12 mis.
Os ydych chi'n cael trafferth cysylltu ag eduroam, neu os oes angen mynediad cyflym a hawdd arnoch chi i'r rhyngrwyd am gyfnod byr, gallwch chi ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost a'ch cyfrinair y Brifysgol i gysylltu â CU-Wireless. Bydd angen adnewyddu'r cysylltiad â CU-Wireless bob 12 awr. Sylwer: ddim ar gael mewn rhai o leoliadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Darllenwch ein rheolau TG, sy’n berthnasol i bob myfyriwr.
Er mwyn gwella diogelwch, mae rhwydwaith eduroam angen tystysgrif diogelwch i'w lawrlwytho a'i gosod ar eich dyfais.
Efallai na fydd rhai dyfeisiau hŷn yn gallu gweithio ar rwydwaith eduroam oherwydd hen yrwyr rhwydwaith neu ddiffyg cydnawsedd ag offer rhwydweithio modern. Gwiriwch ein datganiad cymorth Dyfais TG am fanylion.
Rydym yn eich argymell i ddiweddaru system weithredu eich dyfais drwy osod yr holl ddiweddariadau a’r darnau, yn ogystal â’r gyrwyr rhwydwaith di-wifr diweddaraf ar eich dyfais ymlaen llaw.
Cysylltu â'r rhwydwaith di-wifr eduroam
Dilynwch y cyfarwyddiadau isod i wneud i’ch dyfais gysylltu ag eduroam.
Bydd y cyfarwyddiadau hyn yn eich tywys drwy'r broses o lawrlwytho a gosod tystysgrif Prifysgol Caerdydd (proffil cyfluniad eduroam) gan fod angen hyn i gysylltu ag eduroam.
Mae'r dystysgrif yn ddilys am 12 mis, felly bydd gofyn ichi ailadrodd y broses hon bob blwyddyn ar gyfer pob dyfais sy'n gysylltiedig ag eduroam. Byddwch chi’n derbyn e-bost atgoffa ychydig cyn i'r dystysgrif ddod i ben.
iPhones ac iPads (yn rhedeg iOS fersiwn 15.0 ymlaen)
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen cysylltiad gweithredol y rhyngrwyd arnoch chi i gwblhau proses sefydlu eduroam.
Os nad ydych chi wedi'ch cysylltu â'r rhyngrwyd ar hyn o bryd, dewiswch 'CU-Wireless' o restr y rhwydweithiau sydd ar gael ar y campws a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i gysylltu â CU-Wireless (yr opsiwn beunyddiol).
Nodwedd Diogelu Dyfais wedi'i Dwyn ar iPhone 17.3 ac uwch
Sylwer bod nodwedd ar iPhones sy'n rhedeg fersiwn 17.3 neu uwch, a elwir yn ‘Nodwedd Diogelu Dyfais wedi'i Dwyn’, yn cyfyngu ar ymarferoldeb eich iPhone pan fyddwch chi mewn lleoedd anhysbys neu anghyfarwydd. Un o'r cyfyngiadau yw lawrlwytho tystysgrifau gan fod angen hyn i gwblhau’r broses gynefino (onboarding) ar gyfer eduroam.
Os nad yw'ch dyfais yn adnabod eich lleoliad presennol yn lleoliad cyfarwydd, rydyn ni’n argymell eich bod yn neilltuo awr i gwblhau'r broses hon.
Ar ôl i'r awr oedi diogelwch ddod i ben, bydd negeseuon 'Sensitif o ran Amser' yn ymddangos i roi gwybod bod cyfnod yr oedi diogelwch wedi dod i ben. Efallai y bydd gofyn ichi ddechrau'r broses o’r newydd.
Cyfarwyddiau
- Ym mhorwr Safari, ewch i https://onboard.cardiff.ac.uk.
- Gofynnir ichi roi’n llawn eich cyfeiriad e-bost a chyfrinair y Brifysgol a chadarnhau bod system weithredu'r ddyfais wedi'i dewis yn gywir.
- Cliciwch Log in.
Mae'r camau nesaf yn disgrifio sut i osod tystysgrif ddiogelwch Prifysgol Caerdydd ar gyfer eduroam.
- Dewiswch Install Profile i ffurfweddu'ch dyfais.
- Byddwch yn cael naidlen, yn gofyn i chi lawrlwytho proffil ffurfweddu eduroam y Brifysgol. Dewiswch Allow. Os yw neges ‘Stolen Device Protection’ yn ymddangos, gweler y canllawiau o dan 'Cyn i chi ddechrau'.
- Wedyn, caiff proffil eduroam ei lawrlwytho. Nawr, mae gofyn ichi ei osod â llaw o fewn yr 8 munud nesaf. I wneud hyn:
- Agorwch yr eicon Settings o’r sgrîn gartref.
- Ar ochr chwith y sgrîn, dewiswch Profile Downloaded.
- Dewiswch Install ar sgrîn proffil gosod eduroam.
- Rhowch gyfrinair eich ffon os gofynnir i chi wneud hynny.
- Dewiswch Install o'r negeseuon naid canlynol.
- Ar ôl i'r proffil gael ei osod, dewiswch Done.
- Rydych chi bellach wedi lawrlwytho a gosod y dystysgrif, a dylech chi fod wedi’ch cysylltu'n awtomatig ag eduroam. Os nad ydych chi wedi eich cysylltu'n awtomatig, dewiswch 'eduroam' o restr y rhwydwaith ac yna Settings > Wi-Fi.
- Pwysig: Er mwyn osgoi cael eich annog i ailgysylltu â'r opsiwn 'dyddiol', sicrhewch eich bod yn 'anghofio' proffil CU-Wireless o restr y rhwydweithiau sydd ar gael:
- Ewch i Settings > Wi-Fi.
- Dewiswch eicon ‘i’ wrth ymyl ‘CU-Wireless’.
- Dewiswch Forget This Network.
- Sicrhewch fod tic las nesaf at y rhwydwaith eduroam. Mae hwn yn dangos eich bod wedi cysylltu a byddwch yn parhau i fod yn gysylltiedig am 12 mis.
Cymorth TG
Cyn i chi gysylltu â ni
Os ydych chi'n cael problemau o ran cysylltu ag eduroam, sicrhewch eich bod wedi cwblhau'r camau canlynol ac yna ewch drwy’r cyfarwyddiadau cynefino (onboarding).
- Gofalwch eich bod chi wedi diffodd unrhyw Rwydweithiau Preifat Rhithwir (VPN) ar eich dyfais. Ewch i Settings > General > VPN and Device Management.
- Ceisiwch anghofio rhwydwaith eduroam, gan ailgychwyn y ddyfais a dechrau'r broses unwaith eto.
- Os nad oedd anghofio rhwydwaith eduroam wedi gweithio, ceisiwch hefyd dynnu proffeil 'eduroam' oddi ar eich dyfais:
- Ewch i Settings > General > VPN & Device Management > Configuration Profile.
- Dewiswch dystysgrif Caerdydd gan glicio Remove profile.
- Dylech chi ddileu hen dystysgrif Prifysgol Caerdydd (os yw'n bodoli):
- Yn Settings, dewiswch General > VPN & Device Management.
- Dewiswch unrhyw dystysgrif sy'n cyfeirio at Ymrestru Dyfais Prifysgol Caerdydd, wedyn dewiswch Remove profile.
- Sicrhewch bod dyddiad ac amser y ddyfais wedi'u gosod i amser y DU.
Dal i gael trafferth?
Os ydych chi'n cael problemau o hyd, cewch:
- ymweld â ni i gael cymorth wyneb yn wyneb
- ffonio Cymorth TG +(44)29 2251 1111
Yn y cyfamser, cofiwch y cewch ddefnyddio CU-Wireless (yr opsiwn beunyddiol) i gyrchu’n gyflym ac yn y tymor byr. Sylwer: ddim ar gael mewn rhai o leoliadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
iPhones ac iPads (fersiynau iOS o dan 15.0)
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen cysylltiad gweithredol y rhyngrwyd arnoch chi i gwblhau proses sefydlu eduroam.
Os nad ydych chi wedi'ch cysylltu â'r rhyngrwyd ar hyn o bryd, dewiswch 'CU-Wireless' o restr y rhwydweithiau sydd ar gael ar y campws a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i gysylltu â CU-Wireless (yr opsiwn beunyddiol).
Cyfarwyddiadau
- Ym mhorwr Safari, ewch i https://onboard.cardiff.ac.uk.
- Gofynnir ichi roi’n llawn eich cyfeiriad e-bost a chyfrinair y Brifysgol a chadarnhau bod system weithredu'r ddyfais wedi'i dewis yn gywir.
- Cliciwch Log in. Mae'r camau nesaf yn disgrifio sut i osod tystysgrif ddiogelwch Prifysgol Caerdydd ar gyfer eduroam.
- Dewiswch Install Profile i ffurfweddu'ch dyfais.
- Byddwch yn cael naidlen, yn gofyn i chi lawrlwytho proffil ffurfweddu eduroam y Brifysgol - dewiswch Allow.
- Wedyn, caiff proffil eduroam ei lawrlwytho. Nawr, mae gofyn ichi ei osod â llaw o fewn yr 8 munud nesaf. I wneud hyn:
- Agorwch yr eicon Settings o'r sgrîn gartref, cliciwch ar General ac yna Profiles.
- Dewiswch Cardiff University Device Enrolment o dan Downloaded Profile.
- Dewiswch install ar sgrîn proffil gosod eduroam.
- Rhowch gyfrinair eich ffon os gofynnir i chi wneud hynny.
- Dewiswch Install o'r negeseuon naid canlynol.
- Ar ôl i'r proffil gael ei osod, dewiswch Done.
- Rydych chi bellach wedi lawrlwytho a gosod y dystysgrif, a dylech chi fod wedi’ch cysylltu'n awtomatig ag eduroam. Os nad ydych chi wedi eich cysylltu'n awtomatig, dewiswch 'eduroam' o restr y rhwydwaith ac yna Settings > Wi-Fi.
- Pwysig: Er mwyn osgoi cael eich annog i ailgysylltu â'r opsiwn 'dyddiol', sicrhewch eich bod yn 'anghofio' proffil CU-Wireless o restr y rhwydweithiau sydd ar gael:
- Ewch i Settings > Wi-Fi.
- Dewiswch yr eicon ‘i’ wrth ymyl ‘CU-Wireless’.
- Dewisiwch Forget This Network.
- Sicrhewch fod tic las gyferbyn y rhwydwaith eduroam. Mae hwn yn dangos eich bod wedi cysylltu a byddwch yn parhau i fod yn gysylltiedig am 12 mis.
Cymorth TG
Cyn i chi gysylltu â ni
Os ydych chi'n cael problemau o ran cysylltu ag eduroam, sicrhewch eich bod wedi cwblhau'r camau canlynol ac yna ewch drwy’r cyfarwyddiadau cynefino (onboarding).
- Gofalwch eich bod chi wedi diffodd unrhyw Rwydweithiau Preifat Rhithwir (VPN) ar eich dyfais. Ewch i Settings > General > VPN and Device Management.
- Ceisiwch anghofio rhwydwaith eduroam, gan ailgychwyn y ddyfais a dechrau'r broses unwaith eto.
- Os nad oedd anghofio rhwydwaith eduroam wedi gweithio, ceisiwch hefyd dynnu proffeil 'eduroam' oddi ar eich dyfais:
- Ewch i Settings > General > VPN & Device Management > Configuration Profile.
- Dewiswch dystysgrif Caerdydd gan glicio Remove profile. Dewiswch dystysgrif Caerdydd gan glicio Remove profile.
- Dylech chi ddileu hen dystysgrif Prifysgol Caerdydd (os yw'n bodoli):
- Yn settings, dewiswch General > VPN & Device Management.
- Dewiswch unrhyw dystysgrif sy'n cyfeirio at Ymrestru Dyfais Prifysgol Caerdydd, wedyn dewiswch Remove profile.
- Gwiriwch fod dyddiad ac amser y ddyfais wedi'u gosod i amser y DU.
Dal i gael trafferth?
Os ydych chi'n cael problemau o hyd, cewch:
- ymweld â ni i gael cymorth wyneb yn wyneb
- ffonio Cymorth TG +(44)29 2251 1111
Yn y cyfamser, cofiwch y cewch ddefnyddio CU-Wireless (yr opsiwn beunyddiol) i gyrchu’n gyflym ac yn y tymor byr. Sylwer: ddim ar gael mewn rhai o leoliadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Cyfrifiaduron a gliniaduron Apple Mac
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen cysylltiad gweithredol y rhyngrwyd arnoch chi i gwblhau proses sefydlu eduroam.
Os nad ydych chi wedi'ch cysylltu â'r rhyngrwyd ar hyn o bryd, dewiswch 'CU-Wireless' o restr y rhwydweithiau sydd ar gael ar y campws a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i gysylltu â CU-Wireless (yr opsiwn beunyddiol).
Os ydych chi mewn llety dan reolaeth y Brifysgol ac yn bwriadu defnyddio cebl ethernet yn lle wifi, gwnewch yn siŵr ei fod wedi'i gysylltu cyn i chi barhau.
Cyfarwyddiau
- Ym mhorwr Safari, ewch i https://onboard.cardiff.ac.uk.
- Ar y dudalen fewngofnodi, rhowch eich cyfeiriad ebost Prifysgol yn llawn a'ch cyfrinair.
- Gwiriwch fod y system gweithredu gywir wedi'i dewis (macOS) o'r gwymplen, cyn dewis Log In.
Mae’r camau nesaf yn disgrifio sut i lawrlwytho a gosod y dystysgrif Prifysgol Caerdydd (proffil ffurfweddu eduroam).
- Dewiswch Install Profile i ffurfweddu'ch dyfais.
- Dewiswch Allow i ganiatáu llwytho i lawr ar 'onboard.cardiff.ac.uk'. Ar hyn o bryd, mae'r proffil newydd wedi llwytho i lawr ar eich dyfais; fodd bynnag, mae angen ei osod. I wneud hyn:
- O eicon Apple yn y gornel chwith uchaf, dewiswch System Settings > Privacy & Security > Profiles (yn achos MacOS Monterey, System Preferences and Profiles).
- Dewiswch Install ar gyfer Cardiff University Device Enrolment.
- Yn y naidlen dewiswch Install.
- Rhowch gôd mynediad/TouchID eich dyfais os gofynnir i chi wneud hynny.
- Unwaith y bydd y proffil wedi'i osod, defnyddiwch yr eicon Maes Awyr yn y bar dewislen uchaf i gysylltu ag eduroam.
- Pwysig: Er mwyn osgoi cael eich annog i ailgysylltu â'r opsiwn 'dyddiol', sicrhewch eich bod yn 'anghofio' proffil CU-Wireless o restr y rhwydweithiau sydd ar gael:
- Ar gyfer MacOS Ventura neu fersiynau diweddarach:
- Agorwch System Settings.
- Dewiswch Wi-Fi.
- Dewiswch Advanced.
- Cliciwch y botwm ‘mwy’ (…) nesa at CU-Wireless.
- Dewiswch Remove From List.
- Cliciwch Remove i gadarnhau.
- Yn achos MacOS 12 Monterey:
- Agorwch System Preferences.
- Dewiswch Network.
- Dewiswch Wi-Fi.
- Dewiswch Advanced.
- Dewiswch CU-Wireless o'r rhestr gan glicio ar y botwm tynnu (-) o dan y rhestr. Cliciwch Remove i gadarnhau.
- Cliciwch OK, yna cliciwch Apply.
- Ar gyfer MacOS Ventura neu fersiynau diweddarach:
Cymorth TG
Cyn i chi gysylltu â ni
Os ydych chi'n cael problemau o ran cysylltu ag eduroam, sicrhewch eich bod wedi cwblhau'r camau canlynol ac yna ewch drwy’r cyfarwyddiadau cynefino (onboarding).
- Gofalwch eich bod chi wedi diffodd unrhyw Rwydweithiau Preifat Rhithwir (VPN) ar eich dyfais. Ewch i Settings > General > VPN and Device Management.
- Sicrhewch bod dyddiad ac amser y ddyfais wedi'u gosod i amser y DU.
- Ceisiwch anghofio rhwydwaith eduroam:
- Ar gyfer MacOS Ventura neu fersiynau diweddarach:
- Defnyddiwch yr eicon wifi (‘Airport’) yn y bar cynnwys i ddatgysylltu o eduroam, os ydych wedi cysylltu ar hyn o bryd.
- Ewch i System Settings> Wifi.
- Scroliwch i lawr ar yr ochr dde a chliciwch ar Advanced.
- Cliciwch y botwm ‘mwy’ (…) nesa at Eduroam.
- Dewiswch Remove From List.
- Cliciwch Remove i gadarnhau.
- Yn achos MacOS Monterey:
- Ewch i System Preferences > Network > Wi-Fi.
- Dewiswch Advanced.
- Dewiswch eduroam o'r rhestr gan glicio ar y botwm tynnu (-) o dan y rhestr.
- Cliciwch OK, ac yna cliciwch Apply.
- Ar gyfer MacOS Ventura neu fersiynau diweddarach:
- Os nad yw’r opsiwn uchod ar gael, ceisiwch waredu’r proffil eduroam oddi ar eich dyfais:
- Ar gyfer MacOS Ventura neu fersiynau diweddarach:
- Ewch i System Settings > Privacy and Security > Profiles.
- Dewiswch y proffil Cardiff University Device Enrolment a chliciwch y botwm ‘-‘ i waredu’r proffil.
- Yn achos MacOS Monterey:
- Ewch i System Preferences > Profiles.
- Dewiswch y proffil Cardiff University Device Enrolment a chliciwch y botwm ‘-‘ i waredu’r proffil.
- Ar gyfer MacOS Ventura neu fersiynau diweddarach:
Dal i gael trafferth?
Os ydych chi'n cael problemau o hyd, cewch:
- ymweld â ni i gael cymorth wyneb yn wyneb
- ffonio Cymorth TG +(44)29 2251 1111
Yn y cyfamser, cofiwch y cewch ddefnyddio CU-Wireless (yr opsiwn beunyddiol) i gyrchu’n gyflym ac yn y tymor byr. Sylwer: ddim ar gael mewn rhai o leoliadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Android
Cyn i chi ddechrau
Yn rhan o'r broses, bydd gofyn ichi lawrlwytho ap ClearPass QuickConnect o Google Play Store. Sicrhewch fod gennych chi gyfrif Google Play cyn cychwyn y cyfarwyddiadau hyn.
Yn ystod y broses osod, bydd ap ClearPass QuickConnect yn gofyn ichi awdurdodi mynediad i rannau o'ch dyfais, gan gynnwys Lleoliad y Ddyfais, Rheoli Galwadau Ffôn a Chyrchu Lluniau, Cyfryngau a Ffeiliau. Ni fydd y broses yn gweithio os gwrthodir unrhyw un o'r rhain.
Bydd angen cysylltiad gweithredol y rhyngrwyd arnoch chi i gwblhau proses sefydlu eduroam. Os nad ydych chi wedi'ch cysylltu â'r rhyngrwyd ar hyn o bryd, dewiswch 'CU-Wireless' o restr y rhwydweithiau sydd ar gael ar y campws a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i gysylltu â CU-Wireless (yr opsiwn beunyddiol).
Cyfarwyddiau
- Ym mhorwr Chrome, ewch i https://onboard.cardiff.ac.uk.
- Gofynnir ichi roi’n llawn eich cyfeiriad e-bost a chyfrinair y Brifysgol a chadarnhau bod system weithredu'r ddyfais (Android) wedi'i dewis yn gywir.
- Cliciwch Log in.
Bydd y camau nesaf yn gosod ap QuickConnect o Google Play Store.
- Dewiswch Install QuickConnect.
- Byddwch yn mynd at Google Play Store i osod ClearPass QuickConnect.
- Ar ôl ei osod, ewch nôl at eich porwr. Dewiswch Install Network Profile a chliciwch Download.
- Dewiswch Open i redeg y rhaglen ClearPass QuickConnect. Dewiswch Continue.
- Pwysig: Gadewch (‘Allow’) i ClearPass QuickConnect gael mynediad at rannau o'ch dyfais, gan gynnwys Device Location, Manage Phone calls ac Access photos, media and files. Ni fydd y broses yn gweithio os gwrthodir unrhyw un o'r rhain.
- Dewiswch Continue yna dewiswch OK.
- Efallai y bydd angen i chi fewngofnodi eto i'r wefan lwytho.
- Os gwelwch chi’r opsiwn i gadarnhau eich bod wedi gosod QuickConnect, dewiswch opsiwn "I have already installed QuickConnect."
Mae'r camau nesaf yn disgrifio sut i osod tystysgrif ddiogelwch Prifysgol Caerdydd ar gyfer eduroam.
- Efallai y bydd gofyn i chi greu sgrîn gloi ddiogel, os gofynnir i chi, dewiswch Set lock a dewis o'r opsiynau a gyflwynir.
- Yna bydd ClearPass QuickConnect yn gosod y tystysgrifau gofynnol.
- Dewiswch OK.
- Os byddwch chi wedyn yn gweld negeseuon gwall, efallai y bydd gofyn ichi ailgychwyn eich dyfais er mwyn i'r gosodiadau weithio.
Gan eich bod eisoes wedi lawrlwytho a gosod y dystysgrif, gallwch gysylltu i eduroam gan ddefnyddio eich cyfrinair ac enw defnyddiwr Prifysgol:
- Ewch i'ch rhestr o rwydweithiau sydd ar gael a dewiswch ‘eduroam’.
- Pwysig: Er mwyn osgoi cael eich annog i ailgysylltu â'r opsiwn 'dyddiol', sicrhewch eich bod yn 'anghofio' proffil CU-Wireless o restr y rhwydweithiau sydd ar gael:
- Ewch i’ch restr y rhwydweithiau sydd ar gael.
- Dewiswch yr eicon cog wrth ymyl ‘CU-Wireless’.
- Dewiswch Forget.
- Nawr gwnewch yn siŵr eich bod wedi'ch cysylltu â rhwydwaith eduroam.
- Bydd Android yn dileu’r rheolaethau caniatâd os nad yw ap yn cael ei ddefnyddio'n rheolaidd. Er mwyn osgoi bod ap ClearPass QuickConnect yn ei anablu, dewch o hyd i'r ap yn eich rhestr o raglenni gan sicrhau eich bod wedi dadglicio opsiwn Remove permissions if app is unused.
Cymorth TG
Cyn i chi gysylltu â ni
Os ydych chi'n cael problemau o ran cysylltu ag eduroam, sicrhewch eich bod wedi cwblhau'r camau canlynol ac yna ewch drwy’r cyfarwyddiadau cynefino (onboarding).
- Gofalwch eich bod chi wedi diffodd unrhyw Rwydweithiau Preifat Rhithwir (VPN) ar eich dyfais.
- Dylech anghofio proffiliau di-wifr cyfredol eduroam a CU-Wireless o restr y rhwydweithiau sydd ar gael os ydynt yn bodoli.
- Dadosodwch y rhaglenni canlynol o’ch dyfais os ydynt yn bodoli: “QuickConnect”, “eduroamCAT”, “Ruckus Cloudpath, ac Arris Company”.
- Sicrhewch bod dyddiad ac amser y ddyfais wedi'u gosod i amser y DU.
Dal i gael trafferth?
Os ydych chi'n cael problemau o hyd, cewch:
- ymweld â ni i gael cymorth wyneb yn wyneb
- ffonio Cymorth TG +(44)29 2251 1111
Yn y cyfamser, cofiwch y cewch ddefnyddio CU-Wireless (yr opsiwn beunyddiol) i gyrchu’n gyflym ac yn y tymor byr. Sylwer: ddim ar gael mewn rhai o leoliadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Windows 10
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen cysylltiad gweithredol y rhyngrwyd arnoch chi i gwblhau proses sefydlu eduroam. Os nad ydych chi wedi'ch cysylltu â'r rhyngrwyd ar hyn o bryd, dewiswch 'CU-Wireless' o restr y rhwydweithiau sydd ar gael ar y campws a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i gysylltu â CU-Wireless (yr opsiwn beunyddiol).
Os ydych chi mewn llety dan reolaeth y Brifysgol ac yn bwriadu defnyddio cebl ethernet yn lle wifi, gwnewch yn siŵr ei fod wedi'i gysylltu cyn i chi barhau.
Cyfarwyddiau
- Agorwch borwr ac ewch i https://onboard.cardiff.ac.uk.
- Ar y dudalen fewngofnodi, rhowch eich cyfeiriad ebost Prifysgol yn llawn a'ch cyfrinair.
- Gwiriwch fod y system gweithredu gywir wedi'i dewis (Windows) o'r gwymplen, cyn dewis Log In.
Mae'r camau nesaf yn disgrifio sut i osod ap QuickConnect i lawrlwytho a rheoli tystysgrif eduroam.
- Ar y dudalen nesaf, cliciwch Start QuickConnect i lawrlwytho rhaglen QuickConnect.
- Efallai y bydd yn rhaid ichi ddewis Keep neu Save pan ofynnir i chi lawrlwytho'r rhaglen.
- Ar ôl i'r rhaglen lawrlwytho, cliciwch ar ArubaQuickConnect.exe i redeg y rhaglen.
- Dewiswch Yes os byddwch yn gweld y neges "Do you want to allow this app to make changes to your device?"
- Bydd hyn yn llwytho ‘Onboard Wizard’ Prifysgol Caerdydd.
Mae'r camau nesaf yn disgrifio sut i osod tystysgrif ddiogelwch Prifysgol Caerdydd ar gyfer eduroam.
- Ar ôl i chi ddewis Next, bydd y rhaglen yn dechrau’r broses i osod y Tystysgrifau angenrheidiol ar eich dyfais.
- Pan fydd naidlen Rhybudd Diogelwch yn ymddangos, dewiswch Yes i osod tystysgrif Cardiff-University-WEB-CA. Efallai y bydd yn ymddangos sawl gwaith, dewiswch Yes ar gyfer pob un. Efallai y gofynnir i chi roi 'administrator password' eich dyfais ar y pwynt hwn.
- Dewiswch Connect i gysylltu â rhwydwaith diwifr eduroam.
- Efallai y bydd angen i chi agor y ddewislen ‘Windows Wireless’ yn y Bar Statws, dewis eich tystysgrif a chlicio OK.
- Ar y dudalen Connection Summary, dewiswch Close.
- Dylech nawr fod wedi'ch cysylltu ag eduroam pan fyddwch ar y campws. Cliciwch ar yr eicon diwifr yn hambwrdd y system i gadarnhau eich bod wedi'ch cysylltu ag eduroam.
Cymorth TG
Cyn i chi gysylltu â ni
Os ydych chi'n cael problemau o ran cysylltu ag eduroam, sicrhewch eich bod wedi cwblhau'r camau canlynol ac yna ewch drwy’r cyfarwyddiadau cynefino (onboarding).
- Gofalwch eich bod chi wedi diffodd unrhyw Rwydweithiau Preifat Rhithwir (VPN) ar eich dyfais.
- Mae angen diffodd meddalwedd atal hysbysebion dros dro.
- Sicrhewch bod dyddiad ac amser y ddyfais wedi'u gosod i amser y DU.
Dal i gael trafferth?
Os ydych chi'n cael problemau o hyd, cewch:
- ymweld â ni i gael cymorth wyneb yn wyneb
- ffonio Cymorth TG +(44)29 2251 1111
Yn y cyfamser, cofiwch y cewch ddefnyddio CU-Wireless (yr opsiwn beunyddiol) i gyrchu’n gyflym ac yn y tymor byr. Sylwer: ddim ar gael mewn rhai o leoliadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Windows 11
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen cysylltiad gweithredol y rhyngrwyd arnoch chi i gwblhau proses sefydlu eduroam. Os nad ydych chi wedi'ch cysylltu â'r rhyngrwyd ar hyn o bryd, dewiswch 'CU-Wireless' o restr y rhwydweithiau sydd ar gael ar y campws a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i gysylltu â CU-Wireless (yr opsiwn beunyddiol).
Os ydych chi mewn llety dan reolaeth y Brifysgol ac yn bwriadu defnyddio cebl ethernet yn lle wifi, gwnewch yn siŵr ei fod wedi'i gysylltu cyn i chi barhau.
Cyfarwyddiau
- Agorwch borwr ac ewch i https://onboard.cardiff.ac.uk.
- Ar y dudalen fewngofnodi, rhowch eich cyfeiriad ebost Prifysgol yn llawn a'ch cyfrinair.
- Gwiriwch fod y system gweithredu gywir wedi'i dewis (Windows) o'r gwymplen, cyn dewis Log In.
Mae'r camau nesaf yn disgrifio sut i osod ap QuickConnect i lawrlwytho a rheoli tystysgrif eduroam.
- Ar y dudalen nesaf, cliciwch Start QuickConnect i lawrlwytho rhaglen QuickConnect.
- Efallai y bydd yn rhaid ichi ddewis Keep neu Save pan ofynnir i chi lawrlwytho'r rhaglen.
- Ar ôl i'r rhaglen lawrlwytho, cliciwch ar ArubaQuickConnect.exe i redeg y rhaglen.
- Dewiswch Yes os byddwch yn gweld y neges "Do you want to allow this app to make changes to your device?"
- Bydd hyn yn llwytho ‘Onboard Wizard’ Prifysgol Caerdydd.
Mae'r camau nesaf yn disgrifio sut i osod tystysgrif ddiogelwch Prifysgol Caerdydd ar gyfer eduroam.
- Ar ôl i chi ddewis Next, bydd y rhaglen yn dechrau’r broses i osod y Tystysgrifau angenrheidiol ar eich dyfais.
- Pan fydd naidlen Rhybudd Diogelwch yn ymddangos, dewiswch Yes i osod tystysgrif Cardiff-University-WEB-CA. Efallai y bydd yn ymddangos sawl gwaith, dewiswch Yes ar gyfer pob un. Efallai y gofynnir i chi roi 'administrator password' eich dyfais ar y pwynt hwn.
- Dewiswch Finish i gysylltu â rhwydwaith diwifr eduroam.
- Dylech nawr fod wedi'ch cysylltu ag eduroam pan fyddwch ar y campws. Cliciwch ar yr eicon diwifr yn hambwrdd y system i gadarnhau eich bod wedi'ch cysylltu ag eduroam.
Cymorth TG
Cyn i chi gysylltu â ni
Os ydych chi'n cael problemau o ran cysylltu ag eduroam, sicrhewch eich bod wedi cwblhau'r camau canlynol ac yna ewch drwy’r cyfarwyddiadau cynefino (onboarding).
- Gofalwch eich bod chi wedi diffodd unrhyw Rwydweithiau Preifat Rhithwir (VPN) ar eich dyfais.
- Mae angen diffodd meddalwedd atal hysbysebion dros dro.
- Sicrhewch bod dyddiad ac amser y ddyfais wedi'u gosod i amser y DU.
Dal i gael trafferth?
Os ydych chi'n cael problemau o hyd, cewch:
- ymweld â ni i gael cymorth wyneb yn wyneb
- ffonio Cymorth TG +(44)29 2251 1111
Yn y cyfamser, cofiwch y cewch ddefnyddio CU-Wireless (yr opsiwn beunyddiol) i gyrchu’n gyflym ac yn y tymor byr. Sylwer: ddim ar gael mewn rhai o leoliadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Chromebook
Cyn i chi ddechrau
Os ydych wedi mewngofnodi gan ddefnyddio cyfrif gwestai, datgysylltwch cyn mynd ati i wneud y dull isod:
Cyfarwyddiau
- Cysylltwch â Rhwydwaith Di-wifr Dev-Setup.
- Agorwch eich porwr Chrome ac ewch i dudalen nad yw'n un https, rydym yn argymell i chi ddefnyddio http://neverssl.com.
- Yn eich porwr Chrome, ewch at https://onboard.cardiff.ac.uk oni bai eich bod yn cael eich cyfeirio’n awtomatig.
- Pwysig: Dewiswch Other fel y System Weithredu, nid Chromebook.
- Teipiwch eich cyfeiriad ebost a’ch cyfrinair Prifysgol.
- Cliciwch y botwm Log in.
- Dewiswch Download certificate, ac ar yr adeg honno bydd onboardCertificates.pkcs12 yn cael ei lawrlwytho i'ch dyfais.
- Cliciwch y dolenni Download Certificate i lawrlwytho'r ffeiliau tystysgrif canlynol. Gwnewch nodyn o ble maen nhw'n cael eu cadw ar gyfer cam diweddarach.
- CardiffUniversityRootCA.crt
- ClearPass_Onboard_Certificate_Authority.crt
- Gwnewch nodyn o destun cyfrinair y dystysgrif i'w ddefnyddio ymhellach ymlaen. Efallai y bydd angen i chi adnewyddu eich porwr er mwyn iddo ymddangos.
- Yn eich porwr Chrome agorwch dab newydd ac ewch i chrome://settings/certificates/.
- Dewiswch y tab Authorities ac yna'r botwm Import.
- Ar waelod chwith y sgrîn, dewiswch Choose all files.
- Dewiswch CardiffUniversityRootCA.crt. Cliciwch Open.
- Peidiwch â dewis unrhyw un o'r tri blwch gwirio. Pwyswch OK.
- Dewiswch y tab Your certificates.
- Pwyswch y botwm Import and Bind.
- Ar waelod chwith y ffenestr, dewiswch Choose all files o'r botwm SSL Client Certificate.
- Lleolwch y ffeil a arbedwyd yng ngham 7 uchod OnboardCertificates.pkcs12. Dewiswch hi, a chliciwch Open.
- Copïwch y cyfrinair a roddwyd ichi yn flaenorol yng ngham 9 i'r blwch testun a gwasgu OK.
- Cliciwch ar eicon y 'cloc' ar waelod ochr dde'r sgrîn.
- Cliciwch ar eicon y ‘settings cog’.
- Ar y dudalen ganlynol, o dan Networks dewiswch Add connection, ac yna Add Wi-Fi.
- Llenwch y manylion canlynol yn eu trefn:
- SSID - Teipiwch 'eduroam'.
- Security - Dewiswch EAP.
- EAP Method - Dewiswch EAP-TLS.
- Dad-diciwch "Allow other users of this device to use this network" ar waelod y dudalen.
- Server Certificate - Dewiswch Cardiff-University-Root-CA.
- User certificate - Dewiswch ClearPass Onboard Certificate Authority.
Identity - Teipiwch eich cyfeiriad ebost Prifysgol. Dewiswch Save identity and Password os oes angen. Dewiswch Connect.
- Dylai'r Chromebook nawr gysylltu'n ddiogel ag eduroam.
Cymorth TG
Cyn i chi gysylltu â ni
Os ydych chi'n cael problemau o ran cysylltu ag eduroam, sicrhewch eich bod wedi cwblhau'r camau canlynol ac yna ewch drwy’r cyfarwyddiadau cynefino (onboarding).
- Gofalwch eich bod chi wedi diffodd unrhyw Rwydweithiau Preifat Rhithwir (VPN) ar eich dyfais.
- Sicrhewch bod dyddiad ac amser y ddyfais wedi'u gosod i amser y DU.
Dal i gael trafferth?
Os ydych chi'n cael problemau o hyd, cewch:
- ymweld â ni i gael cymorth wyneb yn wyneb
- ffonio Cymorth TG +(44)29 2251 1111
Yn y cyfamser, cofiwch y cewch ddefnyddio CU-Wireless (yr opsiwn beunyddiol) i gyrchu’n gyflym ac yn y tymor byr. Sylwer: ddim ar gael mewn rhai o leoliadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Linux
Cyfarwyddiau
- Dylech anghofio proffiliau di-wifr cyfredol ‘eduroam’ a ‘CU-Wireless’ o restr y rhwydweithiau sydd ar gael os ydynt yn bodoli. Cewch hyd i’r rhain o dan Settings a WiFi.
- Ailddechreuwch eich dyfais.
- Ewch i Settings a WiFi.
- Dewiswch Dev-Setup o restr y rhwydweithiau sydd ar gael.
- Bydd eich dyfais yn cysylltu â Dev-Setup, gan ddangos Connected.
- Agorwch borwr Chrome ac ewch i https://onboard.cardiff.ac.uk os nad ydych yn cael eich cyfeirio’n awtomatig.
- Ar y dudalen fewngofnodi, rhowch eich cyfeiriad ebost Prifysgol yn llawn a'ch cyfrinair.
- Gwnewch yn siŵr fod y system weithredu gywir wedi'i chanfod (e.e. Ubuntu (64-bit)) yna cliciwch Log In.
- Dewiswch Start QuickConnect ar y sgrîn nesaf i lawrlwytho ap QuickConnect i'ch dyfais.
- Ar ôl ei lawrlwytho, bydd ffenestr yn ymddangos sy’n cynnwys cyfarwyddiadau gosod. Gweithredu sgript gyda hawliau 'gwraidd':
- Agorwch ffenestr derfynell (e.e. defnyddio ctrl-alt-t).
- Rhedwch sh ~/Downloads/ArubaQuickConnect.sh.
- Arhoswch i ffenestr ap QuickConnect ymddangos ac yna dilynwch y cyfarwyddiadau yn yr ap. Bydd yr ap yn eich annog i roi cyfrinair eich peiriant lleol i'w alluogi i redeg gyda breintiau uwch.
- Cliciwch Finish yn yr ap – dylai'r ffenestr ar y bwrdd ddangos "Device provisioning complete".
- Ailddechreuwch eich dyfais. Dylech nawr wedi eich cysylltu ag eduroam.
Cymorth TG
Cyn i chi gysylltu â ni
Os ydych chi'n cael problemau o ran cysylltu ag eduroam, sicrhewch eich bod wedi cwblhau'r camau canlynol ac yna ewch drwy’r cyfarwyddiadau cynefino (onboarding).
- Gofalwch eich bod chi wedi diffodd unrhyw Rwydweithiau Preifat Rhithwir (VPN) ar eich dyfais.
- Diffoddwch meddalwedd atal hysbysebion dros dro.
- Anghofiwch proffiliau di-wifr cyfredol eduroam a CU-Wireless o restr y rhwydweithiau sydd ar gael os ydynt yn bodoli. Cewch hyd i’r rhain o dan settings a WiFi.
- Sicrhewch bod dyddiad ac amser y ddyfais wedi'u gosod i amser y DU.
- Ailddechreuwch eich dyfais.
Dal i gael trafferth?
Os ydych chi'n cael problemau o hyd, cewch:
- ymweld â ni i gael cymorth wyneb yn wyneb
- ffonio Cymorth TG +(44)29 2251 1111
Yn y cyfamser, cofiwch y cewch ddefnyddio CU-Wireless (yr opsiwn beunyddiol) i gyrchu’n gyflym ac yn y tymor byr. Sylwer: ddim ar gael mewn rhai o leoliadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Ewch ar-lein yn eich llety a reolir gan y Brifysgol
Mae rhwydwaith di-wifr eduroam ar gael ym mhob llety a reolir gan y Brifysgol a’r rhwydwaith hwn yw’r un rydyn ni’n ei argymell o hyd. Os ydych chi'n cael trafferth cysylltu ag eduroam, neu os oes angen mynediad cyflym a hawdd arnoch chi i'r rhwydwaith am gyfnod byr, gallwch chi ddefnyddio eich eich cyfeiriad e-bost a'ch cyfrinair y Brifysgol i gysylltu â CU-Wireless.
Mae gan bob ystafell mewn llety a reolir gan y brifysgol gysylltiadau gwifrau heyfd os oes angen.
Gallwch gysylltu eich dyfeisiau trwy gysylltiad ethernet â gwifrau trwy ddilyn yr un cyfarwyddiadau â chysylltu â'r rhwydwaith diwifr.
Gallwch gysylltu dyfeisiau diwifr eraill fel siaradwyr craff a chonsolau gemau â rhwydwaith CU-PSK. Mae cyfarwyddiadau ar gael ar fewnrwyd y myfyrwyr.
Efallai y bydd consolau chwarae sy'n gysylltiedig â CU-PSK yn rhoi profiad chwarae cyfyngedig ar-lein oherwydd ein strwythur rhwydwaith corfforaethol a'n polisïau wal dân. Gwiriwch ein datganiad cymorth Dyfais TG i weld a yw eich consol chwarae yn bodloni'r gofyniad sylfaenol.
Dim ond rhwydweithiau diwifr 'eduroam', 'CU-Wireless', ‘Dev-Setup’ a 'CU-PSK' sy'n cael eu gweithredu a'u cynnal gan TG y brifysgol. Peidiwch â cheisio cysylltu ag unrhyw rwydwaith arall oni bai eich bod wedi'ch awdurdodi i wneud hynny gan y person sy'n gyfrifol am y rhwydwaith hwnnw.
Cysylltwch â ni
Cymorth TG
Sefydlu eich cyfrif TG a chyrchu ein hoffer digidol.