Dod o hyd i ofal meddygol
Diweddarwyd ddiwethaf: 01/12/2023 10:14
Efallai bod y ffordd rydych chi’n dod o hyd i ofal meddygol yng Nghaerdydd yn wahanol i’r wlad lle buoch chi’n byw o'r blaen.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru mewn meddygfa cyn gynted â phosibl fel y gallwch chi wneud apwyntiad gyda meddyg a chael cymorth meddygol arferol neu frys os bydd angen hyn arnoch chi.
Cofrestrwch mewn meddygfa leol
Dewiswch sut rydych chi eisiau cofrestru gyda meddygfa yng Nghaerdydd:
- cofrestru gyda meddygfa ar-lein gan ddefnyddio CampusDoctor
neu - chwilio am feddygfa leol yn agos at eich cyfeiriad prifysgol a chysylltu â nhw i ofyn a ydyn nhw’n derbyn cleifion newydd
I gofrestru, bydd gofyn y rhain arnoch chi:
- Eich man geni
- Eich cyfeiriad newydd yn ystod y tymor
- enw a chyfeiriad y feddygfa lle rydych chi wedi'ch cofrestru ar hyn o bryd (os yw'n berthnasol)
- hanes meddygol diweddar mewn perthynas ag alergeddau, meddyginiaeth, ystadegau hollbwysig, dewisiadau ffordd o fyw neu unrhyw ddiagnosis neu driniaeth barhaus
Os ydych chi eisiau cofrestru gyda meddyg sy'n siarad Cymraeg, neu feddyg sy'n siarad iaith aralledrychwch ar y meddygfeydd lleol sy'n gallu cynnig hyn.
Meddyginiaeth yn rhad ac am ddim yng Nghymru
Unwaith y byddwch chi wedi cofrestru mewn meddygfa yng Nghymru, bydd gennych chi’r hawl i feddyginiaeth ar bresgripsiwn am ddim.
Eich fferyllfa leol
Eich fferyllfa leol yw’r lle cyntaf i fynd i gael cyngor ar ofal iechyd a thriniaeth os bydd mân salwch megis annwyd a dolur gwddf, pen tost neu ddolur rhydd.
Ar ben hynny, mae Gwasanaeth yr Anhwylderau Cyffredin yn rhoi meddyginiaeth dros y cownter neu ar bresgripsiwn yn rhad ac am ddim yn achos 27 o gyflyrau cyffredin.
Cael gweld gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill
GIG 111 Cymru
Mae GIG 111 Cymru ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Defnyddiwch y gwasanaeth i gael gwybodaeth a chyngor ar iechyd a gofal sylfaenol brys.
Os bydd gofyn ichi fynd i’r Uned Achosion Brys (a elwir yn aml yn uned damweiniau ac achosion brys), yr Uned Mân Anafiadau neu gael gofal y tu allan i oriau dylech chi gysylltu â GIG 111 Cymru yn gyntaf.
Os oes gennych chi argyfwng difrifol neu sy'n bygwth bywyd, dylech chi ffonio 999.
Gofal deintyddol
Nid oes modd mynd i’r afael â phroblemau deintyddol mewn meddygfa, felly ystyriwch gofrestru mewn deintyddfa leol.
I gael gofal deintyddol brys, os nad ydych chi wedi cofrestru mewn deintyddfa, ffoniwch y Llinell Gymorth Ddeintyddol Frys ar 0300 10 20 247.
Optometrydd
Os ydych chi'n cael problemau o ran iechyd eich llygaid, trefnwch apwyntiad gydag optometrydd. Dod o hyd i optometrydd lleol.
Rhwng mis Hydref a mis Mawrth rydyn ni’n cynnig profion llygaid am ddim ac apwyntiadau lensys cyffwrdd yn ein clinigau gan fyfyrwyr.
Atal cenhedlu
Mae eich fferyllfa leol yn gallu darparu cynnyrch dros y cownter megis condomau, profion beichiogrwydd ac atal cenhedlu brys.
Mae fferyllfeydd hefyd yn cynnig gwasanaethau atal cenhedlu'r GIG sy’n gyfrinachol, gan gynnwys darparu atal cenhedlu brys a phontio, cyngor ar ryw mwy diogel ac iechyd rhywiol, ac mae’r cyfan ar gael ym mhreifatrwydd ystafell ymgynghori.
Clinig Iechyd Rhywiol
Mae eich Clinig Iechyd Rhywiol lleol yn cynnig apwyntiadau y gallwch chi eu trefnu ymlaen llaw. Does dim rhaid ichi fynd at eich meddyg teulu cyn mynd i apwyntiad.
Ydych chi wedi cael y brechiadau diweddaraf?
Rydyn ni’n argymell yn gryf eich bod yn cael yr holl frechiadau diweddaraf cyn dod i’r brifysgol.
- Tetanws, Polio a Difftheria
- Y frech goch, clwy'r pennau a rwbela
- Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn argymell bod myfyrwyr dan 25 oed yn cael brechiad ACWY Llid yr Ymennydd.
Gofynnwch yn eich meddygfa os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi wedi cael un o’r brechiadau hyn.
Myfyrwyr gofal iechyd
Caiff hanes eich brechiadau ei adolygu yn rhan o'ch Asesiad Iechyd Galwedigaethol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu darparu'ch cofnodion brechu diweddaraf.
Myfyrwyr rhyngwladol
Rydyn ni’n eich cynghori'n gryf i gadarnhau eich hanes imiwneiddio gyda'ch meddyg cyn teithio i Gaerdydd gan ei bod yn bosibl y bydd angen pigiad atgyfnerthu arnoch chi.
Darllenwch ein canllawiau ar y brechiadau y bydd eu hangen arnoch chi hwyrach.
Os oes angen brechiadau arnoch chi ar ôl cyrraedd y DU, bydd gofyn ichi gofrestru gyda meddyg.